Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nyrs Cofrestredig - Gofal Critigol/ Cleifion Allanol
GIG AfC: Band 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Nyrsys Cofrestredig brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n timau Nyrsio sydd wedi'u lleoli ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae gennym swyddi gwag ar gael yn y meysydd canlynol:
- Nyrs Cofrestredig - Gofal Critigol - Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth.
- Nyrs Cofrestredig - Gofal Critigol - Ysbyty Cyffredinol Lwwynhelyg, Hwlffordd. (Lan i 34.5 awr yr wythnos)
- Nyrs Cofrestredig - Adran Cleifion Allanol - Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. (Lan i 20 awr yr wythnos)
Rydym yn chwilio am Nyrsys sy'n angerddol ac yn llawn cymhelliant ynghylch darparu'r gofal gorau posibl, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn barod i weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig a medrus. Efallai y bydd yn ofynnol gallu teithio rhwng safleoedd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gofal Critigol – Mae yna bedair uned gofal critigol ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn gofalu am gleifion lefel 2 a lefel 3. Mae'r adrannau'n amrywio o ran maint o 4-18 gwely, ac mae pob un yn darparu gwasanaeth 24 awr. Mae'r arbenigeddau clinigol yn amrywio, ond mae pob adran yn gofalu am gymysgedd o gleifion meddygol, llawfeddygol a thrawma.
Cleifion Allanol: Mae’r pedair adran cleifion allanol ledled y Bwrdd Iechyd yn cwmpasu ystod o arbenigeddau megis fasgwlaidd, offthalmoleg, orthopaedeg, meddygaeth gyffredinol, llawfeddygaeth gyffredinol, dermatoleg, y glust, y trwyn a'r gwddf, a gwasanaethau clinigol arbenigol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Amddiffyn Plant
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru e.e. Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedig ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Walsby
- Teitl y swydd
- Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhian DeSouza - [email protected]
Cynorthwyydd Personol i'r Pennaeth Nyrsio
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Resourcing Team
Hafan Derwen
Carmarthen
SA31 3BB
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector