Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ffisiotherapydd Arbenigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig cyfle cyffrous i ffisiotherapyddion brwdfrydig a phrofiadol weithio yn Ysbyty'r Tywysog Philip ym meysydd cleifion mewnol acíwt, strôc ac adsefydlu. Mae gennym ddwy swydd wag – bydd y rhain yn swyddi ar batrwm cylch a fydd yn
gweithio shifftiau yn ein llwybr strôc (y wardiau strôc a'r gwasanaeth strôc integredig cymunedol) a ledled Uned Adsefydlu Mynydd Mawr (MMRU), ynghyd â darparu rhywfaint o fewnbwn i'r gwasanaethau Blaen Tŷ (TOCALS), yn dibynnu ar angen y gwasanaeth.
Os ydych yn teimlo'n frwd ynghylch adsefydlu, yna gallai hwn fod yn gyfle i chi.
Y shifftiau ar batrwm cylch:
Adsefydlu strôc/y tîm strôc integredig cymunedol (CIST): byddwch yn gweithio yn Llanelli, lle byddwch yn darparu cymorth i'r bobl hynny sydd, yn bennaf, wedi cael strôc fel y gallant ddychwelyd adref o'n hunedau strôc acíwt.
Nod y rôl fydd darparu gofal adsefydlu yn yr ysbyty a gartref yn y gymuned leol i gefnogi'r broses bontio o’r ysbyty a galluogi'r claf i ddychwelyd i fod yn annibynnol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â thimau sefydledig i ddarparu proses adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sicrhau gofal parhaus da
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar brofiadau clinigol eang oherwydd y boblogaeth amrywiol sy'n ymgyflwyno i'n gwasanaethau. Bydd disgwyl iddo ddarparu asesiadau arbenigol a llunio cynlluniau triniaeth priodol, a hynny gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol fanwl ac iddi
ffocws ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf a'r pwysau presennol ar y Bwrdd Iechyd, ac ymwybyddiaeth o lif cleifion. Mae'r rôl hon yn golygu goruchwylio myfyrwyr, aelodau staff iau, cynorthwywyr adsefydlu a staff cymorth therapi (ymarferwyr cynorthwyol a gweithwyr cymorth).
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol ac mewn amgylcheddau cyflym a than bwysau mawr, a hynny gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol ac anrhagweladwy, a chan gadw gwerthoedd y Bwrdd Iechyd yn ganolog i bopeth a wnânt.
A chithau'n unigolyn ôl-raddedig amryddawn, bydd gofyn i chi feddu ar sylfaen glinigol gadarn ym maes adsefydlu pobl hŷn, arbenigedd o ran syndrom eiddilwch, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardioanadlol a phroblemau cyhyrysgerbydol, a dealltwriaeth dda o'r materion cyfredol sy'n effeithio ar wasanaethau gofal acíwt, canolraddol a chymunedol
Oherwydd natur y rôl, bydd gofyn i chi allu teithio o fewn y sir, yn ogystal â bod yn hyblyg o ran teithio ledled y Bwrdd Iechyd yn achlysurol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol o ran gweithio wythnos saith niwrnod.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
UNED ADSEFYDLU MYNYDD MAWR (MMRU): byddwch yn darparu proses adsefydlu i bobl sy'n aros ar Uned Adsefydlu Mynydd Mawr, a byddwch hefyd yn darparu cymorth i'r rhai ar wardiau eraill yn yr ysbyty sy'n aros am wasanaeth adsefydlu yn yr uned. Bydd deiliad y swydd yn hyderus wrth arwain sesiynau ymarfer grŵp, rheoli llwyth achosion amrywiol, a goruchwylio pob lefel o staff i gefnogi ein cynorthwywyr adsefydlu a'n staff cymorth ffisiotherapi, a bydd yn gweithio'n agos gyda'r tîm amlddisgyblaethol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 11/12/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r cymhwysedd fframwaith iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tîm
- Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona van Erven / Jenny Avery
- Teitl y swydd
- Clincial Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783307
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Y Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol: Jenny Avery: [email protected] / 01554 783205.
Arweinwyr y Gwasanaeth Ffisiotherapi: Hannah Thomas – [email protected].
Indeg Jameson – [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector