Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Podiatreg
Gradd
Band
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AHP073-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Podiatrydd

Band

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae’r Gwasanaeth Podiatreg/Orthoteg yn y Bwrdd Iechyd yn chwilio am Bodiatrydd brwdfrydig i weithio ym Mand 5. Mae yna hefyd bwyslais cryf ar gwblhau ein cynllun cylchdro Band 5, gan weithio mewn clinigau Cyhyrysgerbydol a Diabetig a chynnal eich llwyth achosion eich hun yn y maes arbenigol hwn.

Mae gan Hywel Dda bwyslais cryf ar ddatblygu staff, mae gennym 5 Presgripsiynydd annibynnol, 5 Uwchsonograffydd, POMs cwbl ddatblygedig ar waith, CMATs a gwasanaeth Fasgwlaidd, ynghyd â staff sy'n gweithio yn yr Uned Mân Anafiadau (MIU).

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio ar lefel band 5 yn bennaf yn y clinigau risg uchel a chyhyrysgerbydol yn cefnogi staff gradd uwch i wneud diagnosis a thrin patholegau y coesau a'r traed.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Y gallu i ddehongli arwyddion a symptomau anhwylderau systemig fel y maent yn amlygu eu hunain yn y coesau a'r traed, gan gyfeirio'n benodol at ddiabetes, fasgwlaidd, arthritis gwynegol, ac arthropathïau eraill.

Dylai podiatryddion allu asesu ar gyfer anhwylderau cardiofasgwlaidd a dermatolegol, a gallu nodi heintiau ac anhwylderau niwrolegol, datblygiadol a malaen.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cynhelir y cyfweliadu ar 29.07.2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Sicrwydd gwybodaeth broffesiynol fel y dangosir gan gymhwyster lefel gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol
  • Yn gymwys i gymhwyso technegau anaesthesia lleol fel yr ardystiwyd o dan Ddeddf Meddyginiaethau 1968
  • Yn gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus craidd perthnasol
Meini prawf dymunol
  • Yn aelod o Gymdeithas y Podiatryddion

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Rheoli llwyth achosion a fyddai'n cynnwys unrhyw gyflwr traed neu sy'n ymwneud â'r traed, a meddu ar y profiad i allu gwybod pryd i atgyfeirio at y clinig tra arbenigol. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys adnabod clefyd fasgwlaidd ymylol, sy'n arwain at necrosis meinweoedd a madredd, neu allu adnabod haint clinigol ac argymell y camau gweithredu cywir, gan gynnwys gwrthfiotigau neu ymchwiliadau pellach
  • Tystiolaeth o arfer ymreolaethol
  • Gweithio mewn tîm rhyngbroffesiynol
  • Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â llywodraethu clinigol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Goruchwylio staff
  • Trafod arferion gweithio amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddatblygu gwasanaethau

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
mike mulroy
Teitl y swydd
Head of Podiatry
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07811348077
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg