Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol, gweithgar, gofalgar i ymuno â’n tîm fel Uwch Weithiwr Cymorth Clinigol Radioleg yn yr adran Radioleg yn Ysbyty Tywysog Philip.
Mae hon yn swydd llawn amser yn yr adran.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i chi fod yn unigolyn sy'n mwynhau gweithio gyda phobl ac sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych.
Rhaid i chi fod yn amyneddgar ac yn drefnus a gallu gweithio'n dda mewn tîm, ond dylech hefyd feddu ar y gallu i fentro a gweithio ar eich pen eich hun.
Ymhlith y dyletswyddau y mae:
Cynorthwyo'r Radiograffwyr sy'n gweithio yn y maes clinigol.
Cyflawni dyletswyddau clercol a gweinyddol.
Croesawu cleifion a'u hebrwng i ystafelloedd newid.
Cynorthwyo cleifion i baratoi ar gyfer gweithdrefnau delweddu.
Cynorthwyo'r radiograffwyr a'r cleifion yn ystod ac ar ôl y gweithdrefnau delweddu.
Gosod canwlâu mewnwythiennol ar gyfer cleifion yn dilyn hyfforddiant.
Tasgau glanhau a hylendid cyffredinol yn yr adran.
Cyfrif stoc ac archebu nwyddau traul dynodedig.
Byddai profiad blaenorol mewn ysbyty yn ddymunol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 11/12/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc gofal iechyd perthnasol, neu feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad cyfatebol ac ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd hyd at achrediad NVQ Lefel 3
- Gwybodaeth sylfaenol am anatomeg a ffisioleg
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am Derminoleg Feddygol/Gofal Iechyd
- Gwybodaeth am waith clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio gyda'r cyhoedd mewn rolau cyflogedig neu wirfoddol
- Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn rôl gefnogol/cynorthwyol fel Gweithiwr Cymorth Radioleg neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) neu brofiad o weithio mewn ysbyty/amgylchedd gofalu
- Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol gan gynnwys technegau aseptig
Arall
Meini prawf hanfodol
- Cliriad Boddhaol Safonol/Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan gynnwys gwiriad Rhestr Waharddedig Oedolion/Plant
- Yn gallu symud a thrin offer a chynorthwyo gyda chodi a chario cleifion
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rhian Munson
- Teitl y swydd
- Deputy Site Lead Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector