Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Y Gwasanaethau Canser
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 27.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-AC133-0624-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
i'w gadarnhau
Tref
i'w gadarnhau
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
06/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweinyddwr Data a Gwybodaeth

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Canser yn Hywel Dda. Mae hwn yn swydd rhan amser - 27.5 awr yr wythnos.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddilysu data a mewnbynnu data i systemau'r Bwrdd Iechyd i gynorthwyo gydag Archwiliadau Canser Cymru Gyfan

Gwaelod y swydd fydd naill ai Ysbyty Bronglais neu Ysbyty Tywysog Philip, a gellir ei drafod a'i gytuno gyda'r ymgeisydd llwyddiannus.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deiliad y swydd yn cysylltu â Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a'u timau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gasglu data a sicrhau bod cofnodion cleifion yn cael eu cofnodi'n gywir.

Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo'r Tîm Gwasanaethau Canser i lunio adroddiadau, cyflawni dyletswyddau gweinyddol a darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i'r Gwasanaethau Canser yn ôl y gofyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gasglu a nodi gwybodaeth fanwl gywir ar gyfer yr archwiliadau canser, gan fewnbynnu’r data i system y Bwrdd Iechyd. Bydd yn cydgysylltu â chlinigwyr, Radiolegwyr a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol eraill i gael data penodol, gan drefnu cyfarfodydd i ddilysu a chyflwyno data i'r Rhwydwaith Canser.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 06.08.24

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi eich addysgu hyd at lefel 3 neu'n meddu ar brofiad perthnasol cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddefnyddio cronfeydd data

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn rôl weinyddol/rôl sy'n gysylltiedig â gwybodaeth
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office, gan gynnwys Excel, PowerPoint ac Access

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Diddordeb cyffredinol mewn defnyddio gwybodaeth i wella effeithiolrwydd er mwyn cefnogi gwasanaethau
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Saumel
Teitl y swydd
Senior MDT Coordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03004307991
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Katie McNally

[email protected]

01267 227842

Anne Young

[email protected]

01437 773116

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg