Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dysgu a Datblygu
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC145-0624-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gadarnhau
Tref
I'w gadarnhau
Cyflog
£51,706 - £58,210 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Rheolwr Dysgu a Datblygu

Gradd 8a

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am Reolwr Dysgu a Datblygu sy’n unigolyn deinamig a phrofiadol, a hynny i arwain y Tîm Dysgu a Datblygu mewn modd tosturiol. Mae'r swydd hon yn hanfodol i ddygni ar ein mentrau sefydliadol o ran hyfforddi a gwella perfformiad. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn angerddol dros ddatblygiad pobl, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a meddylfryd strategol.

Gan gydnabod bod meithrin perthnasoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan allweddol o’r swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cydweithio ac arddangos sgiliau trefnu hynod ddatblygedig, yn ysgogi arloesedd, yn meithrin diwylliant o ddysgu parhaus ac yn sicrhau rheolaeth prosiect effeithiol o weithgareddau dysgu a datblygu ar draws y Bwrdd Iechyd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y canlynol:

  • Profiad profedig o ddylunio a gweithredu rhaglenni hyfforddi llwyddiannus.
  • Dealltwriaeth gref o egwyddorion dysgu oedolion a dylunio hyfforddiadol.
  • Sgiliau cyflwyno, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Hyfedredd gyda systemau rheoli dysgu (LMS) a llwyfannau e-ddysgu.
  • Medru cydweithio a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel.
  • Sgiliau cryf o ran rheoli prosiect a threfnu.

Mae lleoliad y swydd hon o fewn y tair sir i’w gadarnhau, ond bydd angen gallu teithio i safleoedd eraill pan fo angen.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Arwain y tîm i:

  • Lunio dyfodol ein sefydliad trwy raglenni dysgu a datblygu rhagorol.
  • Dylunio, gweithredu a rheoli rhaglenni dysgu a datblygu cynhwysfawr.
  • Cynnal asesiadau anghenion i nodi bylchau sgiliau a gofynion hyfforddi ar draws y sefydliad.
  • Datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi, gweithdai a modiwlau e-ddysgu diddorol.
  • Gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddi a gwneud gwelliannau’n barhaus.
  • Cydweithio â phenaethiaid adrannau i gysoni mentrau hyfforddi â nodau busnes.
  • Rheoli'r system rheoli dysgu (LMS) ac adnoddau hyfforddi eraill.
  • Bod yn gyfredol â thueddiadau diwydiant ac arferion gorau mewn dysgu a datblygu.
  • Cefnogi’r gwaith o gynllunio olyniaeth a mentrau datblygu gyrfa.

Rheoli Prosiect:

  • Cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni dysgu, gweithdai a modiwlau e-ddysgu.
  • Cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i nodi anghenion hyfforddi, a dylunio atebion wedi'u teilwra.
  • Monitro amserlenni, cyllidebau a dyraniad adnoddau ar gyfer prosiectau.
  • Hyrwyddo diwylliant o ddysgu a datblygu ar draws y sefydliad.

Llywodraethu, Cydymffurfiaeth a Sicrwydd Ansawdd:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio a llywodraethu ariannol.
  • Goruchwylio’r gwaith o gynnal deunyddiau a chynnwys hyfforddi o ansawdd uchel.
  • Gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni ac addasu yn ôl yr angen.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir yr asesiad a'r cyfweliad ar 12/08/2024.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd meistr neu gymhwyster/brofiad cyfatebol mewn perthynas ag addysg neu reoli adnoddau dynol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o reoli ar lefel uwch
  • Rheoli/goruchwylio staff
  • Profiad o offer a thechnegau rheoli prosiectau
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu systemau newydd a phrosiectau mewn sefydliad
  • Wedi rheoli a chefnogi myfyrwyr ar lefel uwch
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth a rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol
  • Wedi dehongli a gweithredu ar wybodaeth a archwiliwyd ar lefel uwch
  • Profiad sylweddol o ddarparu addysg ar bob lefel
Meini prawf dymunol
  • Profiad o reoli/incwm cyllidebol
  • Profiad o offer a thechnegau rheoli newid i gefnogi newid mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Sgiliau Iatih

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg – Lefel 1

Sgiliau a Phriodweddau

Meini prawf hanfodol
  • Yn graff yn wleidyddol, ac yn meddu ar y gallu i gyfleu gwybodaeth tra chymhleth a dadleuol, a hynny'n ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gwybodaeth brofedig am reoli prosiectau a'r prosesau gofynnol
  • Gwybodaeth am reoli a datblygu perfformiad
  • Sgiliau meddwl yn feirniadol, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi data cymhleth a gweithredu yn unol â'r canlyniad
  • Sgiliau arwain a rheoli cadarn
  • Y gallu i ddadansoddi materion cymhleth yn ymwneud â phrosiectau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eich barn eich hun
  • Y gallu i gymell staff i gyflawni prosiectau allweddol
  • Sgiliau rhagorol o ran rheoli amser
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau perswadio a negodi tra datblygedig i gyflawni prosiectau
  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol
  • Sgiliau bysellfwrdd safonol
  • Microsoft Office – Power BI, Lists a Teams
  • Y gallu i ysgrifennu adroddiadau ffurfiol
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth ymarferol am gynllunio strategol

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i fodloni terfynau amser tyn
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau yn unol â ffiniau cytunedig
  • Y gallu i weithio'n hyblyg a delio â thipyn o amwyster
  • Cefnogi cyd-weithwyr i ddelio ag amwyster a blaenoriaethau newidiol
  • Y gallu i weithio'n unol ag egwyddorion, targedau a cherrig milltir perfformiad eang mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac i weithio ar draws sefydliadau
  • Y gallu i gynllunio a threfnu rhaglenni cymhleth o weithgareddau
  • Y gallu i reoli gofynion anodd, sy'n aml yn wrthgyferbyniol, ac i ailflaenoriaethu eich gweithgareddau chi a gweithgareddau'r rheiny yr ydych yn eu rheoli
  • Sylw cyson i fanylion a gwaith o ansawdd da
  • Y gallu i weithio yn rhan o dîm
  • Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da â phobl o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Amanda Glanville
Teitl y swydd
Assistant Director of People Development
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg