Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio Ysgol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR273-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I’w gadarnhau
Tref
I’w gadarnhau
Cyflog
£44,398 - £50,807 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
15/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Cydgysylltydd Datblygiad Proffesiynol – Nyrsio Ysgolion

Gradd 7

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r gwasanaeth Nyrsio Ysgolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn hynod o falch o fod yn hysbysebu swydd Band 7 newydd sbon ar gyfer Cydgysylltydd Datblygiad Proffesiynol ym maes Nyrsio Ysgolion. 

Mae'r swydd yn un 37.5 awr yr wythnos, sy'n weithredol trwy gydol y flwyddyn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn chwilio am Nyrs Ysgol (Nyrsio Ysgolion) Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (SCPHN), sy'n brofiadol a brwdfrydig, ac sydd â'i chymhwyster wedi'i gofrestru ar Ran 3 o gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Rhaid iddi feddu ar brofiad ôl-gofrestru cyfredol o weithio mewn tîm Nyrsio Ysgolion.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, arloesol a dymunol, sy'n meddu ar y gallu i weithio gyda phob lefel o staff cymwys a heb gymhwyso, gan gynnwys myfyrwyr nyrsio Cyn-gofrestru ac Ôl-gofrestru.

Gan weithio'n agos gyda'r Uwch-nyrs, Arweinwyr Timau ac aelodau staff, byddwch yn arwain y gwaith parhaus o ddatblygu gwasanaeth hyfforddi ar gyfer y gweithlu Nyrsio Ysgolion ac yn cyfrannu at yr agenda sicrhau ansawdd.

Bydd lleoliad y swydd yn cael ei drafod â'r ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais. 

Cyfweliadau i'w cynnal ar 23/07/24

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster SCPHN – cymhwyster Nyrsio Ysgolion, ynghyd â chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Wedi'ch addysgu i Radd Meistr neu'n gweithio tuag at brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth helaeth am Lywodraethu Clinigol ac am ofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer y gwasanaeth
  • Gwybodaeth helaeth am y 'Fframwaith ar Gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru' a'r safonau cysylltiedig ar gyfer y gwasanaeth, ynghyd â dealltwriaeth o faterion strategol cyfredol ym maes Nyrsio Ysgolion
  • Gwybodaeth fanwl am safonau cyfredol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar ddirprwyo
  • Gwybodaeth fanwl am bolisïau iechyd a chymdeithasol cyfredol a'r Agenda Iechyd y Cyhoedd
Meini prawf dymunol
  • TAR neu'n gweithio tuag ati
  • Cymhwyster mewn Rheolaeth/Arweinyddiaeth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio yn rôl Nyrs Ysgol
  • Gweithio mewn tîm
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant
  • Profiad o ddiogelu, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, amddiffyn plant a phlentyn mewn angen
  • Newid a datblygu gwasanaeth
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Sgiliau T.G.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o addysgu mewn ystod o gyd-destunau clinigol/SAU
  • Addysgu ar raglenni cyn-gofrestru ac ôl-gofrestru
  • Profiad o ddatblygu ymarfer

Sgiliau iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Barbara Morgan
Teitl y swydd
Head of Service School Nursing
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07581 020993
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg