Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymgynghorydd mewn Oncoleg Glinigol yn y Fron/Gynae
Meddygol a Deintyddol GIG: Ymgynghorydd
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn dymuno penodi cydweithwyr newydd i ymuno â'n tîm parhaol o feddygon ymgynghorol sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru. Rydym yn dymuno penodi nifer o Oncolegwyr Clinigol Ymgynghorol mewn ystod o is-arbenigeddau i atgyfnerthu ein gweithlu er mwyn darparu’r gofal gorau i bobl Gogledd Cymru.
Mae'r Uwch Adran Canser mewn cyfnod o newid, ac mae'n awyddus i groesawu modelau newydd o weithio ac arloesi. Yn ddiweddar, ac yn dilyn ceisiadau achos busnes llwyddiannus, rydym wedi croesawu Meddygon Cyswllt a nifer o Uwch Ymarferwyr Nyrsio. Rydym hefyd wedi recriwtio ein Radiograffydd Ymgynghorol cyntaf ac rydym yn edrych ar amryw o dechnolegau i gefnogi'r gwasanaeth.
Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru mewn lleoliad delfrydol yng nghanol y rhanbarth ac mae'n gofalu am nifer fawr o gleifion bob dydd. Mae pob un o’r tair canolfan trin canser yng Ngogledd Cymru wedi’u hariannu gan roddion cyhoeddus ac rydym yn ffodus bod gennym ni gymunedau mor angerddol a chefnogol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli'n Ysbyty Glan Clwyd. Mae elfen ar alwad i'r rôl, a bydd gofyn i chi gymryd rhan ar sail 1 mewn 8.
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan gydweithwyr sy’n arbenigo mewn tiwmorau mewn mannau eraill a byddwn yn gweithio i greu cynllun swydd sy'n fanteisiol i’r unigolyn a’r adran.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei benodi o dan gontract diwygiedig Meddygon Ymgynghorol Cymru, sy’n cynnig tri SPA safonol i feddygon ymgynghorol sydd newydd gymhwyso.
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch 'gwneudd cais nawr' i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau / Sgiliau Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
- MB ChB neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster FRCR neu gymhwyster cyfatebol
- Cynnwys ar Gofrestr Arbenigol neu, os yw'n hyfforddi, yn gymwys i'w gynnwys ar y gofrestr ymhen 6 mis
Meini prawf dymunol
- Gradd Uwch
Gwybodaeth / Galluoedd / a/neu Brofiad Arbennig
Meini prawf hanfodol
- Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar lefel SpR/SR
- Hyfforddiant cyfatebol a dderbynnir gan y Coleg Brenhinol / Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer Cofrestrydd Arbenigol
Sgiliau Personol / Rhinweddau
Meini prawf hanfodol
- Yn dangos sgiliau rhyngbersonol da gyda chleifion, perthnasau ac aelodau o'r tîm clinigol
- Y gallu i gael cyfrinachedd ac ymddiriedaeth
- Y gallu i ymdopi â phwysau
- Y gallu i ymateb i newid.
- Cwrtais
Meini prawf dymunol
- Sgiliau arweinyddiaeth sy'n briodol i'r canlynol: Cyfarwyddo ac addysgu proffesiynau meddygol, nyrsio a phroffesiynau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth
- Cymryd rhan mewn timau amlddisgyblaethol a'u harwain
Ymchwil
Meini prawf hanfodol
- Ymchwil a gyhoeddwyd
- Mae wrthi'n annog ymchwil gyda staff iau a staff eraill
Meini prawf dymunol
- Gradd ymchwil
Gofynion Ychwanegol
Meini prawf hanfodol
- Ymrwymiad i ddatblygiad personol parhaus ac addysg feddygol
- Datgeliad Manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol
- Ability to educate and train junior medical staff
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Meini prawf dymunol
- Sgiliau TG da
- Perchennog / gyrrwr car ar gyfer clinigau ymylol
- Profiad mewn addysgu, archwilio clinigol
- Sgiliau cyfrifiadurol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Claire Fuller
- Teitl y swydd
- Oncology Clinical Leads/Arweinwyr Oncoleg Glinigol
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000855063
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector