Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys
Gradd
Meddyg Ymgynghorol
Contract
Parhaol: Bydd rhan amser yn cael ei ystyried
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YGC-ED-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£100,000 - £146,000 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Consultant in Emergency Medicine

Meddyg Ymgynghorol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

               Mae'n bleser gennym allu cynnig dwy swydd Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Frys yn Ysbyty Glan Clwyd (YGC) yng Ngogledd Cymru.

 

                Mae Meddygaeth Frys yn YGC wedi mynd trwy broses drawsnewid radical tuag at wasanaeth modern sy'n datblygu'n gyflym ac sy'n awyddus i sicrhau'r safonau gofal brys uchaf ar gyfer ei phoblogaeth. Rydym yn chwilio am Feddygon Ymgynghorol sydd â'r weledigaeth, yr uchelgais a'r egni i weithio ochr yn ochr â'r tîm presennol i ddatblygu'r adran. 

 

Mae'r swydd wedi'i lleoli ar safle YGC, sef ysbyty sy'n datblygu'n gyflym iawn ac sydd o bwys strategol yng Ngogledd Cymru. Ynghyd ag ysbytai partner yn Wrecsam a Bangor, yn ogystal ag ysbytai cymunedol cysylltiedig, unedau mân anafiadau a gwasanaethau gofal sylfaenol, mae YGC yn rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae hwn yn sefydliad cwbl integredig ac yn un o'r darparwyr gofal iechyd mwyaf yn y DU. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r adran yn darparu gwasanaeth 24 awr gan uwch-wneuthurwyr penderfyniadau ar y llawr gwaith a darperir lefel Haen 2 gan gymysgedd o feddygon Arbenigedd a Chymrodyr Clinigol EPIC. Ceir 13 o Feddygon Arbenigol ar hyn o bryd, y mae rhai ohonynt yn gweithio llai na llawn amser i'r Adran Achosion Brys.

 

Ar hyn o bryd, mae'r Adran Achosion Brys yn darparu gwasanaeth Meddyg Ymgynghorol ar y llawr gwaith o 8am i 11pm.  

 

Mae YGC yn gweithredu model Meddyg Brys â Chyfrifoldeb (EPIC). Mae'r Meddyg Brys â Chyfrifoldeb yn rhedeg yr Adran Achosion Brys gyda'r nyrs â chyfrifoldeb sydd wedi'i lleoli yn hyb yr Adran Achosion Brys yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol EPIC yr Adran Achosion Brys. Mae disgwyl i feddygon ymgynghorol ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad o safon uchel ar y llawr gwaith, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, nyrsys a rheolwyr er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a sicrhau y caiff penderfyniadau da ac amserol eu gwneud.

 

Mae sesiynau gofal clinigol uniongyrchol Meddyg Ymgynghorol eraill Arweinydd Tîm anfeddygol yr Adran Achosion Brys yn cynnwys gweithio ar y llawr gwaith 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty acíwt i boblogaeth o tua 676,000 o bobl ledled chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Caiff rhai ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig eu cwmpasu gan y Bwrdd Iechyd hefyd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,500 o staff ac mae ganddo gyllideb o tua £1.4 biliwn. Mae'n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Maelor Wrecsam yn Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor), yn ogystal â 22 o ysbytai acíwt a chymunedol eraill a rhwydwaith o fwy na 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydlynu gwaith 121 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir yn y gogledd gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ardal fwyaf gogleddol Cymru, ger Parc Cenedlaethol prydferth Eryri ac mae'n ymestyn dros ardal ddaearyddol enfawr ac amrywiol. Mae'r morlin yng Ngogledd Cymru ymhlith y rhai mwyaf amrywiol ac ysblennydd yn y DU, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth

Manyleb y person

Hyfforddiant a Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • CCT o’r DU (neu'n mynd i gael CCT ymhen chwe mis)
  • Cofrestriad llawn â'r GMC
  • FRCEM
  • ATLS, ALS, APLS dilys neu statws darparwr cyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant is-arbenigedd ym meysydd Pediatreg neu Feddygaeth Frys Cyn Cyrraedd Ysbyty
  • Statws Hyfforddwr ALS, ATLS, APLS neu gymwysterau cyfwerth
  • Cymwysterau uwchraddedig perthnasol eraill e.e. DipIMC

Profiad a Arwain

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol yn ymarfer Meddygaeth Frys yn y DU ar lefel penderfynwr uwch
  • Gallu darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth i weithwyr mewn Adran Achosion Brys
  • Gallu darparu uwch sgiliau clinigol ac arweinyddiaeth ym maes Meddygaeth Frys yn unol â'r hyn a ddisgrifir gan Gwricwlwm RCEM
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant goruchwylio gweithwyr e.e. Hyfforddiant ynghylch arwain a ffactorau dynol RCEM ELSEs
  • Hyfforddiant mewn arweinyddiath a ffactorau dynol

Llywodraethu Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithgarwch llywodraethu clinigol ym maes Meddygaeth Frys
  • Gallu dirnad diogelwch cleifion a rheoli risg
  • Profiad o archwilio a gwella ansawdd
  • Gallu gwneud gwaith prosiect sy'n berthnasol i faes Meddygaeth Frys ac ymgysylltu ag arbenigeddau.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o weithgarwch gwella gwasanaethau
  • Tystiolaeth o waith strategol e.e. cyfrannu at gynllunio a datblygu polisi
  • Gallu cyflawni newid

Gwerthusiad

Meini prawf hanfodol
  • Ymrwymiad i werthusiad blynyddol a gweithgarwch ail-ddilysu

Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ac Ymchwil

Meini prawf hanfodol
  • Portffolio DPP sy'n berthnasol i ymarfer Meddygaeth Frys yn y DU
  • Gallu ymgymryd â gwerthuso beirniadol a chynorthwyo ag unrhyw weithgarwch ymchwil adrannol
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o rôl yn cyflawni DPP
  • Tystiolaeth o weithgarwch ymchwil a chyhoeddiadau sy’n berthnasol i faes Meddygarth Frys

Diddordebau Proffesiynol

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o ddiddordeb proffesiynol sy'n berthnasol i ymarfer ym maes Meddygaeth Frys
Meini prawf dymunol
  • Achrediad RCEM Lefel 1 mewn Uwch Sain Meddygaeth Frys

Ymrwymiad i addysg

Meini prawf hanfodol
  • Profiad, ymrwymiad a brwdfrydedd o ran addysgu ar y lefelau uwchraddedig ac israddedig
  • Bodlon addysgu'r holl staff clinigol gan gynnwys uwch ymarferwyr clinigol, parafeddygon, nyrsys, cymdeithion meddygol ac ymarferwyr nyrsio brys.
Meini prawf dymunol
  • Hyfforddiant uwchraddedig ym maes addysg glinigol

Personol

Meini prawf hanfodol
  • Rhannu ethos y Bwrdd Iechyd a gwerthfawrogi ei werthoedd
  • Hyblygrwydd, gonestrwydd personol a pharodrwydd i weithio'n gydlynol yn nhîm yr Adran Achosion Brys.
  • Ymrwymiad i bwysigrwydd parchu a chynnal urddas pob unigolyn

Sgiliau Cyfathrebu ac Ieithyddol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu siarad ac ysgrifennu Saesneg gan gynnal safon uchel
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nandita Parmar
Teitl y swydd
Clinical Director Emergency Quadrant
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
LLanfair Road
Abergele
Rhif ffôn
03000843798
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg