Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Newyddenedigol
- Gradd
- NHS Medical & Dental: Ymgynghorydd
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-YGC-NEO-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Bodelwyddan
- Cyflog
- £91,722 - £119,079 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 06/09/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ymgynghorydd Newyddendedigol
NHS Medical & Dental: Ymgynghorydd
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Feddyg 1 Ymgynghorol ymuno â'r tîm cyfredol o Feddygon Ymgynghorol i'r Newydd-anedig yn ein huned isranbarthol gofal dwys i'r newydd-anedig (SuRNICC) unigryw a newydd ar gyfer Gogledd Cymru. Mae'r uned £18 miliwn wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd yng nghanol Gogledd Cymru wrth ymyl Llanelwy. Mae'r uned hon yn uned i'r Newydd-anedig uwch lleol ac yn cynnwys 5 crud gofal dwys, 5 crud Uned Dibyniaeth Fawr a 9 crud gofal arbennig.
Mae Rhwydwaith y Newydd-anedig Gogledd Cymru yn cynnwys 3 uned: 2 Uned Gofal Arbennig ym Mangor a Wrecsam sy'n derbyn babanod sefydlog > 32 wythnos o'r cyfnod cario a'r SuRNICC yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r uned yn Ysbyty Glan Clwyd wrth wraidd Rhwydwaith y Newydd-anedig Gogledd Cymru. Mae'r gyfradd geni yng Ngogledd Cymru o amgylch 6500 genedigaeth y flwyddyn ac mae'r rhwydwaith yn gofalu am yr holl fabanod sy'n cael eu geni ar 26 wythnos ac uwch. Mae Tîm Cludiant i'r Newydd-anedig lleol wedi'i lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd a bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus rannu'r gweithgarwch cludo. Darperir Cludiant i'r Newydd-anedig 12 awr/7 diwrnod. Mae cydweithrediad agos gyda'r Rhwydwaith y Newydd-anedig cyfagos yn Sir Gaer a Glannau Merswy sy'n darparu gofal i fabanod sy'n llai na 26 wythnos o’r cyfnod cario. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan lawn yn y rota ar-alwad Meddygon Ymgynghorol i'r Newydd-anedig unigol nad ydynt yn preswylio dynodedig sy’n 1 mewn 7.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Caiff yr uned ei chefnogi gan rota Haen 1 i'r newydd-anedig yn ogystal â grŵp o 5 ANNPs a chyflenwad Haen 2 Paediatrig. Mae'r swyddi yn addas i ymgeiswyr sydd â CCT i'r newydd-anedig yn ogystal â phaediatregwyr cyffredinol gyda diddordeb arbennig yn y newydd-anedig.
Mae'r SuRNICC yn gwasanaethu ardal o Wrecsam yn y Dwyrain i Ynys Môn yn y Gorllewin.
Mae gan Ogledd Cymru tair adran Paediatrig cyffredinol gyda gwasanaethau llawn i gleifion allanol ym mhob un o'r tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth. Byddwn yn cefnogi gweithgareddau hamdden neu ddatblygiad diddordebau arbennig yn ogystal â gweithgareddau ymchwil. Mae’r swydd wedi’i seilio ar gontract 10 sesiwn a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n unol â Chontract Meddygon Ymgynghorol Cymru sydd wedi’i seilio ar 7 sesiwn DCC a 3 sesiwn SPA.
Rydym yn adran brysur a llon sydd â phwyslais clir ar ddarparu gofal o'r ansawdd orau i'n plant a'n teuluoedd lleol. Mae cydweithio agos rhwng Meddygon Ymgynghorol a'r tîm Nyrsio Arbenigol y Newydd-anedig, a chefnogaeth dda i staff meddygol iau. Mae gennym berthynas gwaith ardderchog gyda'n cydweithwyr Paediatreg cyffredinol a chymuned, a gyda gwasanaethau arbenigol y ganolfan drydyddol yn Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl. Mae gan yr adran enw da ers tro am ddarparu hyfforddiant ardderchog i staff iau a myfyrwyr meddygol, a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu'n llawn at addysgu a hyfforddi.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £1.7 biliwn a gweithlu o dros 19,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.
Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 113 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth o ymchwil.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r swydd ar gyfer Meddygon Ymgynghorol parhaol llawn amser ond byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau ar gyfer gweithio’n rhan amser. ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- CCT mewn paediatreg (gyda diddordeb mewn neonatoleg) - ar y Gofrestr Arbenigol yn ogystal â phrofiad sylweddol neu hyfforddiant o o leiaf 2 flynedd yn y maes neonatoleg. Cofrestriad llawn â'r GMC neu gyfwerth.
- neu'n yn gymwys i gael CCT mewn Neonatoleg neu Bediatreg sydd â diddordeb newyddenedigol o fewn 6 mis o ddyddiad y cyfweliad
- CCT neu gyfwerth (rhaid cadarnhau cyfwerthedd gan GMC erbyn dyddiad AAC)
- neu ddatganiad cymhwyster ar gyfer cofrestriad a roddwyd gan PMETB e.g CESR tystysgrif
- neu tystiolaeth bod mynediad i gofrestru gyda CCT priodol o fewn 6 mis o gyfweliad.
- CCT gyda hyfforddiant is-arbenigedd y newydd-anedig (cynllun grid NTN)
- MRCPCH neu gyfatebol
- Hyfforddiant Diogelu Lefel 3 Dilys
Meini prawf dymunol
- MSc, MD, PhD neu radd uwch gyfwerth
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.
- Gweithio fel rhan o'r tîm rheoli
- Profiad o gysylltu ag asiantaethau eraill e.e asiantaethau diogelu plant
- Profiad o addysgu israddedigion a graddedigion
- Tystiolaeth o ddechrau archwiliad, ei ddatblygu a'i gwblhau
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn unedau rhanbarthol ac isranbarthol y newydd-anedig a thystiolaeth o ddiddordeb is-arbenigedd mewn neonatoleg, sy'n gymesur â sgiliau ymgynghori
- Tystiolaeth o gludiant i'r newydd-anedig
- Darparwr cwrs NLS
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymchwil
- Cynnal Bywyd Uwch Paediatreg (darparwr cwrs)
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau Arwain
- Gweithio mewn Tîm
- Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig ardderchog
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol - gallu cyfathrebu'n sensitif â chleifion, perthnasau a staff
Meini prawf dymunol
- Gallu cyflawni echocardiogram y newydd-anedig
Sgiliau addysgu
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o systemau a thechnoleg gwybodaeth
Meini prawf dymunol
- Is-arbenigedd arall i ategu'r rhai yn yr adran, e.e. niwroleg, y newydd-anedig, uwchsonograffeg, profiad amenedigol.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Hyblyg ac yn gallu addasu i ofynion cystadleuol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Gallu ymgymryd ag ar-alwad
- Ymrwymiad i arferion modern
- Gallu cymryd rôl arweiniol mewn datblygiad clinigol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Ambrose Onibere
- Teitl y swydd
- Consultant Neonatologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 844436
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000855063
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector