Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rheumatoleg
Gradd
Ymgynghorydd Locwm
Contract
Locwm: 12 mis
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YGC-RHEUM-1024-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£105,401 Yn flynyddol
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/11/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Locum Consultant Rheumatologist

Ymgynghorydd Locwm

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i lywio gwasanaethau rhewmatoleg yng Ngogledd Cymru gyda phedair swydd Rhewmatolegydd Ymgynghorol Locwm, x10 sesiwn, wedi'u lleoli yn Ysbyty Glan C

Ceir cyfle i ddatblygu diddordebau pellach gydag Uned Esgyrn Gogledd Cymru (Llandudno), Gwasanaeth Asesiad a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS), Wltrasonograffeg ac i ddatblygu eich diddordebau is-arbenigedd eich hun a fydd yn gwella gwasanaeth Rhewmatoleg Gogledd Cymru.

Mae'r Gwasanaeth Rhewmatoleg yn gweithredu dros nifer o ardaloedd cleifion allanol o fewn y tri prif ysbyty cyffredinol dosbarth a Chanolfan Rhewmatoleg Peter Madison (PMRC) yn Llandudno. Ceir clinigau Newydd ac Adolygu a arweinir gan Nyrsys Arbenigol a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol. Mae'r Gwasanaeth Rhewmatoleg hefyd yn gweithredu gwasanaeth atgyfeirio wardiau cleifion mewnol i'r cleifion hynny ar ward meddygol cyffredinol sydd angen adolygiad (safleoedd Wrecsam, Glan Clwyd a Bangor). Bydd gofyn am beth ymrwymiad i asesu atgyfeiriadau wardiau o fewn y swydd hon. Caiff trwythiadau eu rheoli mewn Uned Dydd Meddygol/lleoliad Asesiad a Therapi pwrpasol yn ysbytai Wrecsam, Glan Clwyd a Llandudno.

lwyd.

Prif ddyletswyddau'r swydd

·       8 sesiwn Cyswllt Clinigol Uniongyrchol – rhagwelir y bydd hyn yn cynnwys tua 8 sesiwn o glinigau/rowndiau'r ward/timau amlddisgyblaethol clinigol ac atgyfeiriadau a thua 2 sesiwn o weinyddiaeth cysylltiedig â chleifion uniongyrchol.

  • Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at lwyth gwaith yr adran yn unol ag argymhellion Coleg Brenhinol y Meddygon sy'n pennu 6–7 o gleifion newydd fesul clinig, 10–15 o gleifion sy'n destun adolygiad fesul clinig a chlinigau cymysg lle mae un claf newydd yn cymryd amser dau glaf sy'n destun adolygiad, yn dibynnu ar gymysgedd o achosion o gleifion newydd i gleifion sy'n destun adolygiad. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Bydd disgwyl cyfraniad sylweddol at y gwasanaeth Rhewmatoleg cyffredinol ond bydd cyfleoedd i ddilyn diddordeb arbennig sy'n berthnasol i'r gwasanaeth cyffredinol yn cael eu hannog.
  • Nid oes ymrwymiad ar alwad y tu allan i oriau yn gysylltiedig â'r swyddi hyn.

·       Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i ail-ddilysu, i gymryd rhan mewn archwiliad meddygol a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i'r swydd ddisgrifiad llawn a'r fanyleb person yn y dogfennau ategol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • MRCP neu gyfatebol
  • Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
Meini prawf dymunol
  • Gradd Uwch berthnasol
  • I fod ar gofrestr arbenigol mewn rhiwmatoleg bod a CCT CESR neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig

Profiad Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar lefel SpR/SR mewn Rhewmatoleg.
  • Hyfforddiant cyfatebol a dderbynnir gan y Coleg/Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer Cofrestr Arbenigol
  • Yn gymwys i asesu a rheoli pob cyflwr Rhewmatolegol cyffredin.
Meini prawf dymunol
  • Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar SpR/SR sy'n arwain at achrediad neu CCT/CESR neu dystysgrif gyfatebol gydnabyddedig mewn Meddygaeth Gyffredinol
  • Swydd Rhewmatolegydd Ymgynghorol blaenorol neu swydd gyfatebol
  • Hyfforddiant mewn defnyddio sganiau uwchsain mewn ymarfer Rhewmatoleg.
  • Profiad perthnasol o ddiddordeb is-arbenigol priodol sy'n cyd-fynd â'r gwasanaethau sydd ar gael (e.e. CTD, Rhewmatoleg pediatrig, rhewmatoleg gymunedol, meddygaeth chwaraeon)

Addysgu / Archwilio / Profiad o Ymchwilio

Meini prawf hanfodol
  • Profiad mewn hyfforddi myfyrwyr meddygol israddedig a meddygon ôl-raddedig.
  • Tystiolaeth o allu cynnal ymchwil feddygol ac archwilio i asesu canfyddiadau gwaith ymchwil.
Meini prawf dymunol
  • Cyhoeddi gwaith ymchwil gwreiddiol
  • Cymryd rhan mewn prosiectau Ymchwil Clinigol a/neu dreialon clinigol

Sgiliau a Galluoedd Sylfaenol

Meini prawf hanfodol
  • Lefelau sgiliau priodol a galluoedd disgwyliedig
  • Sgiliau priodol mewn gweithdrefnau arbenigol gan gynnwys pigiadau i'r cymalau
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cyfrifiadurol
  • Sgiliau sgan uwchsain

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Cyfathrebwr da
  • Arweinydd tîm da ac aelod da o'r tîm
Meini prawf dymunol
  • Y gallu i rwydweithio â chyfarwyddiaethau ac ysbytai eraill yn y gogledd
  • Y gallu i gynghori ar redeg y gwasanaethau arbenigol yn ddidrafferth

Rheoli a Phrofiad Gweinyddol

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i addasu i anghenion newidiol gwasanaeth
  • Gweithio dan bwysau
  • Y gallu i weithio'n effeithiol gyda chydweithwyr mewn sefyllfa tîm amlddisgyblaethol.
  • Y gallu a'r parodrwydd i weithio o fewn fframweithiau a thargedau perfformiad yr Ymddiriedolaeth a'r GIG
Meini prawf dymunol
  • Profiad Rheoli Ffurfiol
  • Parodrwydd i ymgymryd â chyfrifoldebau proffesiynol ychwanegol ar lefel leol neu ranbarthol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Yasmeen Ahmad
Teitl y swydd
Clinical Lead, Consultant Rheumatologist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 852065
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Dr Alessandro Ciapetti, Consultant Rheumatologist at Ysbyty Glan Clwyd Tel: 01745 583910 [email protected]

 

Dr Subhra Raghuvanshi, Consultant Rheumatologist at Wrexham Maelor Hospital Tel: 03000 858382 [email protected]

 

 

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
LLanfair Road
Abergele
Rhif ffôn
03000843798
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg