Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arbenigwr Diogelu
Gradd 7
Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.
Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.
Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.
Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.
Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.
Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer ymarferwr profiadol a brwdfrydig sydd Ãc sylfaen wybodaeth dda am ddiogelu plant, phobl ifanc, oedolion ac amddiffyn y cyhoedd. Mae profiad o, ac angerdd gwirioneddol dros wella ansawdd, rheoli newid a chefnogi holl staff i ddatblygu eu gwybodaeth aâethu hyder mewn diogelu yn hanfodol. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth o fewn yr amgylchedd gofal brys cyn ysbyty, gyfochr â chefnogi gwasanaethau eraill o fewn Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Bydd angen i chi fod yn nyrs/parafeddyg profiadol, neu’n unigolyn cofresredig cyfatebol, sydd yn gallu arddangos sgiliau cyfathrebu safon uchel ar bob lefel, a bod yn hyderus i gyflwyno hyfforddiant i amryw o grwpiau staff ledled Cymru mewn lleoliadau sefydliadol ac amlasiantaethol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o Dîm Diogelu WAST, gan sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso. Byddant yn cydweithio â'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu a'r Uwch Arbenigwyr Diogelu i sicrhau bod y Sefydliad yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol, gan weithredu fel arbenigwr arweiniol ar gyfer cyngor ac arweiniad ar gyfer diogelu.
Bydd deiliad y swydd yn dirprwyo ar ran yr Uwch Arbenigwyr Diogelu pan fo angen, gan ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldebau, fel y'u dirprwywyd, ac arwain portffolios gwaith.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau arweinyddiaeth effeithiol ac yn gweithredu fel adnodd arbenigol o ran atal, adnabod, asesu a rheoli plant ac oedolion sydd mewn perygl, gan hyrwyddo cydweithio'n fewnol ac ar draws asiantaethau partner.
Sicrhau bod gan bob aelod o staff iechyd y cymwyseddau i adnabod camdriniaeth a’u bod yn hyderus i weithredu ar unrhyw bryderon a allai fod ganddynt mewn perthynas ag amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl. Bydd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer yr holl staff ar draws pob gradd a disgyblaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
#PoblRyfeddol
Mae ein gweithlu yn cynnwys dros 4,000 o bobl ryfeddol sy'n cyfrannu at ddarparu gofal o safon ryngwladol i gleifion ledled Cymru, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. P'un a ydych chi'n gweithio mewn rôl sy'n wynebu'r claf neu o fewn ein hystod o wasanaethau cymorth, mae'r gwaith a wnewch yn ein galluogi i ddarparu gofal o ansawdd uchel, lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnom.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn cydnabod bod angen i'w gweithlu gynrychioli amrywiaeth y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu ar draws Cymru gyfan, ac mae'n ceisio creu amgylchedd lle dethlir amrywiaeth a lle mae cynwysoldeb yn bwysig. Rydym hefyd yn awyddus i chwalu unrhyw rwystrau i'r Ymddiriedolaeth, a byddem yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys rhai o gymunedau BME a grwpiau anabledd.
Mae gyrfaoedd o fewn WAST yn amrywiol, gyda chyfleoedd yn codi ar draws y gwasanaeth. Beth bynnag yw'ch sgiliau a'ch cefndir, rydych chi'n sicr o ddod o hyd i yrfa gyda ni sy'n foddhaol, heriol ac yn werth chweil.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan ein bod yn cadw'r hawl i gau swydd wag cyn y dyddiad cau os derbyniwyd nifer uchel o geisiadau.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr proffesiynol cofrestredig ym maes Iechyd neu Ofal Cymdeithasol gyda chofrestriad cyfredol HCPC / NMC.
- Gwybodaeth arbenigol ychwanegol am ddiogelu oedolion a phlant ar lefel Gradd Meistr, a gyflawnwyd trwy gymhwyster proffesiynol perthnasol neu brofiad diogelu arbenigol arddangosadwy cyfwerth mewn rôl neu leoliad tebyg.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Dealltwriaeth o’r fframwaith deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â diogelu plant ac oedolion mewn peryg.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio amlasiantaethol a gweithio gydag asiantaethau partner yn effeithiol i ddiogelu plant ac oedolion.
- Profiad o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant a deunyddiau addysgol.
- Dealltwriaeth dda o’r broses archwilio.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ymchwil a datblygu ymarfer.
- Profiad o brosesau archwilio a monitor.
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn ymroddedig a gyda lefel uchel o gymhelliant personol.
- Y gallu i gyflawni archwiliadau a monitro.
- Y gallu i uniaethu â staff ar bob lefel, arwain eraill a gweithredu fel model rôl.
- Y gallu i ddadansoddi data i gynhyrchu gwybodaeth reoli.
- Sgiliau bysellfwrdd safonol.
- Y gallu i ddefnyddio pecynnau MS Office.
- Y gallu i reoli a defnyddio gwybodaeth gyfrinachol.
- Cyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig), addasu’r arddulliau a’r negeseuon i’r sefyllfa a’r gynulleidfa, gan gynnwys cyflwyno gwybodaeth anodd ac, ar adegau, mewn amgylchiadau trallodus neu emosiynol.
- Arddangos brwdfrydedd dros gyflwyno gwasanaethau diogelu.
- Y gallu i ddefnyddio ymchwil a llywio ymarfer.
- Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth ac amlygu gweithredoedd.
- Arddangos dealltwriaeth o lywodraethu clinigol.
- Arddangos y gallu i herio barn gweithwyr proffesiynol eraill.
- Gwybodaeth am ymarfer gwrthwahaniaethol.
- Gwybodaeth am gyfle cyfartal.
- Datrys problemau’n greadigol ac yn rhesymegol
- Y gallu i flaenoriaethu baich gwaith.
- Y gallu i ddylanwadu ar bolisi er mwyn hwyluso datblygu gwasanaethau.
- Y gallu i ddylanwadu ar bolisi er mwyn hwyluso datblygu gwasanaethau.
- Y gallu i gymryd rhan mewn grwpiau/fforymau ar lefelau strategol.
- Y gallu i asesu risg er mwyn rheoli risg diogelwch staff a’r amgylchedd gwaith.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Yn arddangos gwerthoedd ac ymddygiadau’r Ymddiriedolaeth.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled Cymru.
- Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gwenan Jones-Parry
- Teitl y swydd
- Senior Safeguarding Specialist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01792 315884
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
- Gwenan Jones-Parry Gwaith Symudol: 07814805381
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn Gwasanaethau brys neu bob sector