Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfarwyddwr Meddygol y Gymuned Iechyd Integredig
Gradd
Ymgynghorol
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-IHCMD-C-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Llandudno
Tref
Llandudno
Cyflog
pro rata y flwyddyn
Yn cau
27/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cyfarwyddwr Meddygol y Gymuned Iechyd Integredig

Ymgynghorol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae Cyfarwyddwr Meddygol y Gymuned Iechyd Integredig yn uwch arweinydd sy'n atebol i Gyfarwyddwr y Gymuned Iechyd Integredig, ac mae'n gyfrifol am gynorthwyo Cyfarwyddwr y Gymuned Iechyd i ddatblygu a rheoli staff meddygol, gan gynnwys cydweithio'n agos â'r Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol i weithredu a monitro safonau a rheoliadau proffesiynol. Bydd gan ddeilydd y swydd rôl weithredol yn y gwaith o ddatblygu strategaeth y Bwrdd Iechyd a'r Gymuned Iechyd, a bydd yn gyfrifol am gydweithredu â chydweithwyr mewn Cymunedau Iechyd eraill, mewn Gwasanaethau sy'n cwmpasu Gogledd Cymru gyfan, mewn swyddogaethau Cynorthwyo Gwasanaethau ac yn sefydliadau'r partneriaid i ddarparu gwasanaethau gofal a lles rhagorol ar gyfer poblogaeth gyfan Gogledd Cymru.
Bydd yn gyfrifol am arwain staff meddygol ac am lywodraethu meddygol i sicrhau y caiff yr holl wasanaethau a arweinir gan staff meddygol eu rheoli'n ddiogel, yn rhagorol ac effeithlon, gan sicrhau cyfranogiad gweithredol yn y gwaith hwnnw gan staff meddygol a meithrin dull gweithio amlddisgyblaeth.
Yn benodol, bydd deilydd y swydd yn atebol am gynorthwyo Cyfarwyddwr y Gymuned Iechyd i sicrhau y ceir diwylliant cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar anghenion cleifion a chymunedau, gan gydweithio'n rheolaidd â sefydliadau partneriaid, staff a chleifion er mwyn gwella lles a chanlyniadau gofal clinigol y boblogaeth.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r elfennau allweddol y mae'n atebol ac yn gyfrifol amdanynt yn cynnwys arwain y canlynol ar ran Cyfarwyddwr y Gymuned Iechyd:

  • Gwella'r amgylchedd gwaith a gwasanaethau trwy ddatblygu dulliau o weithio i gynnal diwylliant cadarnhaol a didwyll sy'n galluogi gwrando a dysgu gwersi.
  • Parhau i wella'r gwasanaethau a ddarperir i'r gymuned drwy adolygiadau rhagweithiol a chynnwys cleifion, partneriaid allanol a staff.
  • Cynorthwyo Cyfarwyddwr y Gymuned Iechyd i ddarparu gwasanaethau iechyd, lles a gofal rhagorol i'r boblogaeth, o fewn cyfyngiadau'r gyllideb ac yn unol â thargedau cenedlaethol a lleol, trwy gyfrwng systemau a phrosesau rheoli rhagorol. Rheoli rhannau penodol o'r gyllideb ar ran y Cyfarwyddwr (sy'n atebol yn y pen draw).
  • Bydd Cyfarwyddwr Meddygol y Gymuned Iechyd yn arwain ymatebion i argyfyngau lleol gan gynnwys cyflawni oblygiadau o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl ac yn sicrhau parhad y busnes.
  • Ysgogi gwella ansawdd yn rheolaidd trwy ddatblygu a rheoli systemau i sicrhau y caiff grwpiau clinigol y Gymuned Iechyd eu llywodraethu'n drylwyr (mewn perthynas ag ansawdd, cyfranogiad a gweithgarwch staff, materion ariannol a chwynion) gan gysylltu hynny â llywodraethu ar lefel y Bwrdd Iechyd cyfan, gan sicrhau y ceir trosolwg cryf a defnyddiol o bob agwedd ar fusnes y Gymuned Iechyd.
  • Annog cynllunio ac ail-lunio'r gweithlu gan fanteisio'n llawn ar y gymysgedd o sgiliau amlddisgyblaethol i sicrhau parhad cynaliadwyedd y gwasanaethau.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £1.87 biliwn a gweithlu o dros 19,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.

 

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.

 

Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth o ymchwil.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth

 

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad cyfredol a di-fai gyda'r GMC neu'r GDC
  • Cymwysterau meddygol ôl-raddedig
  • Tystiolaeth Bellach o hyfforddiant rheoli
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth glinigol arbenigol hynod berthnasol yn ymwneud â maes cyfrifoldebau.
  • Dealltwriaeth glir o'r cysyniad a threfniadau gweithio meysydd clinigol amrywiol.
  • Dealltwriaeth fanwl am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd.
  • Gwybodaeth lefel uchel o'r holl faterion cyfredol sy'n ymwneud ag ymarfer meddygol proffesiynol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o ymchwil ac yn gallu dangos sut mae ymchwil wedi dylanwadu ar eu hymarfer.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o arwain timau, cefnogi a datblygu aelodau staff, a rheoli perfformiad gwael yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.
  • Gwybodaeth a phrofiad proffesiynol hynod arbenigol a manwl o ystod o ddisgyblaethau clinigol ar draws gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd.
  • Profiad sylweddol o reoli uwch staff meddygol ar draws y sectorau gofal iechyd.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu fframweithiau llywodraethu i gefnogi darparu gwasanaethau, gwella ansawdd a newid gwasanaethau.
  • Profiad o reoli cwynion.
  • Profiad o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel gydag adnoddau cyfyngedig
  • Profiad o reoli cyllideb
  • Profiad o reoli newid

Addasrwydd a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Arweinydd tosturiol
  • Sgiliau datblygedig ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • Gallu i ddadansoddi materion/problemau clinigol cymhleth, dynodi camau gweithredu angenrheidiol a gwneud argymhellion a dilyn y rhain drwodd.
  • Y gallu i ddangos arweinyddiaeth dosturiol ac emosiynol a'i gymhwyso i sefyllfaoedd priodol.
  • Y gallu i arwain, dylanwadu ac ysgogi timau staff.
  • Sgiliau trefnu da
  • Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn
  • Sgiliau cyfrifiadurol, gyda gwybodaeth waith am gronfeydd data, taenlenni a phecynnau cyflwyno.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Arweinir gan werthoedd y Bwrdd Iechyd o > Rhoi cleifion yn gyntaf > Gwerthfawrogi a pharchu ein gilydd > Y gallu i weithio ynghyd fel un tîm > Dysgu ac arloesi > Cyfathrebu’n agored ac yn onest
  • Gallu perthnasu ac addasu i bersbectif eraill.
  • Hyderus o allu rheoli a'r gallu i fod yn gredadwy ac yn hyderus wrth ymdrin â chlinigwyr ac uwch staff rheoli.
  • Ymagwedd dawel a rhesymegol at sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro'n debygol.
  • Ffordd eglur o feddwl ac yn huawdl.
  • Arwain trwy esiampl.

Arall

Meini prawf hanfodol
  • • Sgiliau clinigol sylweddol gyda'r gallu i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli gwasanaethau clinigol diogel.
  • • Y gallu i deithio mewn modd amserol ar draws ardal ddaearyddol Gogledd Cymru a ledled Cymru.
  • • Yn gallu gweithio oriau hyblyg.
  • • Siaradwr Cymraeg neu ag ymrwymiad i ddysgu Cymraeg sgyrsiol sylfaenol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
James Risley
Teitl y swydd
Deputy Executive Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Glan Clwyd Hospital
Rhif ffôn
0300 085 5663
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg