Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- deintyddol
- Gradd
- Deintyddol Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod mamolaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-DENOFF-BA-03253
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymunedol Yr Wyddgrug
- Tref
- Yr Wyddgrug
- Cyflog
- £47,914 - £71,871 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 03/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Swyddog Deintyddol Band A Ysbyty'r Wyddgrug (dros gyfnod mamolaeth)
Deintyddol Meddygol a Deintyddol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Swyddog Deintyddol band A
22.5 awr y wythnos, 12 mis cyfnod mamolaeth
Rydym yn edrych i recriwtio unigolyn sydd yn frwdfrydig, hyblyg ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog, I ddarparu triniaeth glinigol yn unol a disgrifiad swydd deintydd Band A ac yn unol a polisi Llywodraeth Cymru.
Rydym yn chwilio am unigolyn ychwanegol i'r tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg a gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol i ddarparu triniaeth glinigol yn unol â disgrifiad swydd deintydd Band A a pholisi Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o staff clinigol wedi'u hyfforddi mewn tawelydd anadlu, gwasanaeth a gynigir gan ddeintyddion a therapyddion yn y rhan fwyaf o'n safleoedd. Mae gwasanaethau tawelu IV hefyd ar gael ac mae'r gwasanaeth deintyddol gymunedol yn gweithredu gwasanaethau anesthetig cyffredinol yn y tri ysbyty cyffredinol. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan ymgynghorydd ymweliadol mewn deintyddiaeth pediatrig o ysbyty Alder Hey.
Mae yna wasanaethau ychwanegol er engraifft gwasanaeth llawfeddygaeth deintyddol ganolradd a deintyddiaeth gofal arbennig i dîm amlddisgyblaethol canser y pen a'r gwddf. Mae nifer o raglenni hybu iechyd y geg ataliol ar waith hefyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu ystod o driniaeth deintyddol ar gyfer grwpiau sydd yn addas i'r gymuned a chleifion sydd wedi eu cyfeirio at y CDS yn unol â pholisi Cyfarwyddiaeth/Y Bwrdd Iechyd.
Mae disgrifiad swydd llawn a manyleb person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Manyleb y person
Cymhwyster Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Deintyddol
Profiad Hanfodol
Meini prawf hanfodol
- Profiad Hanfodol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dafydd Roberts
- Teitl y swydd
- Senior Dental Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000859666
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector