Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Cyhoeddus
- Gradd
- Consultant
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-CPHE-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Preswylfa
- Tref
- Yr Wyddgrug
- Cyflog
- £91,722 - £119,079 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 19/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/08/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus
Consultant
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Meddygon Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus / Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus
Graddfa meddyg ymgynghorol (pwynt sy’n gymesur ȃ phrofiad blaenorol).
Agenda ar gyfer Newid Band 9 ar gyfer staff anfeddygol.
Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn awyddus i recriwtio Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd llawn amser i ymuno â'u tîm iechyd y cyhoedd yng Ngogledd Cymru, ac mae hon yn swydd arall oherwydd dyrchafiad. Bydd gan y swydd bortffolio o waith a oruchwylir gan ddeiliad presennol y swydd ar draws ystod o flaenoriaethau rhanbarthol iechyd y cyhoedd ar gyfer Gogledd Cymru, yn ogystal â chymryd rôl arwain yn seiliedig ar le. Bydd gan y swydd gyfrifoldeb seiliedig ar le ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint. Bydd gwaith yn seiliedig ar leoedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth ȃ rhanddeiliaid ar draws y system i gyflawni gwelliannau ynghylch iechyd y boblogaeth, yn ogystal ȃ chymryd rôl arwain iechyd cyhoeddus ar draws ystod o grwpiau partneriaeth a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd eich cyfrifoldebau yn cwmpasu pob maes o arferion proffesiynol Iechyd Cyhoeddus, gan gynnwys:
· Gwella Iechyd,
· Gwella Ansawdd Gofal Iechyd,
· Diogelu Iechyd,
· Gwybodaeth Iechyd,
· Ymchwil a Datblygu.
Bydd meysydd eraill o waith yn cael eu trafod yn unol ag anghenion yr adran a sgiliau a gwybodaeth yr ymgeiswyr llwyddiannus ar adeg eu penodi. Bydd cynllun gwaith manwl yn cael ei lunio gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, ar ôl penodi’r ddau ymgeisydd, gan amlygu’r tasgau allweddol sydd wedi’u hamlinellu yn y Swydd Ddisgrifiad.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn swyddfa BIPBC ym Mhreswylfa, Yr Wyddgrug
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Gofrestr Arbenigol GMC/GDC/Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU ar gyfer Arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus.
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch ȃ Jinette Parry, Rheolwr Cymorth Busnes
Ymgeisiwch trwy jobs.nhs.uk gan ddefnyddio’r cyfeirnod.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi'i gynnwys ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC/Rhestr Arbenigwyr y GDC (ac wedi'i drwyddedu i ymarfer)/Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR) • Os ydynt wedi'u cynnwys ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC/Rhestr Arbenigwyr y GDC mewn arbenigedd arall ar wahân i feddygaeth iechyd y cyhoedd/iechyd deintyddol y cyhoedd, rhaid bod ymgeiswyr wedi cael hyfforddiant cyfatebol a/neu brofiad priodol o weithio ym maes meddygaeth iechyd y cyhoedd • Rhaid i ymgeiswyr sy'n gofrestryddion arbenigedd ym maes iechyd y cyhoedd ac yn hyfforddeion arbenigol nad ydynt wedi'u cynnwys eto ar Gofrestr Arbenigwyr y GMC/Rhestr Arbenigwyr y GDC ym maes iechyd deintyddol y cyhoedd/UKPHR ddarparu tystiolaeth ddogfennol wedi'i llofnodi y gellir ei dilysu eu bod o fewn 6 mis i gael eu cynnwys ar ddyddiad y cyfweliad; rhaid i bob ymgeisydd arall ddarparu tystiolaeth ddogfennol wedi'i llofnodi y gellir ei dilysu eu bod wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar gofrestrau arbenigwyr y GMC/GDC/UKPHR
- Dealltwriaeth o epidemioleg ac ystadegau, ymarfer iechyd y cyhoedd, hybu iechyd, economeg iechyd a gwerthuso gofal iechyd
- Dealltwriaeth o wybodaeth y GIG a'r ffordd y caiff ei dehongli
- Dealltwriaeth o benderfynyddion iechyd ehangach, gwybodaeth a'r ffordd y caiff ei dehongli
- Dealltwriaeth o'r amgylchedd cymdeithasol a gwleidyddol
- Dealltwriaeth o awdurdodau lleol a gwasanaethau cymdeithasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ymarferol o hwyluso newid mewn ymarfer clinigol
- Tair blynedd neu fwy o brofiad o ymarfer iechyd y cyhoedd ar lefel uwch
- Rheoli ac Arwain Staff
- Profiad o weithio o fewn lleoliad gofal iechyd gydag uwch-glinigwyr
Meini prawf dymunol
- Rheoli prosiectau
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Sgiliau rhyngbersonol a sgiliau dylanwadu effeithiol
- Sgiliau cyflwyno da
- Negodwr synhwyrol sydd â disgwyliadau ymarferol o ran yr hyn y gellir ei gyflawni
- Ymrwymiad cryf i egwyddorion iechyd y cyhoedd
- Meddwl yn strategol
- Gallu blaenoriaethu gwaith, a gweithio'n dda mewn cyfnodau o newid ac ansicrwydd
- Yn gallu addasu i sefyllfaoedd, yn gallu trafod pobl o bob gallu ac agwedd
- Ymrwymiad i weithio mewn tîm a pharch at sgiliau pobl eraill ac ystyriaeth ohonynt
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Sgiliau rheoli cyllideb
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jinette Parry
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector