Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Deintydd Arbenigol (Bediatrig)
- Gradd
- Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - C
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 050-SPECLST-DEN-PAED-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w phennu
- Tref
- I'w phennu
- Yn cau
- 17/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Deintydd Arbenigol (Dentyddiaeth Bediatrig)
Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - C
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg,ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Cymeryd rhan mewn darpariaeth gofal, sydd yn gofyn am egwyddorion moesegol proffesiynol cadarn mewn cyd-destun cymhleth yn gorfforol, cymdeithasol, ac yn ddeallusol.
Yn arddangos dull clinigol, proffesiynol gan gymeryd rhan mewn arfarniad, adolygiad cymheiriaid, archwyliad clinegol a gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaol (CPD).
Gwybodaeth ddigonol, hyder a phrofiad i arfarnu eraill neu arwain adolygiad cymheiriaid, archwyliad clinigol neu gweithgareddau CPD.
Gwybodaeth ddigonol, hyder a phrofiad i ddelio yn broffesiynol o ran materion fel perfformiad gwael neu danberfformiad mewn cydweithwyr, myfyrwyr ac aelodau eraill o’r tim ddeintyddol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
I ddarparu gofal arbennig mewn disgyblaeth clinigol sydd wedi ei nodi i gleifion mewn grwpiau blaenoriaethol yn unol â Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC(2022)022.
I berfformio dyleswyddau fel a nodwyd i gyfarfod anghenion y gwasanaeth.
I drefnu a goruchwylio ddarpariaeth gofal ddeintyddol i gleifion sydd angen gofal deintyddol arbennig yn briodol i arbenigedd deiliad y swydd.
I ddatblygu a chynnal gwasanaethau wedi ei ddylunio i adnabod cleifion sydd angen triniaeth o fewn yr arbenigedd.
I arwain mewn maes sydd wedi ei nodi o fewn y gwasanaeth fel bo angen.
I ddarparu hyfforddiant a/neu goruchwyliaeth sydd yn gysylltiedig â disgyblaethau arbenigol a pherthynol i ystod o staff.
Darparu ystod o driniaeth deintyddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth a chleifion sydd wedi eu cyfeirio at y CDS yn unol â pholisi Cyfarwyddiaeth/Y Bwrdd Iechyd.
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru yn llawn â’r GDC (Cyngor Deintyddol Cyffredinol)
- Bagloriaeth mewn llawdriniaeth ddeintyddol neu gyfwerth
- Wedi cofrestru ar restrarbenigedd y GDC yn berthnasol i’r swydd
- Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
- Tystiolaeth wedi’i dogfennu, hyfforddiant diogelu (plant ac oedolion)
- Tystysgrif Hyfforddiant ILS a PLS yn ystod y 12 mis diwethaf
- Tystysgrif IRMER/ diogelu ymbelydriad
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ôl-radd mewn sgil glinigol berthnasol
- Aelod o sefydliad broffesiynol / Cymdeithas ddysgedig yn berthnasol i’r sgil glinegol
- Cymhwyster mewn addysg glinigol / cymhwyster dysgu
- Cymhwyster rheoli
- ECDL neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o’r CDS a/neu HDS
- Profiad rheoli poen a pryder ag sy’n briodol i’r arbenigedd yn cynnwys technegau ymdaweliad ymwybodol
- Darparu gofal cynhwysfawr o dan Anesthetig Gyffredinol
- Profiad gyda pob grwp o gleifion sydd ag anghenion clinigol arbennig
- Hanes profedig yn y maes arbenigo
- Profiad rheoli risg
- Profiad o bwyllgorau
- Profiad mewn dysgu, hyfforddiant, goruchwylio a mentora staff iau, hyfforddeion a/neu myfyrwyr israddedig
- Cynhyrchu adroddiadau a/neu bapurau
- Adolygiad cymheiriaid ac archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn disgyblaethau deintyddol eraill
- GIG, GDS,neu profiad gofal deintyddiaeth sylfaenol yn y DU
- Profiad rheoli
- Profiad o ofal deintyddol yn y cartref a/neu ofal deintyddol symudol yn berthnasol i Ddeintyddiaeth Gofal Arbennig
- Profiad Ymchwil
- Profiad gweithio gyda therapydd deintyddol/ hylenyddion deintyddol
- Aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau sefydliadol ac arweinyddol: gallu i gyfathrebu â’r tîm drwy ei gymell a’i gefnogi
- Sgiliau cyfrifiadurol
- Gallu sefydlu gwasanaeth clinigol ar draws ardal a chynhyrchu adroddiadau
- Gallu cynllunio’n strategol
- Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
- Gallu blaenoriaethu baich gwaith a’i drefnu
- Sgiliau rhyngbersonol da gyda cleifion, gofalwyr, a cydweithwyr o ddisgyblaethau eraill
- Abl i arwain yn glinigol,hwyluso arloesiadau newydd a chynorthwyo gyda rheoli newid
Meini prawf dymunol
- Gallu i gyfathrebu theori a meithrin sgiliau mewn eraill
- Gwybodaeth o becynnau meddalwedd perthnasol
- Profiad ymchwil a/neu diddordeb mewn ymchwil sy’n seiliedig ar y gwasanaeth
- Gwybodaeth a profiad o’r fframwaith ariannol sy’n berthnasol i’r arbenigedd
- Gallu defnyddio technegau trin claf megis, swyngwsg, NLP a CPT
Addasrwydd Personol
Meini prawf hanfodol
- Hyblyg a bodlon i ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd a therfynau amser
- Gosod safonau uchel a chymhelliant i’w cyflawni
- Yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau eich hun
- Gallu gweithio yn annibynnol
- Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
- Gradd uchel o broffesiynoldeb sy’n arddangosadwy drwy gefnogaeth cyfoedion a rheolwyr
- Gallu/hyder i werthuso eraill
General
Meini prawf hanfodol
- Yn abl i deithio i wahanol fangre ar draws Gogledd Cymru fel bo angen mewn ffasiwn amserol
- Gwerthusiad o faterion amrywiaeth ddiwylliannol a chydraddoldeb
Meini prawf dymunol
- Rhuglder neu wybodaeth da o ran y Gymraeg
- Rhuglder mewn iaith fodern tramor (arwahan i Saesneg neu Gymraeg)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jessica Bell Davies / Sylvia Griffiths
- Teitl y swydd
- Asst Clinical Director / PA to Clinical Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 856231
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector