Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deintyddol
Gradd
Deintydd Meddygol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Contract
Parhaol: Llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-BANDA-DEN-0125
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Ddeintyddol Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£47,914 - £71,871 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
30/01/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gradd A Swyddog Deintyddol

Deintydd Meddygol y GIG: Deintydd Cyflogedig - A

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn edrych i recriwtio chwaraewyr tîm sydd yn frwdfrydig, hyblyg,ag yn llawn cymhelliad gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog. I ddarparu triniaeth glinigol yn unol a Band A ac yn unol a polisi Llywodraeth Cymru.

 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Darparu ystod o driniaeth deintyddol ar gyfer grwpiau blaenoriaeth a chleifion sydd wedi eu cyfeirio at y CDS yn unol â pholisi Cyfarwyddiaeth/Y Bwrdd Iechyd.   

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.                                             

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae rhan fwyaf o’r staff wedi ei hyfforddi mewn technegau mewnanadliad tawelyddu. Mae’r gwasanaeth yma ar gael bron ymhob safle, yn cael ei gynnig gan ddeintyddion a therapyddion. Mae gwasanaeth ymdaweliad mewnwythiennol hefyd ar gael, ac mae Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn gweithredu gwasanaeth anesthesia cyffredinol yn tair Ardal yr Ysbytai Gyffredinol.Rydym yn cael cefnogaeth gan ymgynghorydd Bediatrig Deintyddol Ysbyty Alder Hey.

Ar hyn o bryd rydym yn croesawu dau (HCD)(DCT(1) pob blwyddyn ac mae gennym safle i arbenigwr hyfforddiant mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig. Mae holl myfyrwyr blwyddyn olaf Ysgol Ddeintyddol Gaerdydd yn mynychu Cynllyn Hyfforddiant Allanol i Fyfyrwyr yn gweithredu o Ganolfan Deintyddol Wrexham (ail ddechrau Medi 2022).

Mae gwasanaethau estynedig yn cynnwys Gwasanaeth Haen Canolog Llawfeddygaeth Dant- gorfannol a darpariaeth cefnogol (DGA) i tîm Canser Pen a Gwddf (MDT). Darperir hyfforddiant i Therapyddion mewn Mynediad Uniongyrchol ac Mewnanadliad Tawelyddu,ac rydym wedi ymrwymo i ehangu modelau medr gymysgedd.

Buddion

  • Lwfans adleoli ar gael
  • Cennad absenoldeb i astudio wedi ei dalu -21diwrnod mewn tair blynedd (pro rata)
  • Lwfans Hyfforddi Casgliadwy Blynyddol o £917 pob blwyddyn
  • Cynllun prydlesu car yn weithredol
  • Fe delir am Absenoldeb Blynyddol - 34 o ddyddiau a 8 o ddyddiau gwyliau’r banc (pro rata

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Disgrifiad Swydd Llawn a Manyleb y Person i'w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestru gyda'r GDC
  • Baglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol neu gyfwerth
  • Prawf o gynnal datblygiad proffesiynol parhaus ar ôl graddio
  • Ardystiad diogelu plant ac oedolion
  • ILS ac Ardystiad PLS
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ôl-radd sy'n dangos sgil glinigol priodol
  • Aelodaeth o sefydliad proffesiynol perthnasol

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad diweddar yn y GIG mewn Gwasanaeth Deintyddol Cymuned/ Gwasanaeth y cawsoch gyflog amdano a / neu GDS
  • Pob agwedd o ddeintyddiaeth gyffredinol
  • Darpariaeth o ofal i gleifion o bob oed
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn disgyblaethau deintyddol eraill
  • Wedi arfer gweithio mewn amgylchedd cartref cleifion/deintyddiaeth symudol
  • Asesu a thrin cleifion bregus sydd ag anghenion clinigol arbennig ac/neu ymddygiad heriol
  • Trefnu Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol
  • Darpariaeth 'Safety Net' neu EDS
  • Profiad â Thawelydd Anadlu
  • Profiad o ddarparu gofal gan ddefnyddio Anesthesia Cyffredinol
  • Profiad o ffurfiau eraill o dawelyddion neu reolyddion gorbryder
  • Asesiad o gleifion am driniath o dan Anesthesia Cyffredinol

Sgiliau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau Tîm: yn gallu cyfathrebu â'r tîm a'i gefnogi a'i gymell
  • Hunangymhelliant ac yn gallu bodloni terfynau amser
  • Gallu blaenoriaethu a threfnu eich llwyth gwaith
  • Sgiliau rhyngbersonol / chyfathrebu da
  • Yn gallu defnyddio cymhelliant
  • Sgiliau dirprwyo-gweithio gyda therapyddion / hylenyddion deintyddol
  • Sgiliau cyfrifiadurol
Meini prawf dymunol
  • Gallu defnyddio pecynnau meddalwedd e.e. Soel Health

Addasrwdd Personol

Meini prawf hanfodol
  • Bodlon ymrwymo i sicrhau canlyniadau a chwrdd â therfynau amser
  • Gosod safonau uchel a bod â’r cymhelliant i’w cyflawni
  • Ymateb yn bositif i ethos tîm
  • Yn ymwybodol o'ch cyfyngiadau eich hun
  • Gallu gweithio'n annibynnol
  • Ymagwedd hyblyg at flaenoriaethau a systemau gwaith cyfnewidiol
Meini prawf dymunol
  • Bod yn arloesol e.e. awgrymu syniadau newydd i wella trosglwyddiad y gwasanaeth

Cyffredinol

Meini prawf hanfodol
  • Gallu teithio rhwng safleoedd yn brydlon
  • Rhuglder neu wybodaeth am ieithoedd perthnasol eraill
Meini prawf dymunol
  • Rhuglder neu wybodaeth am y Gymraeg
  • Rhuglder neu wybodaeth iaith/ieithoedd perthnasol eraill

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Stuart Mawson
Teitl y swydd
Deputy Clinical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859666
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg