Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Administration
Gradd
Band 3
Contract
Cyfnod Penodol: 8 mis (Until 31/3/2025 due to funding)
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-AC074-0524-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Bronllys
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£23,159 - £24,701 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Administrator Integrated Autism and ADHD Service

Band 3

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS  OHERWYDD CYLLIDO.

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous, prysur a heriol iawn ac rydym yn chwilio am Weinyddwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio o fewn y tîm i weithredu fel pwynt derbyn cyntaf i holl atgyfeiriadau (gan gynnwys hunanatgyfeiriadau)

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddilyn systemau, polisïau a gweithdrefnau priodol wrth sicrhau bod data’n cael ei gofnodi’n effeithlon ac yn gywir. Mae sgiliau TGCh/teipio rhagorol, sgiliau cyfathrebu amserol a medrus yn hanfodol i sicrhau bod profiad y defnyddiwr o ansawdd uchel o hyd. 

Bydd angen gweithio gyda chryn fanwl gywirdeb, brwdfrydedd, hyblygrwydd a chadernid er mwyn gweithio o fewn gwasanaeth blaengar sy’n datblygu o hyd. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithlon, meithrin perthynas a chydberthnasau effeithiol ar bob lefel yn hanfodol.  

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor. 

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Cefnogi holl anghenion gweinyddol y Tîm IAS fel un pwynt mynediad. Datblygu systemau a thempledi i gefnogi a threfnu gweithgaredd IAS gan gynnwys amserlennu apwyntiadau. Cydgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd, Meddygon Teulu ac atgyfeirwyr eraill ynghyd â gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol i ddarparu asesiad, diagnosis, cymorth a gofal integredig.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

 

Manyleb y person

Essential

Meini prawf hanfodol
  • Advanced knowledge of MS Office based application inc Excel, Outlook and Word
  • Setting up new systems and procedures (electronic and manual)

Skills and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Excellent communication and interpersonal skills, both verbally and in written form
  • Proficient in organizing and prioritising own workload
  • Confident to liaise with a range of colleagues at all levels, internal and external.

Personal Qualities

Meini prawf hanfodol
  • Able to create effective working relationships
  • High degree of confidentiality and discretion
  • Professional and self motivated, tact and diplomatic

Other

Meini prawf hanfodol
  • Able to work across a number of PTHB sites as required

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ceri Edwards
Teitl y swydd
Business Support Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 712752
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg