Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Uned Llawfeddygaeth Dydd ac Endosgopi
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-ACS054-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog
Tref
Aberhonddu
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Gweithiwr Cynnal Gofal Iechyd Endosgopi

Gradd 3

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd Endosgopi i ymuno â’n Tîm Endosgopi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae hon yn swydd llawn amser parhaol.

Mae’r rôl yn cynnig cyfle cyffrous i weithio fel rhan o dîm deinamig i ddarparu gofal cynhwysfawr o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn gweithio dan oruchwyliaeth ein Hymarferwyr Endosgopi ac fel rhan o dîm agos a chyfeillgar i ddarparu gofal o safon uchel i gleifion cyn ac ar ôl y weithdrefn.

Bydd gofyn i chi gynorthwyo ein tîm clinigol i ddarparu gofal rhagorol o fewn endosgopi a byddwch yn cyflawni ystod o ddyletswyddau clinigol ac anghlinigol fel y cyfarwyddir gan yr Ymarferydd Cofrestredig. Byddwch yn dilyn hyfforddiant i ddihalogi endosgopau ac o fewn yr ystafell lân yn unol â chanllawiau, polisïau a gweithdrefnau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyfrannu at asesu anghenion gofal a gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal, gan gymryd rhan a chyfrannu at yr agenda llywodraethu clinigol ehangach gan gynnwys datblygu gwasanaethau a gweithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion y cleifion a'r gwasanaeth.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio sgiliau arbenigol yn y prosesau paratoi a dadlygru ar gyfer gweithdrefnau endosgopi. Gweithio mewn maes amlddisgyblaethol ac amlasiantaeth ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r timau sylfaenol a chymunedol. Mae gofyniad hefyd i oruchwylio staff iau a gweithio'n rheolaidd heb oruchwyliaeth uniongyrchol nyrs gymwysedig neu’r Ymarferydd.

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.

Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau a / neu Wybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysg gyffredinol dda ac yn rhifog a llythrennog
  • NVQ Lefel 3/QSF mewn tystysgrif sy’n gysylltiedig a gofal iechyd / Tystysgrif mewn Nyrsio Gofal Iechyd, Addysg Gweithiwr Cymorth, Neu Gymhwyster cyfatebol, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd.
  • Cwblhau modiwl ENDO1 e-lfh
  • Cwrs achrededig ENDO1
  • Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol a gwirfoddol.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.
  • Profiad o ddarparu gofal a chynnal arsylwadau clinigol.
  • Profiad mewn ystod o sgiliau clinigol mewn lleoliad Endosgopi
  • Gallu dangos hunan-gymhelliant, yn rhagweithiol ac yn ddyfeisgar
  • Dangos hyder a phendantrwydd
  • Tystiolaeth yn gallu/wedi gweithredu fel model rôl cadarnhaol ar gyfer eraill
  • Y gallu i ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd.
  • Yn gallu gweithio mewn lleoliad aml-asiantaeth
  • Gallu gweithio'n annibynnol (o fewn cymhwysedd) ac fel rhan o'r tim
Meini prawf dymunol
  • Rol ofalgar flaenorol
  • Profiad o ddadlygru endosgopau

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu gweithio dan oruchwyliaeth o bell
  • Y gallu i leddfu sefyllfaoedd anodd/bygythiol
  • Profiad o arbenigeddau endosgopi
  • Gwybodaeth am brosesau rheoli sydd eu hangen i redeg yr adran Theatr ac Endosgopi
  • Yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith.
  • Lefel uchel o ddeheurwydd a llaw i alluogi deiliad y swydd i baratoi a gwirio offer
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Llythrennedd cyfrifiadurol a'r gallu i ddefnyddio ystod o gymwysiadau TG e.e. Word, Outlook
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu dangos gwerthoedd y Bwrdd Iechyd
  • Gall ddangos dealltwriaeth o Faterion Iechyd a Diogelwch

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Yn gallu gweithio’n hyblyg gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau ac ar draws ein safleoedd yn Aberhonddu a Llandrindod
  • Yn gallu teithio
  • Hyblyg i ateb gofynion y gwasanaeth - newid mewn llwyth gwaith/rolau yn ystod y shifft waith

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jane Harrison
Teitl y swydd
Endoscopy Co-ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 615814
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg