Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Arbenigwr Deintyddiaeth Gofal Arbennig
GIG Deintydd Cyflogedig - C
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn recriwtio arbenigwr mewn deintyddiaeth gofal arbennig i gefnogi swyddogion deintyddol profiadol yn y gwasanaeth deintyddol cymunedol. Mae'r swydd yn agored i unrhyw un sy'n byw yn y DU sy'n arbenigwr cofrestredig gan fod y swydd hon yn un arloesol ac felly’n caniatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cyngor a chynllunio triniaeth arbenigol gan ddefnyddio meddalwedd ymgynghori o bell. Bydd hyn yn galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i weithio gartref am y rhan fwyaf o'r amser gyda dim mwy nag 8 clinig wyneb yn wyneb mewn unrhyw flwyddyn. Mae BIAP yn fwrdd iechyd gwledig ac yn ddaearyddol mawr, does ganddo ddim ysbyty cyffredinol dosbarth ond mae'r cynllun arloesol hwn wedi'i gynllunio i gynyddu mynediad arbenigol at ddeintyddiaeth gofal arbennig. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio’n dda fel tîm a bod â'r gallu i drin cleifion yn hyderus gan ddefnyddio cyfuniad o wybodaeth gan y swyddog deintyddol / therapydd a gwybodaeth ymgynghori o bell. Bydd angen i gleifion sy'n anaddas i gael eu trin mewn amgylchedd gofal sylfaenol a chymunedol gael eu cyfeirio at ymddiriedolaeth neu fwrdd iechyd cyfagos sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gydlynu eu gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ar y cyd â'r cyfarwyddwr cyswllt deintyddol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau deintyddol ar gyfer cleifion gofal arbennig, gan gynnwys cleifion sy'n dioddef o orbryder a ffobia deintyddol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnwys ystod eang o leoliadau, arbenigeddau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal deintyddol sylfaenol, gofal eilaidd dan arweiniad ymgynghorwyr, anghenion arbennig a chleifion grwpiau blaenoriaeth yn y clinig a lleoliad y cartref. Mae hyn yn cynnwys Ysgolion, cartrefi nyrsio a phreswylio, arolygon epidemiolegol, a hybu/addysgu iechyd y geg.
Anogir a chefnogir hyfforddiant, datblygiad a chymysgu sgiliau'r gweithlu deintyddol.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i swydd ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Appropriate graduate qualification or equivalent in Dentistry
- Registration with the GDC as a Dentist
- Relevant postgrad qualification
Meini prawf dymunol
- Registered with GDC as specialist
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of special care dentistry
- MOS experience
- Working on own initiative
Meini prawf dymunol
- Experience of working in a multi disciplinary team
- Competent in IHS and IV sedation
- Experience of treating patients under GA
Skills
Meini prawf hanfodol
- Excellent communicator
Meini prawf dymunol
- Knowledge of CDS
- ICT skills
other
Meini prawf hanfodol
- Full driving licence
- Willingness to undertake further training and personal development as required
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Warren Tolley
- Teitl y swydd
- Associate Dental Director
- Rhif ffôn
- 07885099649
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a deintyddol neu bob sector