Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Nrys Ddeintyddol
Gradd 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous newydd i Nyrs Ddeintyddol weithio gyda thîm yr Uned Ddeintyddol Symudol sydd wedi'i lleoli yn Aberhonddu. Mae’r swydd yn Fand 4, Rhan Amser, 15 awr yr wythnos. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ddarparu gofal cynhwysfawr, o ansawdd uchel i sbectrwm eang o gleifion ledled Powys o fewn clinigau'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, gan gynnwys clinigau deintyddol symudol a/neu safleoedd allanol fel ysgolion a chartrefi nyrsio yn ôl y gofyn. Bydd gan Nyrsys Deintyddol lleoliad o glinig/adran pan gânt eu penodi a disgwylir iddynt weithio'n hyblyg ar draws gwahanol safleoedd lle darperir triniaeth ddeintyddol.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd sefydlu cysylltiadau cryf a chysylltiadau gwaith effeithiol â'r tîm deintyddol cyfan yn ogystal â chleifion, rhieni, gwarcheidwaid, darparwyr addysg, canolfannau dydd ar gyfer Oedolion/Plant ag anghenion arbennig, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau Deintyddol eraill, Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol, Ysbytai, ymarferwyr meddygol a chyflenwyr deunydd deintyddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio fel rhan o’r tîm Deintyddol, yn paratoi a monitro cleifion ar gyfer, ac yn ystod eu triniaeth, gan ddarparu cyfarwyddiadau cyn ac ar ôl y llawdriniaeth.
Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn gyfrifol am greu a chynnal amgylchedd er mwyn darparu ansawdd uchel o ofal i gleifion.
Fel rhan o’r rôl wobrwyol hon, bydd gofyn am weithio'n annibynnol wrth ragweld offerynnau sy'n ofynnol yn ystod triniaethau a gyflawnir gan y clinigydd, cymysgu deunyddiau, a dal offerynnau yn eu lle.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Croeso i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys!
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a llesiant pobl Powys yng nghanolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gydag oddeutu 133,000 o bobl yn byw ledled ardal sydd chwarter maint Cymru, rydym yn darparu cynifer o wasanaethau â phosibl yn lleol. Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Gan nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob tro yn ymdrechu i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl ym Mhowys gan gynnwys asesiadau a’r camau dilynol ar ôl triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a’r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualification / Knowledge
Meini prawf hanfodol
- National certificate for DN's or equivalent
- Registered with GDC
- Evidence of continued professional development
Meini prawf dymunol
- Post basic certificate in any of the following Sedation, SC, Radiography, Oral Health, Orthodontics
- Knowledge of the role of the CDS
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of being competent in Dental Administration, prioritising tasks and managing deadlines
- Keyboard skills, outlook, word, Excel
Meini prawf dymunol
- Experience of working with the public, special care pts and the elderly
- Experience of working in an environment where tact, diplomacy and confidentiality required
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to work and relate to children and special needs
- Ability to use initiative in emergency situations
- Ability to develop good working relationships
- Ability to prioritise and organise clinc/surgery
- Self motivated and able to motivate patients
- Team player
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Self management and planning skills
- Experience of commitment to QA and Audit
Values
Meini prawf hanfodol
- Good written and verbal communication skills, with people from a variety of backgrounds
- Support and demonstarte PTHB values
- Able to work autonomously
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel in a timely manner to other locations
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a deintyddol neu bob sector