Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cydlynydd Uned Ddeintyddol Symudol
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous newydd wedi codi i Gydlynydd Uned Ddeintyddol Symudol wedi’i leoli yn Aberhonddu. Mae’r swydd yn Fand 3, Llawn Amser, 37.5 awr yr wythnos. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am yrru'n rheolaidd, cadw trefn, sefydlu a rhedeg y Uned Ddeintyddol Symudol (UDS). Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r staff clinigol i gyflawni eu dyletswyddau i sicrhau defnydd effeithlon o amser a chyfradd brosesu da. Os ydych chi'n ffynnu mewn swydd amrywiol, gallai'r swydd gydlynu hon fod at eich dant chi.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am yrru'r UDS (dan 7.5 tunnell) o bosibl bob dydd, trwy'r ardal ddaearyddol a gwmpesir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gall rhai ardaloedd fod yn gyfyngedig ac yn wledig iawn, gan ofyn am gymhwysedd a sgil. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gwneud yr holl wiriadau cerbydau angenrheidiol bob dydd a chynnal asesiadau risg. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n annibynnol a dwyn cyfrifoldeb am reoli llwyth gwaith dyddiol unigol a byddwch yn defnyddio menter eich hun i ddatrys problemau pan fyddant yn codi. Bydd y rôl yn cynnwys cludo offer, stoc a chyfarpar, sicrhau glanweithdra, paratoi a sicrhau bod y UDS yn addas i’r diben.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag aelodau'r cyhoedd, gan gynnwys oedolion a phlant ag anghenion ychwanegol. Bydd hefyd yn hebrwng plant i'r dosbarth ac o'r dosbarth i fynychu'r UDS, yn ogystal â derbyn/cofrestru aelodau'r cyhoedd, casglu gwaith papur a diweddaru systemau cyfrifiadurol gyda gwybodaeth berthnasol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualification /Knowledge
Meini prawf hanfodol
- NVQ level 3 or equivalent qualification, skills, knowledge
- C1 Driving License
Meini prawf dymunol
- Previous experience of dealing with multidisciplinary organisations
Experience
Meini prawf hanfodol
- Experience of driving larger vehicles
Meini prawf dymunol
- Experience of using dental software
Apptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent planning & organisational skills
- Previous experience of administration duties
- Good ICT skills
- Excellent interpersonal skills
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel in a geographical area
- Current C1 driving license
- Willingness to learn & develop
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jacqui Bennett
- Teitl y swydd
- Senior Dental Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754452313
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a deintyddol neu bob sector