Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Nyrs Systemau Digidol
Gradd 8a
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL /SECONDIAD AM 2 BLYNYDDOEDD OHERWYDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Trosolwg o’r Swydd
Ydych chi'n nyrs brofiadol sydd ag angerdd am arloesi digidol? Ydych chi eisiau ymuno â thîm deinamig sy'n trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu? Os ydych, efallai mai chi yw'r ymgeisydd perffaith ar gyfer rôl uwch nyrs dros systemau digidol.
Yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, rydym yn chwilio am Uwch Nyrs i arwain ar weithredu system presgripsiynu electronig a gweinyddu ar gyfer ysbytai cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Byddwch yn cael eich cefnogi gan Uwch Glinigwr a byddwch yn cael eich integreiddio i'r tîm ehangach i weithio ochr yn ochr â rolau eraill o fewn Timau Digidol, Fferylliaeth a Rheoli Prosiectau i gefnogi prosiect ePMA BIAP a phrosiectau arloesi gofal iechyd eraill.
Byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru a byddwch yn cynrychioli BIAP mewn cyfarfodydd cenedlaethol gan weithredu fel arweinydd clinigol ar gyfer prosiectau digidol eraill yn y Bwrdd Iechyd.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o weithio mewn lleoliad ysbyty gyda systemau digidol neu ar brosiectau digidol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol arnoch chi a'r gallu i feithrin perthnasoedd i alluogi newidiadau sylweddol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithredu system Presgripsiynu Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (EPMA) ochr yn ochr â ffrydiau gwaith eraill. Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol mewn tîm amlddisgyblaethol o glinigwyr a gweithwyr proffesiynol ehangach, er mwyn sicrhau bod system EPMA Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael ei gweithredu a'i defnyddio'n ddiogel.
Byddwch yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad arbenigol, ochr yn ochr â sgiliau digidol, i brofi, datblygu a ffurfweddu systemau. Darparu cyngor i reolwyr wardiau, staff ward a staff clinigol eraill, gan gynorthwyo i ddatblygu llifoedd gwaith effeithiol ac effeithlon ar gyfer gweithredu a chyflwyno'r system EPMA ar draws y Bwrdd Iechyd.
Elfen allweddol fydd hwyluso a chymryd rhan mewn darparu hyfforddiant arbenigol i Nyrsys Cofrestredig, Ymgynghorwyr, Meddygon, staff Fferylliaeth, staff Therapi ac arbenigeddau eraill a fydd yn rhyngweithio â'r system EPMA ar draws y Bwrdd Iechyd.
Arddangos y system, hyrwyddo buddion EPMA a gweithio gyda'r tîm EMPA i sicrhau bod y system yn cael ei gweithredu mewn modd diogel ac amserol. Cefnogi'r tîm EPMA i gynnal adolygiad o bolisïau a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu hysgrifennu a'u cadarnhau cyn gweithredu'r system EPMA. Bydd y rôl yn cynnwys nodi risgiau, a chynhyrchu cynlluniau lliniaru priodol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gweler y swydd ddisgrifiad atodedig a manyleb y person am fanylion llawn y rôl a hysbysebir.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications and Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Registered Nurse - currently registered with NMC
- Knowledge and understanding of clinical audit
- Leadership & Management experience
- Masters or equivalent experience
Meini prawf dymunol
- Teaching & assessing
- Service improvement experience
- Project management experience
Abilities
Meini prawf hanfodol
- able to drive
Experience
Meini prawf hanfodol
- Clinically credible with experience of multi-disciplinary working
- Significant post-registration Nursing practice
- Successful management of change and service modernisation
- Substantial post registration experience including clinical leadership, team management and with a reputation for professional innovation and excellence
- Experience of developing and managing clinical services
- Management of complex, sensitive and contentious situations
Meini prawf dymunol
- Project Management experience
- Service improvement experience
- Experience of working with internal and external stakeholders
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma McGowan
- Teitl y swydd
- Chief Nursing Information Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07805811619
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector