Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cynorthyydd gofal iechyd
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Oriau a amrywiol ar gael 7.5 24/7 rota)
Cyfeirnod y swydd
070-ACS053-0624-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Golwyn-Y- Bwthyn
Tref
Trefyclo
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
04/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Uwch Gynorthwyydd Gofal Iechyd

Gradd 3

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Cefnogi rheolwyr â phob agwedd ar redeg y cartref. Byddai’r rheolwyr ar gael i gefnogi.

Bod yn gyfrifol fel Uwch Ofalwr pan fo Dirprwy/ Rheolwr y Cartref yn absennol.

Deiliad y swydd fydd yr uwch aelod o staff gofal ar ddyletswydd, a fydd yn galw am fod yn hyderus i gynllunio’i (g)waith ei hun ac i sicrhau bod staff yn gwneud eu dyletswyddau i’r safonau uchaf posibl a, lle bo’n briodol, cymryd camau i gywiro pethau.

Cefnogi, monitro ac archwilio’r gwaith archebu, rheoli a rhoi cyffuriau y mae’r 
Cartref wedi cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw a chynnal a sicrhau bod y 
cofnodion meddyginiaeth angenrheidiol yn fanwl gywir ac yn gyfreithlon. 
Archwilio gwaith rhoi meddyginiaeth yn ddyddiol, i wirio’r amser a’r dos.
Sicrhau iechyd a diogelwch y preswylwyr. Rhoi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch neu offer diffygiol i’r rheolwr a llenwi adroddiad digwyddiad Datix.

Sylwch: Amlinelliad yn unig ydy’r swydd-ddisgrifiad hwn a gellir ei addasu gan ystyried newidiadau yn yr adran, ar ôl trafod hyn â deiliad y swydd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cymryd rhan mewn diwallu anghenion emosiynol a chorfforol preswylwyr, gan geisio darparu amgylchedd mor ysgogol, sefydlog a hapus â phosibl. Mynd ati i gyfathrebu â phreswylwyr sy’n eiddil ac sydd â dementia, a chymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau i ddifyrru ac ysgogi preswylwyr.

Helpu i sicrhau bod yr holl staff yn cyfrannu cystal ag y gallan nhw a dangos i staff sut i wneud tasgau newydd, i sicrhau bod y Cartref yn cael ei redeg yn effeithlon a chreu awyrgylch cartrefol.

Cynorthwyo â llunio cynlluniau gofal ar gyfer preswylwyr newydd ac adolygu cynlluniau gofal ar gyfer preswylwyr sydd wedi bod yn y cartref ers tro.

Gofalu am breswylwyr trwy:
Olchi a rhoi bath iddyn nhw a’u cynorthwyo â gwisgo a dadwisgo.
Cynorthwyo â’u gofynion o ran mynd i’r toiled, yn enwedig y rheini sy’n 
gorfforol fregus, yn fregus eu meddwl neu’n ddryslyd.

Eu cynorthwyo â symud o gwmpas gan ddefnyddio cymhorthion symud a 
ddarperir iddyn nhw eu defnyddio

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch a thim y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG a phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.

Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Qualification and Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • level 3 QCF/NVQ Health & Social Care
Meini prawf dymunol
  • level 3 QCF/NVQ Health & Social Care

Values

Meini prawf hanfodol
  • Demonstrate PTHB values
Meini prawf dymunol
  • Demonstrate PTHB values

Experience

Meini prawf hanfodol
  • At least 2 years experience in a Health and Social care setting
Meini prawf dymunol
  • At least 2 years experience in a Health and Social care setting

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Caring and professional attitude
Meini prawf dymunol
  • Caring and professional attitude

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Christina Creemer
Teitl y swydd
Registered Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01547521229
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg