Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Administrative and Clerical
- Gradd
- Gradd 3
- Contract
- Cyfnod Penodol: 2 flynedd (i diwallu anghenion y gwasanaeth)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AC065-0524-B
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Llandrindod
- Tref
- Llandrindod
- Cyflog
- £23,159 - £24,701 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Swyddog Cefnogi Trin Galwadau Gwasanaeth Aros yn Iach
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
Cyfnod penodol am 24 mis oherwydd diwallu anghenion y gwasanaeth
Bydd y Swyddog Cymorth Trin Galwadau yn gyfrifol am y galwadau a dderbynnir fel rhan o'r rhaglen cymorth Rhestr Aros. Bydd deilliad y swydd yn dwyn cyfrifoldeb am roi cyngor clinigol cyffredinol i gleifion dan arweiniad gweithiwr iechyd cofrestredig, gan sicrhau eu bod yn derbyn gwybodaeth am sut y gallant wneud y gorau o'u hiechyd cyn gweithredu. Bydd hyn yn seiliedig ar ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn unol â gofynion cyfreithiol, rheolau statudol a pholisïau’r Bwrdd Iechyd o ran ymarfer.
Gan adrodd yn uniongyrchol i'r ymatebwyr clinigol, bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'r holl gleifion sy'n cysylltu. Gan weithio gyda'r tîm amlddisgyblaethol ehangach ar gyfer pob gwasanaeth bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod cleifion yn derbyn cyngor, arweiniad a gwybodaeth ddiogel, unigryw ac effeithiol. Defnyddir sgript a Chwestiynau Cyffredin i ymateb i ymholiadau tra'n sicrhau cyngor gan Nyrs Gofrestredig yn dibynnu ar sefyllfaoedd unigol pan fo angen.
Bydd deiliad y swydd yn ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol, ddadleuol a sensitif o natur bersonol a disgwylir iddo arsylwi a chydymffurfio â rheolau a pholisïau cyfrinachedd penodol.
Bydd hefyd yn dangos lefelau uchel o uniondeb ac ymrwymiad i'r Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ateb pob galwad ffôn o fewn yr amseroedd targed ymateb ac yn unol â'r weithdrefn, gan gyfarch y galwr yn gwrtais yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Sicrhau yr ymdrinnir â phob galwad yn brydlon ac mewn modd hyfedr a phroffesiynol, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau gweithredol y cytunwyd arnynt sy'n gysylltiedig â'r rhaglen cymorth Rhestr Aros.
Arwain galwyr at wasanaethau ac adnoddau a fydd yn eu cefnogi i wneud y gorau o'u hiechyd wrth aros ar restr aros.
Cysylltu â'r ymatebwyr clinigol ac aelodau eraill o'r Tîm Cymorth Rhestr Aros a sicrhau bod galwyr yn cael gwybodaeth gywir a chyfredol mewn perthynas â'r gwasanaethau priodol.
Cyfieithu gwybodaeth glinigol i iaith hawdd ei deall i gleifion, gan egluro terminoleg feddygol i sicrhau dealltwriaeth.
Cyfathrebu'n effeithiol a sefydlu perthynas waith dda gyda phawb o fewn ac allan i'r Bwrdd Iechyd y byddai deiliad y swydd yn dod ar eu traws.
Bydd yn gwneud ac yn ateb galwadau ffôn ac yn defnyddio menter a synnwyr cyffredin wrth ateb ymholiadau. Darparu cyngor a chefnogaeth broffesiynol.
Dangos cwrteisi a sensitifrwydd wrth ddelio â chleifion, perthnasau a chydweithwyr, gan gynnal cysylltiadau cwsmeriaid da.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster NVQ3 neu brofiad cyfatebol mewn rôl weinyddol
- 5 TGAU graddau A-C gan gynnwys Saesneg a Mathemateg
- Yn llythrennog mewn TG gyda gwybodaeth gynhwysfawr o Microsoft Office, pecynnau gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Outlook, a Teams
- Ymdrin â sefyllfaoedd anodd a sicrhau gweithio effeithiol trwy ddefnyddio ystod o sgiliau rhyngbersonol
- Tystiolaeth o ddatrys problemau
- Dealltwriaeth o lywodraethu clinigol
- Dealltwriaeth o Wella Ansawdd
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Gwybodaeth am y GIG a sut mae'n gweithio
- Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i ddatblygiad
- Profiad o drosglwyddo gwybodaeth i eraill trwy ddylunio a chyflwyno hyfforddiant
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn tîm
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gofal iechyd
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd newidiol
- Profiad clinigol blaenorol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur ac ymdrin â blaenoriaethau lluosog
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Y gallu i ysgogi ac ennyn brwdfrydedd eraill
- Sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i ymateb yn effeithiol i flaenoriaethau lluosog
- Sylw rhagorol i fanylion a chywirdeb
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth/profiad o systemau cyfrifiadurol
- Gwybodaeth am WPAS/Systemau Gweinyddu Cleifion
- Gwybodaeth am systemau SharePoint
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Dangos Gwerthoedd BIAP
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i yrru
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Judith Jamieson
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager Outpatient Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 61 5654
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector