Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Prosiect, Gwasanaeth Aros yn Iach
Band 4
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Adran Cleifion Allanol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Swyddog Prosiect ymuno â'n Gwasanaeth Aros yn Iach o fewn Gofal wedi'i Gynllunio.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu a chydlynu gwasanaeth cymorth cynhwysfawr i brosiectau fel y penderfynir yn y Polisi 3P h.y. Hyrwyddo, Atal a Pharatoi ar gyfer Gofal wedi'i Gynllunio drwy rymuso cleifion i gadw'n iach tra ar y rhestr aros.
Mae hon yn swydd cyfnod penodol a bydd yn dod i ben ar 31/03/2026 oherwydd cyllid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a phrosiect dibynadwy a chyson i'r Gwasanaeth Aros yn Iach a grwpiau cysylltiedig, gan flaenoriaethu llwyth gwaith a delio â neu gyfeirio ymholiadau fel y bo'n briodol.
Byddant yn cyfathrebu ac yn derbyn gwybodaeth gymhleth, sensitif, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar draws timau amlddisgyblaethol a sefydliadau allanol a phob amser yn cynnal cyfrinachedd.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynhyrchu adroddiadau monitro a ffurflenni ar gyfer Llywodraeth Cymru, Grŵp Llywio, Bwrdd Gofal wedi'i Gynllunio, a grwpiau eraill yn ôl y gofyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch "Gwneud Cais Nawr" i'w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Manyleb y person
Qualifications and / or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- HND or NVQ3 plus relevant experience or equivalent level qualification with Literacy & Numeracy at level 2
- Advanced Keyboard Skills e.g. RSA level III
Meini prawf dymunol
- ECDL or equivalent
Experience
Meini prawf hanfodol
- Significant experience of working in an office in an administrative role
- Experience of dealing with confidential and sensitive data and appropriate maintenance and storage of records
- Ability to produce reports, spreadsheets and correspondence
- Minute taking and recording
- Experience of autonomous working
- Working knowledge of MS Office Suite
- Awareness of policies and procedures relating to dealing with confidential data both personal and organisational
- Working knowledge of filing/data systems including records management
- Knowledge of administrative and organisational procedures, acquired through training and relevant experience
Meini prawf dymunol
- Working in an NHS environment
- Experience of maintaining and uploading content to websites
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Planning and organisational skills
- Work to deadlines and under pressure
- Work within a team and on own initiative
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Continued Personal Development
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel as required for training and work/meetings
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Judith Jamieson
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manager Outpatients Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 61 5654
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector