Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Dietegydd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP031-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gyfathrebu
- Tref
- Gogledd Powys
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Dietegydd Arweiniol Clinigol
Gradd 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn gyffrous i gynnig cyfle i ddeietegydd deinamig a brwdfrydig arwain gwasanaethau Diabetes Oedolion yn weithredol ac yn strategol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Byddech yn dwyn cyfrifoldeb am addysg grŵp gan gynnwys atal trwy'r Rhaglen Cymru Gyfan (AWDPP), Diabetes Math 1 a Math 2 (DAFNE a XPERT), ac yn chwilio’n weithredol am gyfleoedd ar gyfer datblygu a gwella gwasanaethau i sicrhau canlyniadau sy'n canolbwyntio ar dystiolaeth. Byddwch yn gweithio'n agos gyda nyrsys arbenigol diabetes, ac yn ymdrechu i wreiddio'r tîm amlddisgyblaethol mewn llwybrau, yn cyd-fynd hefyd â gwasanaethau Cleifion Mewnol a Chleifion Allanol. Byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, Clystyrau Meddygon Teulu ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae BIAP yn gyflogwr arloesol yng nghanol cefn gwlad Cymru gyda holl fanteision llonyddwch y sir, tai fforddiadwy, a chysylltiadau ffyrdd da. Mae'r adran yn gweithredu o safleoedd ar draws Powys, a byddech yn cael eich cefnogi gan y Pennaeth Gwasanaeth Proffesiynol sy'n gweithio'n agos gydag Arweinwyr Therapi eraill i gynnal cydweithrediad gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd cryf o fewn BIAP, ac yn mwynhau cefnogaeth broffesiynol cydweithwyr. Byddwch yn rheoli tîm bach, yn cefnogi cydweithwyr iau, ac yn cyfrannu at hyfforddiant myfyrwyr mewn cydweithrediad â Phrifysgolion Caerdydd a Glyndŵr.
Mae cefndir proffesiynol perthnasol yn ddymunol, ond cefnogir DPP. Croesawir ymgeiswyr gyda llai o brofiad ond sy’n meddu ar rinweddau personol ac agwedd cadarnhaol rhagorol. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol ar ymgeiswyr, a’r gallu i weithio'n annibynnol ac ar y cyd.
Gall oriau gwaith a lleoliad fod yn hyblyg cyn belled â bod anghenion y gwasanaeth ehangach yn cael eu cefnogi. Fodd bynnag, byddai angen mynediad at gar i gefnogi teithio ar draws safleoedd, ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Gradd cymhwyster cydnabyddedig / cyfwerth mewn Deieteg
- Gwybodaeth o wasanaethau sy’n cysylltu a rhyngwyneb ar draws gofal sylfaenol / eilaidd i ddarparu gofal integredig o fewn yr arbenigedd.
- Lefel uchel o brofiad a sgiliau deietegol clinigol o fewn yr arbenigedd sy'n rheoli llwythi achosion cymhleth/ nad yw’n gymhleth
- Knowledge of current policies and applications in the clinical area
- HCPC Registered Dietician
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth gynhwysfawr a enillwyd drwy fod yn aelod gweithredol o grwpiau / rhwydweithiau clinigol / dietetig arbenigol.
- Uwch Ymarferydd Clinigol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Advanced level experience of clinical dietetic skills within the specialism managing complex/non-complex caseloads
- Experience of leadership and service transformation
- Delegation and supervision skills
- Experience in service development / improvement / audi
- Evidence of critical appraisal, analytical thought/audit and research methodology
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Ability to plan, lead, inspire the team to meet priorities
- Proficient in the use of digital programmes and platforms e.g. Microsoft TEAMS
- Well-developed critical appraisal skills
- Proven developed communication skills at a variety of levels
- Able to demonstrate tact and diplomacy when working with others
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Other
Meini prawf hanfodol
- Able to work across a number of sites throughout Powys Able to work flexibly according to the changing needs of the service
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Penny Doyle
- Teitl y swydd
- Professional Head of Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07827 234314
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector