Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Banc - Nyrs Gyffredinol Gofrestredig
NHS AfC: Band 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso
gofal nyrsio seiliedig ar dystiolaeth, gan weithio ar y cyd ag eraill i ddiwallu
anghenion cleifion a’u teuluoedd.
Cynorthwyo â rheoli a threfnu’ch ardal glinigol a chymryd rhan mewn addysgu, datblygu a goruchwylio aelodau eraill o staff.
Prif ddyletswyddau'r swydd
SYLWCH:
Canllawiau ymgeisio – mae’n bwysig eich bod chi’n darllen y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person, ac yn dangos sut rydych chi’n bodloni’r meini prawf hyn yn eich cais. Os nad ydych chi’n bodloni’n llwyr y gofyniad o ran cymwysterau, peidiwch â gadael i hyn eich atal rhag ymgeisio.
I gael manylion pellach/ ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â’r tîm Staffio Dros Dro ar 01874 712557.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Croeso i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys!
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a llesiant pobl Powys yng nghanolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gydag oddeutu 133,000 o bobl yn byw ledled ardal sydd chwarter maint Cymru, rydym yn darparu cynifer o wasanaethau â phosibl yn lleol. Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Gan nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob tro yn ymdrechu i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl ym Mhowys gan gynnwys asesiadau a’r camau dilynol ar ôl triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a’r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a / neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi cofrestru â’r NMC
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudio a hyfforddi ar ôl cofrestru, e.e.
- Ymwybyddiaeth o ddiogelu
- Cynnal Bywyd Canolradd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn cofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o’r fframwaith llywodraethu clinigol
- eiliedig ar dystiolaeth
Doniau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth glir o’r contract gofalu
- Gallu dogfennu manylion yn glir ac yn fanwl gywir
- Dealltwriaeth glir o’r broses gydsynio
- Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad Cymraeg
- Gwbodaeth o bolisi adrodd ar ddigwyddiadau
- Ymwybyddiaeth o Bolisïau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol
- Gallu gweithio dan bwysau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Powys TSU
- Teitl y swydd
- TSU administrator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874712557
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fanylion pellach cysylltwch â'r tîm Staffio Dros Dro ar 01874 712557. neu e-bost ar [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector