Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Assistant Technical Officer - Community Services
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-ACS050-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
TBC
Tref
TBC
Cyflog
£22,720 Y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
Today at 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Swyddog Technegol Cynorthwyol Fferylliaeth

Gradd 2

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi’n chwilio am brofiad cyffrous ac unigryw? Mae cyfle wedi codi ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys i Gynorthwyydd Fferyllfa ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Fferylliaeth Gymunedol. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n frwdfrydig ac yn awyddus dros ofal i gleifion sydd am wella gwasanaethau cleifion, i ymuno â ni yn y tîm fferyllfa, gan gefnogi ein cymuned ac ysbytai cymunedol.

Byddwch yn cael eich cefnogi gan Dîm Rheoli Meddyginiaethau profiadol o fferyllwyr, technegwyr fferyllfa, Nyrsys Rheoli Meddyginiaethau, cynorthwywyr fferyllol a staff gweinyddol. Byddwch yn aelod gwerthfawr iawn o'r tîm a byddwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu’n bersonol a hyfforddiant parhaus. Bydd yr holl ddyletswyddau’n cael eu goruchwylio gan aelod o staff cymwys. Bydd gennych gyfle i gyflawni NVQ lefel 2 neu gymhwyster cyfwerth a bydd deiliad y swydd yn derbyn hyfforddiant ac mae’n hanfodol i’r rôl.

Mae’r swydd wag hon yn cynnig rôl barhaol am 30 awr yr wythnos. Bydd hyblygrwydd o ran dros sawl diwrnod y gweithir yr oriau hyn.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Cyflawni amrywiaeth o dasgau i gefnogi’r timau fferylliaeth yn y Bwrdd Iechyd gan weithio o fewn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol.

Cymryd rhan mewn rota ar gyfer gweithgareddau dosbarthu ac yn y storfeydd cyffredinol i gynnwys danfon nwyddau i wardiau, rheoli stoc a derbyn/storio nwyddau.

Cefnogi gweithrediadau gweinyddol y tîm Rheoli Meddyginiaethau, lle bo angen.

Bydd angen teithio o amgylch safleoedd Powys ar adegau.

Gweithio i'n sefydliad

Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am fodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle i fod. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys.  Powys ydy’r sir fwyaf yng Nghymru, gydag Eryri i’r Gogledd a Bannau Brycheiniog i’r De, ac mae’r golygfeydd ysblennydd yn werth eu gweld. Gan weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n comisiynu ac yn darparu gwasanaethau ysbyty, cymuned, iechyd meddwl ac anabledd dysgu sydd wedi ennill gwobrau, felly mae ein portffolio yn amrywiol iawn. Rydyn ni’n falch o gynnig gofal ar lefel heb ei hail i’n cleifion, heb sôn am amrywiaeth eang o yrfaoedd i weithwyr proffesiynol sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o'r GIG yng Nghymru. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â thîm y Gweithlu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]

Mae Camu i Iechyd yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG gyda phobl yng nghymuned y Lluoedd Arfog.

Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg; ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y

swydd hon.

Manyleb y person

Qualifications and / or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • GCSEs (or equivalent) in Maths and English Grade C or above
  • A commitment to work towards NVQ level 2 in Pharmacy Services to attain within 1 year of employment
Meini prawf dymunol
  • Driver’s license

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Previous experience of working in a team
  • Competent keyboard skills
Meini prawf dymunol
  • Previous experience of working in a pharmacy or other healthcare environment

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Ability to understand and adhere to Powys Teaching Health Board Policies and Procedures
  • Able to lift and move pharmacy and fluids boxes on a regular basis
  • Good verbal communication skills
  • Able to deal sensitively and confidentially with personal patient information
  • Able to work as part of a team and able to take direction
  • Self-motivated
  • Able to work under pressure
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh

Other

Meini prawf hanfodol
  • The job will require frequent travel across Powys. The candidate will need to have the means to travel across the county
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kathryn Harries
Teitl y swydd
Senior Medicines Management Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01874 712641
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg