Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Fferyllydd Clinigol
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-PST020-0524
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bronllys
Tref
Bronllys
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
17/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Fferyllydd Clinigol

Gradd 6

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae hwn yn gyfle datblygu gwych i ennill profiad amhrisiadwy fel fferyllydd clinigol gyda'r opsiwn posibl o astudio ar gyfer Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Glinigol, os dymunir. Mae croeso i fferyllwyr cofrestredig sy'n gweithio mewn unrhyw sector ar hyn o bryd wneud cais. Mae'r swydd yn gyfnod penodol (18 mis), hyd at oriau llawn amser a gall fod yn hyblyg o ran lleoliad ym Mhowys.

Byddwch yn gweithio ar y cyd â thîm cynyddol o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol a bydd eich datblygiad yn cael ei gefnogi ymhellach gan dîm Rheoli Meddyginiaethau'r Bwrdd Iechyd a gweithlu amlddisgyblaethol profiadol, gan gynnwys meddygon teulu.

Byddwch yn rhan allweddol o sicrhau ansawdd y gofal ac effeithlonrwydd gweithredol, o ran meddyginiaethau, ar draws Powys a byddwch yn teithio, o amgylch un o rannau harddaf y DU. Bydd eich sgiliau cyfathrebu, clinigol ac arloesol yn cael eu defnyddio i ddangos y mewnbwn sylweddol sydd gan weithwyr fferyllol proffesiynol o bob gradd i'w gynnig i dimau gofal cleifion a thimau amlddisgyblaethol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y rôl wedi'i lleoli o fewn tîm gwasanaethau cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) a bydd yn cynnig cymorth Rheoli Meddyginiaethau i wardiau ac adrannau ysbytai cymunedol dynodedig a thimau cymunedol, gall hyn gynnwys adolygu cleifion mewn cartrefi gofal ac yn eu cartrefi eu hunain. Felly, gan ddarparu cyfle amlsector unigryw.

Mae cyfle unigryw hefyd i weithio gyda'r Fferyllydd Arweiniol ar gyfer Meddyginiaethau Digidol, yn ôl yr angen, i gefnogi gweithredu Presgripsiynu Electronig a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA) yn BIAP. Mae'r prosiect ePMA yn rhan o 'Bortffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol' Cymru Gyfan.

 

Gweithio i'n sefydliad

Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.

Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.

I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gallwch ddod o hyd i Swydd Ddisgrifiad llawn a Manyleb Person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol neu dilynwch y ddolen "Gwneud cais nawr" ar Trac.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Manyleb y person

Qualifications and / or Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • GPhC registered pharmacist or undertaking pre-registration training where registration must be in place before starting the position
  • Master’s degree (MPharm) or equivalent BPharm or BSc in Pharmacy, and highly developed specialist knowledge
  • Up to date broad clinical knowledge
  • Excellent understanding of pharmacy/medicines standards, legal requirements and guidelines
  • Awareness of implications of current developments in pharmacy practice and NHS Wales strategies/policies
  • Prepared to work towards a Postgraduate Diploma in Clinical Pharmacy or Therapeutics
Meini prawf dymunol
  • Membership of the Royal Pharmaceutical Society, working towards the faculty framework
  • Have knowledge of the differences between primary/secondar y care and NHS England/Wales interface issues

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Completion of pre-registration year, some of which in a hospital or similar environment
  • Experience of working as a clinical pharmacist
Meini prawf dymunol
  • Previous experience in undertaking audit and research

Aptitude & Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Good verbal and written communication skills
  • Ability to manage professionally challenging conversations and situations
  • Able to motivate, negotiate and influence healthcare professionals and patients
  • Able to deal sensitively and confidentially with disturbing personal patient information
  • Able to work as part of a team and able to both take and give direction
  • Self-motivated, proactive and able to act on own initiative
  • Able to work calmly under pressure and deal with conflicting pressures and deadlines
  • Ability to demonstrate safe, effective and efficient use of medicines
  • Ability to support the development of clinical pharmacy services in line with local and national objectives
  • Ability to appraise and interpret information to make an informed recommendation about medication therapy referring to a more senior colleague as necessary
Meini prawf dymunol
  • Ability to speak Welsh
  • Ability to educate, train, supervise and evaluate pharmacy staff and other healthcare professionals

Other

Meini prawf hanfodol
  • The job will require frequent travel across Powys to inpatient, GP and community-based teams and patients. The candidate will need to have the means to travel across the county
  • Ability to participate in an On-Call rota if required
Meini prawf dymunol
  • IT skills including the use of Word, Powerpoint and Excel

Values

Meini prawf hanfodol
  • Can demonstrate PTHB Values

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jayne Price - [email protected]
Teitl y swydd
Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Kathryn Harries 

[email protected]

01874 712641

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg