Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapïau a Gwyddor Iechyd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-AHP030-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I’w gwblhau ar ôl recriwtio
- Tref
- I’w gwblhau ar ôl recriwtio
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Arweinydd Clinigol Deietegydd
Gradd 7
Trosolwg o'r swydd
Byddwch yn cynnig:
· Gwybodaeth fanwl o'r modelau a ddefnyddir mewn gwasanaethau rheoli pwysau a gweledigaeth strategol
. Profiad deietegol clinigol eang a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
· Profiad sylweddol o weithredu modelau a datblygu gwasanaethau
· Dealltwriaeth o ddulliau a ddefnyddir i gefnogi pobl i reoli cyflyrau iechyd hirdymor
· Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol a goruchwylio staff
· Y gallu i ddarparu hyfforddiant a goruchwyliaeth i'r tîm amlddisgyblaethol a myfyrwyr deietegol ehangach
· Brwdfrydedd dros archwilio, ymchwilio a datblygu
. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
· Sgiliau digidol rhagorol gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r ystod lawn o offer Microsoft 365
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rheoli’r gwasanaeth deieteg arbenigol yn weithredol, a’i gyflenwi. Bydd deiliad y swydd yn sicrhau bod y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu o ddydd i ddydd yn canolbwyntio ar y claf, yn effeithiol ac o ansawdd uchel.
Cymryd y rôl arweiniol mewn gwaith hynod arbenigol asesu a thrin defnyddwyr gwasanaeth a allai fod â chyflyrau cymhleth a/ neu gronig, i bennu’r diagnosis clinigol a’r driniaeth therapi y mae hyn yn galw amdani, a chynnal cofnodion fel ymarferydd annibynnol.
Arwain gwaith datblygu parhaus y gwasanaeth arbenigol ym Mhowys trwy gyswllt agos â phartneriaid allanol a rhwydweithiau arbenigol.
Meddu ar sgiliau cyfathrebu hynod effeithiol, a dangos y rhain yn barhaus â chleifion, gofalwyr, cydweithwyr a’r tîm amlddisgyblaeth ehangach.
Cymryd rhan mewn timau integredig cymhleth yn y gymuned, gan fynychu cyfarfodydd priodol.
Gweithio i'n sefydliad
Cysylltwch â Phennaeth Proffesiynol Dieteteg, Penny Doyle, am drafodaeth bellach ([email protected]) neu 07827 234314.
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Experience
Meini prawf hanfodol
- HCPC Registered Dietician
- Recognised qualification degree / equivalent in Dietetics
- Accredited post graduate study relevant to clinical area at Masters level or equivalent
- Knowledge of services that link across the primary/secondary care interface to provide integrated care in the specialism
- Advanced level experience of clinical dietetic skills within the specialism managing complex/non-complex caseloads
Meini prawf dymunol
- Advanced knowledge gained through active membership of specialist clinical / dietetic groups / networks
- Advanced Clinical Practitioner
- Ability to speak Welsh
Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Knowledge of current policies and applications in the clinical area
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Penny Doyle
- Teitl y swydd
- Professional Head of Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07827 234314
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector