Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol Cyhyrysgerbydol
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
070-AHP058-1124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
De Powys - TBC
Tref
Y Trallwng
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/12/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo

Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol Cyhyrysgerbydol

Gradd 7

Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.


Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Ffisiotherapydd Band 7 i ymuno â’r Tîm Ffisiotherapi Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATs) ac Ymarferwyr Cyswllt Cyntaf (FCP) yng Nghanolbarth a De Powys.

Bydd gennych y cyfle i weithio gyda’r Ffisiotherapydd Ymgynghorol Cyhyrysgerbydol, Ffisiotherapyddion Clinigol Arbenigol, Ymgynghorwyr Orthopedig, meddygon teulu a phroffesiynau iechyd eraill sy'n gweithio ar lwybr Gwasanaeth  Cyhyrysgerbydol (MSK) ledled canolbarth a De Powys.  

Fel Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Cyhyrysgerbydol (MSK) ym maes Gofal Sylfaenol a CMATs rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i fod yn rhan o waith trawsnewid MSK ym Mhowys ac sydd am weithio o fewn tîm brwdfrydig sy’n blaenoriaethu darparu asesiad cyhyrysgerbydol o ansawdd uchel ac adsefydlu i drigolion Powys.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio fel ymarferydd annibynnol yn rheoli cleifion ag anghenion cymhleth hynod arbenigol mewn amgylcheddau gofal amrywiol. 

Cydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill e.e. Meddygon Teulu, 
Ymgynghorwyr, Nyrsys a Gweithwyr Proffesiynol eraill Perthynol i Iechyd i ddarparu gofal cyhyrysgerbydol arbenigol sy’n canolbwyntio ar y claf.

Darparu hyfforddiant, addysg, goruchwyliaeth ac arfarniad i staff a myfyrwyr.

Cyfrannu at ddatblygu arfer proffesiynol a thrawsnewid a gwerthuso’r 
gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. 

Cefnogi’r agenda ymchwil ac arloesi trwy gymryd rhan mewn gweithgarwch ymchwil a datblygu.

Arwain agweddau ar werthuso gwasanaeth, gan bwysleisio ar ofal seiliedig ar werth ac archwiliad cymhleth yn eich maes. 

Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth a staff i gyflawni gwell deilliannau iechyd i ddefnyddwyr gwasanaeth a datblygu llwybrau clinigol.

Gweithio i'n sefydliad

Croeso i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys!

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am ddiwallu anghenion iechyd a llesiant pobl Powys yng nghanolbarth Cymru. Fel bwrdd iechyd gwledig gydag oddeutu 133,000 o bobl yn byw ledled ardal sydd chwarter maint Cymru, rydym yn darparu cynifer o wasanaethau â phosibl yn lleol.  Gwneir hyn yn bennaf trwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol.  Gan nad oes gennym Ysbyty Cyffredinol Dosbarth, rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau eraill yng Nghymru a Lloegr i ddarparu gwasanaethau i bobl Powys. Rydym bob tro yn ymdrechu i ddarparu cynifer o wasanaethau â phosibl ym Mhowys gan gynnwys asesiadau a’r camau dilynol ar ôl triniaeth. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Powys a’r sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion y gymuned.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Diploma/ Gradd mewn ffisiotherapi
  • Cofrestriad HCPC
  • Hyfforddiant achrededig uwch ar lefel Meistr neu gyfwerth
  • Cyrsiau/ hyfforddiant arbenigol ol-raddedig achrededig sy’n berthnasol i’r rol
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma ol-raddedig mewn maes perthnasol
  • MSc o fewn arbenigedd perthnasol
  • Cymhwyster rhagnodi anfeddygol
  • Cymhwyster mewn therapi pigiadau
  • Aelod o’r CSP
  • Cymhwysedd fel atgyfeiriwr anfeddygol
  • Cyrsiau/ cymwysterau arweinyddiaeth perthnasol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-raddedig sylweddol sy’n berthnasol i’r arbenigedd
  • Profiad sylweddol o reoli llwyth achosion cymhleth, gan weithio mewn arbenigedd perthnasol
  • Profiad o weithio mewn tim amlasiantaeth o fewn y maes arbenigedd
  • Tystiolaeth o gefnogi gofynion llywodraethu clinigol, gan gynnwys codau ymddygiad
  • Profiad o arwain rhwydweithiau/ grwpiau ymarfer perthnasol
  • Profiad o archwilio a gwerthuso gwasanaeth
  • Profiad o ymchwil
  • Profiad o ddatblygu staff, gan gynnwys addysg
  • Profiad o oruchwylio
  • Profiad o wneud cyflwyniadau i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynllunio a datblygu gwasanaeth ar draws ffiniau proffesiynol
  • Profiad o arwain tim
  • Profiad o addysgu ol-raddedig
  • Rhagnodi annibynnol
  • Therapi pigiadau
  • Gofyn am ddiagnosteg

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arfer clinigol a rhesymu clinigol uwch profedig i lefel arbenigol
  • Meddu ar sgiliau craffter golwg, canfyddiadol a chorfforol hynod ddatblygedig
  • Gallu cynllunio, blaenoriaethu a dirprwyo’ch llwyth gwaith eich hun a llwyth gwaith pobl eraill
  • Gallu gweithio’n effeithio mewn tim ac yn annibynnol
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar, dieiriau ac ysgrifenedig rhagorol a phob rhanddeiliad, gan gynnwys cleifion
  • Meddu ar sgiliau trefnu effeithiol
  • Gallu cynnal gwybodaeth ystadegol a chofnodion clinigol manwl gywir a darllenadwy
  • Yn fedrus mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy
  • Gallu arwain newid
  • Sgiliau rhyngbersonol da
  • Dysgwr hunangyfeiriedig
  • Gallu rhoi hyfforddiant un-i-un, mentora, goruchwylio a hyfforddi
  • Meddu ar sgiliau ysgogi a chysuro
  • Meddu ar sgiliau addysgu a gallu gwneud cyflwyniadau i gynulleidfaoedd mawr
  • Sgiliau technoleg a rheoli gwybodaeth boddhaol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau rheoli ac arwain
  • Sgiliau ymchwil helaeth
  • Gallu siarad Cymraeg
  • Sgiliau technoleg a rheoli gwybodaeth uwch

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Dangos Gwerthoedd BIAP
  • Hyder proffesiynol ac agwedd ddibynadwy tuag at waith
  • Gallu ymdopi dan bwysau ac addasu patrymau gweithio os yw’r sefyllfa yn anrhagweladwy
  • Ymroddedig, brwdfrydig a llawn cymhelliant
  • Gallu canolbwyntio, bod yn wyliadwrus ac yn ymwybodol, bob amser ar lefel uchel, mewn amgylcheddau anrhagweladwy
  • Gallu addasu’n emosiynol a dangos sgiliau empatheiddio a thrafod telerau
  • Yn chwaraewr tim sy’n gallu addasu ac yn gallu ysgogi a pharchu eraill
  • Gallu gosod blaenoriaethau a chyflenwi a gwerthuso deilliannau perfformiad
  • Gallu myfyrio ynglyn a’ch perfformiad eich hun

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Gofyniad NEU barodrwydd i ddilyn hyfforddiant pellach ar lefel meistr i ennill cymhwyster Tystysgrif ol-raddedig
  • Gallu teithio a gweithio ar safleoedd amrywiol, ar sail angen
  • Bod yn barod i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Meini prawf dymunol
  • Aelodaeth o grwpiau diddordeb arbennig priodol
  • Gweledigaeth glir o’r rol ac ymrwymiad i’r arbenigedd

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Employers for CarersApprenticeships logoStop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident committedStep into healthArmed Forces CovenantPride In VeteransCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jennifer Ellis
Teitl y swydd
Service Lead for FCP and CMATs
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07815 557 031
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 

 

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg