Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Lechyd Meddwl
- Gradd
- band 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 070-NMR110-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Bryntirion Resource Centre
- Tref
- Welshpool
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 per annum pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 04/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol
band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol Band 5/6 i ymuno â’n Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Y Trallwyng.
Gellir cynnig y rôl naill ai yn Band 6 Atodiad 21 -I ddechrau ym mand 5 ac ymgymryd â rhaglen hyfforddi am flwyddyn i ennill y cymwyseddau a'r profiad perthnasol i fodloni’r rôl Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol mewn Iechyd Meddwl i Oedolion a'r holl ddyletswyddau, fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad hwn ym mand 6.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gofyn ichi weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaeth a darparu asesiadau, triniaethau a gofal i lwyth achosion o bobl ag anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus o’r gymuned leol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gofal i ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn fframweithiau cyfreithiol Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd Meddwl (1983).
Mae’n rhaid ichi fod yn frwdfrydig a llawn cymhelliant, meddu ar agwedd hyblyg, gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda darparwyr gwasanaeth statudol ac anstatudol.
Mae sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol yn hanfodol i’r rôl hon, yn ogystal â gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ac ymrwymiad i weithio gydag unigolion, gan fabwysiadu dull adfer o weithredu ac ymrwymiad i weithio o fewn model gofal ar sail trawma.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch arbenigedd, gallwn ni gynnig amrywiaeth o heriau gwerth chweil ichi, hyfforddiant a datblygiad parhaus a’r cyfle i weithio mewn tîm cyfeillgar a chefnogol.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualification
Meini prawf hanfodol
- Registered Mental Health Professional and Registered with the relevant Professional Body
- Evidence of continous proffesional develpoment
- Extensive knowledge of mental health issues
- Advanced knowledge of mental health legislation, law, and practice
- Knowledge of research based, and evidence-based interventions
- Advanced knowledge and application of the Care and Treatment plans
- Knowledge of the Mental Health Act 1983 for those parts of the Act that directly affect the Community Psychiatric
- Understanding of clinical governance
Meini prawf dymunol
- WARRN
- CBT qualifications/Psycho-Social Interventions/teahing cqualification
- Evidence of personal development/specialist practitioner award
- Teaching and Assessing qualification
- Psychosocial Interventions qualifications
Experience
Meini prawf hanfodol
- Sound understanding of community and multidisciplinary work.
- Experience of working within a community setting and with Severely Mentally ill clients
- Evidence of supervising and developing junior staff
- Abilty to meet travel requirments for the post
- OR for Annex 21: Willingness and interest in gaining experience working with people who have a mental health disorder in a community setting
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent communication skills
- Multidisciplinary team work
- Advanced care planning and problem solving skills
- Advanced risk assessment skills
- Ability to lead a small team/provide clinical supervision
- Range of assessment skills for community working/able to manage resources
- Good medication management skills including facilitation of medication clinics
- OR for Annex 21: Willingness and interest in developing these abilities and aptitudes within a community team setting
Meini prawf dymunol
- Mentor and assessor skills
- Change management skills
- Motivational skills
- Welsh speaker
- ICT skills
- Skills to promote service user involvement
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Poppy McColl
- Teitl y swydd
- Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01938 558969
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector