Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Meddygol a Deintyddol
- Gradd
- Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - A
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (08:45 - 17:00)
- Cyfeirnod y swydd
- 070-MD011-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ystradgynlais
- Tref
- Ystradgynlais
- Cyflog
- £47,914 - £71,871 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- Today at 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Swyddog Deintyddol
Meddygol a Deintyddol GIG: Deintydd Cyflogedig - A
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gwasanaeth deintyddol cymunedol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn chwilio i recriwtio swyddog deintyddol rhan amser ar gyfer hyd at 2 diwrnod yr wythnos, wedi’i leoli yn y Ystradgynlais. Byddwch yn rhan o wasanaeth deintyddol cymunedol blaengar ac arloesol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau deintyddol sy'n caniatáu i'r gweithiwr llwyddiannus weithio ochr yn ochr â chydweithwyr arbenigol gyda chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ychwanegol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhan sylweddol o'r rôl hon fydd darparu ystod gynhwysfawr o ofal deintyddol GIG ar gyfer oedolion a phlant cymwys ym Mhowys, gan gynnwys cleifion GDS. Bydd yr ymgeisydd hefyd yn darparu cwrs o driniaeth i gleifion nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau deintyddol cyffredinol. Fel rhan o’r tîm ehangach, byddwch hefyd yn cefnogi gweddill y tîm i helpu gwella mynediad a lleihau amseroedd aros o fewn y gwasanaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gallwch ddod o hyd i swydd ddisgrifiad llawn a manyleb y person sydd ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Fel ymarferydd deintyddol cyffredinol cyflogedig, byddwch yn cael absenoldeb astudio, lwfans milltiroedd wrth deithio i glinigau eraill i ffwrdd o'ch canolfan a gwyliau blynyddol hael.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, e-bostiwch Warren Tolley, Cyfarwyddwr Deintyddol Cysylltiol yn [email protected]
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Appropriate graduate qualification or equivalent in Dentistry
- Registration with the GDC as a Dentist
Experience
Meini prawf hanfodol
- Ability and experience to deal with acute dental problems
- Current knowledge of dental surgery techniques, procedures, materials and concepts
- Eligible for a Welsh Performer Number
Meini prawf dymunol
- Experience of NHS GDS regulations
Aptitude and Ability
Meini prawf hanfodol
- Excellent communicator
- Ability to achieve and maintain professional standards
Meini prawf dymunol
- Ability to readily understand and analyse information
- ICT skills
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Heidi Thomas
- Teitl y swydd
- Assistant Dental Director
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615640
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Meddygol a deintyddol neu bob sector