Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Cynllunio a Pherfformio - Swyddfa Rheoli Raglenni
- Gradd
- Band 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 16 mis (Secondiad)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 120-AC021-0724
- Cyflogwr
- Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Tref
- Tonysguboriau
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/625.png)
Rheolwr Prosiect Portffolio
Band 7
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru (GGC) sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae GGC yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriediolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
- Gofalgar
- Parchus
- Atebol
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae GGC yn hynod falch o'r rôl hanfodol mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd modern trwy geisio achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr. Mae GGC yn le anhygoel i weithio a datblygu eich gyrfa ynddo. Mae ein staff gofalgar ac ysgogol yn dylunio, datblygu a chyflwyno gwelliannau trwy gyfrwng menter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i weithio tuag at ei weledigaeth o weithio gyda'n staff a phobl Cymru i gyflwyno gwasanaeth rhoi gwaed a bôn-gelloedd hawdd ei ddefnyddio, diogel a chynaliadwy.
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Ganolfan Arloesi a Gwella (iHub) yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru i gwmpasu cyfnod mamolaeth.
Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect Portffolio uchelgeisiol a phrofiadol a fydd yn gyfrifol am arwain, cynllunio, cydlynu a rheoli portffolio o brosiectau o ddydd i ddydd, gan gefnogi'r sefydliad i gyflawni amcanion a nodau busnes strategol allweddol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni prosiectau ar amser, i gyllideb ac i safonau ansawdd y cytunwyd arnynt sy'n cwrdd ag anghenion y busnes.
Mae'r Ganolfan Arloesi a Gwella (iHub) yn cynnal tri maes: Rheoli Prosiectau a Newid, Cynllunio Cyfalaf a Gwella Gwasanaethau. Mae'r tri maes hyn yn darparu ystod o gymorth a chyngor arbenigol i Wasanaeth Gwaed Cymru gyfan o ran rheoli prosiectau/newid, cynlluniau cyfalaf a gwelliant parhaus. Mae'r tri maes yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i gefnogi mentrau newid busnes-fel-arfer a sefydliadol i sicrhau bod dull a darpariaeth gwaith perthnasol yn bodloni'r gofynion angenrheidiol ac yn lleihau'r tarfu ar ddarparu gwasanaethau.
Mae hon yn swydd cyfnod sefydlog / secondiad am 16 mis i gyflenwi cyfnod mamolaeth
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn darparu rheolaeth prosiect ac arweinyddiaeth i brosiectau busnes a gwella gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys rheoli a chydlynu ymdrechion aelodau'r tîm prosiect a rhanddeiliaid mewnol ac allanol ehangach er mwyn cyflawni'r holl brosiectau yn unol â'r cynllun, gan ddefnyddio methodolegau prosiect arbenigol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais yn yr un modd.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://felindre.gig.cymru/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau
- Profiad sylweddol o gyflawni prosiectau newid cymhleth
- Lefel Meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Ymarferydd Rheoli Newid
- Ymarferydd AGILE a/neu brofiad ohono
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd rheoli prosiect cymhleth
- Profiad rheoli newid llwyddiannus
- Dangos gallu i gydweithio ag amrywiaeth o lefelau sefydliadol i gyflawni nodau'r rhaglen
- Profiad o weithio gyda thimau amlddisgyblaethol ar wahanol lefelau
- Egwyddorion rheoli rhaglenni a gwireddu manteision
- Profiad o fethodolegau gwella gwasanaetha a gwybodaeth gymhwysol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddatblygu achosion busnes / dogfennau strategol
- Profiad o gyfrifoldebau rheoli llinell
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i baratoi a chyflwyno adroddiadau i dimau rheoli ar statws prosiect
- Sgiliau arwain ac adeiladu tîm
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Y gallu i ddangos neu ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o ddeinameg systemau iechyd a gofal cymdeithasol
- Y gallu i ddatblygu perthnasoedd amlddisgyblaethol cryf
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Huw Lovett
- Teitl y swydd
- Interim Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01443 622071
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector