Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Cyswllt
Gradd 4
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn falch dros ben o’r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru gyfan yn ein Canolfan Ganser Felindre flaengar a’n Gwasanaeth Gwaed Cymru arobryn, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy’n dod â’r ddwy isadran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus iawn i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Fel isadran o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru (GGC) yn le anhygoel i weithio ynddo a datblygu eich gyrfa. Mae ein staff gofalgar a brwdfrydig yn dylunio, yn datblygu ac yn cyflawni gwelliannau trwy fenter Cadwyn Gyflenwi 2020 (BSC2020), a fydd yn galluogi GGC i anelu at ei weledigaeth o weithio gyda’n staff a phobl Cymru i ddarparu gwasanaeth diogel, hawdd ei ddefnyddio a chynaliadwy ar gyfer rhoi gwaed a bôn-gelloedd.
Fel darparwr gofal iechyd dibynadwy, rydym yn gweithio'n galed dros ben i gynnal y safonau uchaf o ran ansawdd, diogelwch a phrofiad rhoddwyr.
Ar hyn o bryd, rydym yn cychwyn ar strategaeth 5 mlynedd uchelgeisiol o’r enw “WBS Futures”, lle rydym wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau yng Nghymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’n nodi ein sefyllfa ar hyn o bryd, lle’r ydym eisiau bod yn 2028, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd yno.
Gallwch ddarllen mwy am ein strategaeth yma: www.welsh-blood.org.uk/welsh-blood-service-strategy-2023-2028
Mae GGC yn gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig.
Cymerwch olwg ar ein gwaith. Gallwch weld ein tudalennau gyrfa pwrpasol yn https://welsh-blood.org.uk/careers/
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â recriwtio trwy’r cyfrif e-bost sydd wedi’i gofrestru ar y ffurflen gais.
Trosolwg o'r swydd
Dyma swydd sy'n cynnig cyfle cyffrous i ymgeiswyr llwyddiannus weithio i Wasanaeth Gwaed Cymru yn yr adran Uned Dal Stoc (SHU) yn ein Safle yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn Nhŷ Penfro, Wrecsam fel Ymarferydd Cyswllt rhan-amser fel aelod o'r staff Dosbarthu.
Mae'r Uned Dal Stoc yn cefnogi ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy ddarparu cynhyrchion gwaed a gwaed ar sail 24/7, a bydd deiliad y swydd yn cynrychioli Gwasanaeth Gwaed Cymru a'n gwerthoedd wrth ymdrin â'n hysbytai fel cwsmeriaid. Rydym yn chwilio am rywun sydd ag o leiaf cymhwyster HNC/HND mewn disgyblaeth gwyddoniaeth berthnasol neu sgiliau trosglwyddadwy cyfatebol sy'n hyderus mewn amgylchedd labordy, ond darperir hyfforddiant llawn.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio patrymau shifft amrywiol yn ôl gofynion y gwasanaeth. Bydd shifftiau arferol fel arfer yn digwydd rhwng 08:30-16:00 a 16:00-23:30, gyda gofyniad i gymryd rhan mewn rota ar alwad 24/7 tua unwaith yr wythnos, yn cymryd galwadau brys gan ysbytai a mynychu'r safle i ddosbarthu archebion ychwanegol brys dros nos, penwythnosau a gwyliau banc. Er mwyn gallu cefnogi'r agwedd ar alwad o’r rôl yn addas, mae'n angenrheidiol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu mynychu'r safle o fewn 30 munud. Mae trwydded yrru lawn y DU yn ofynnol i gynnwys hawlogaeth categori B (Car).
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn cyflawni amrywiaeth o dasgau technegol arferol ac arbenigol a fydd yn cynnwys dewis a dosbarthu gwaed, cydrannau gwaed a chynhyrchion masnachol, cynnal a chadw logisteg cadwyn oer a dyletswyddau cyflenwi achlysurol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar lefel i sicrhau bod yr holl brosesau'n bodloni gofynion Canllawiau'r DU ar gyfer Trallwyso Gwaed, a Chyfarwyddeb gan yr UE fel y'i harolygir gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Bydd y rôl werth chweil hon yn addas i unigolion brwdfrydig, sydd â chymhelliant da gyda llygad am fanylion, sy'n gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â fel rhan o dîm bach croesawgar.
Maer'r swydd hon am gyfnod penodol / secondiad am 14 mis. Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol a ddarparwn ledled Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac ein Gwasanaeth Gwaed Cymru gwobrwyedig. Yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym hefyd yn ffodus i gynnal Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Wedi'i sefydlu ym 1999, mae gan yr Ymddiriedolaeth weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd sy'n seiliedig ar Werth drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn; atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych am weithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yn unol â'r swydd ddisgrifiad - gweler y ddogfen ynghlwm am restr lawn o'r holl fanylion. Cysylltwch â Stephen Pearce am unrhyw eglurhad.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais
Manyleb y person
Medrau
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda rhaglenni TG
- Y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun
- Meddu ar gymwysterau hanfodol (neu brofiad cyfatebol)
Meini prawf dymunol
- Meddu ar y cymwysterau dymunol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o fod wedi gweithio mewn labordy neu mewn amgylchedd gweithgynhyrchu
- Profiad Goruchwylio
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda rhaglenni TG
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Justyna Zielska-Mikitia
- Teitl y swydd
- SHU Supervisor
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 859397
Rhestr swyddi gyda Gwasanaeth Gwaed Cumru Gyfan yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector