Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Androleg
- Gradd
- Band 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun i Dydd Gwener 8yb - 4yp)
- Cyfeirnod y swydd
- 130-ACS033-0325
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru Ysbyty Athrofaol Cymru
- Tref
- Caerdydd
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 10/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Technolegydd Atgenhedlol
Band 4
Croeso i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n rhannu ein gwerthoedd: gofalu am ein gilydd, cydweithio a gwella drwy’r amser.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon ar ôl 24 os na dderbynnir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym felly’n hybu ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth ar y swydd hon.
Bydd staff sy’n bresennol yn aros am adleoliad yn cael eu hystyried yn gyntaf ac felly rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Technolegydd Atgenhedlol yn cyfranogi at ddarpariaeth gwasanaethau’r Labordy Androleg Diagnostig, o dan arweiniant y Prif Androlegydd, gan ddilyn yr holl godau ymddygiad proffesiynol perthnasol. Mae’r Technolegydd Ategenhedlol yn cynnal cofnodion llawn a chywir yn unol â phrif ddeddfwriaeth, yn ogystal â chyfranogi at ddadansoddiad data ac archwiliad.
Mi fydd yn ddisgwyliedig i ddeiliaid y swydd arddangos, fel mater o arfer, barn glinigol ar amrywiaeth o ffeithiau neu sefyllfaoedd clinigol, a dadansoddiad a chymhariaeth/ddetholiad o’r opsiynau priodol sydd ar gael. Ar wahân i ddarpariaeth hyfforddiant ffurfiol, mi fydd goruchwyliaeth glinigol a mentora yn gyraeddadwy trwy gydol amserlen arferol y diwrnod gwaith.
Mi fydd hefyd yn ddisgwyliedig i ddeiliaid y swydd ddefnyddio sgiliau gwyddonol a dadansoddol i gefnogi archwiliad a gweithgareddau datblygol o fewn y gwasanaeth.
Mi fydd y deiliaid y swydd yn gweithio o fewn protocolau lleol a chenedlaethol a gweithio’n agos gyda staff cymwysedig ac aelodau uwch o staff
Prif ddyletswyddau'r swydd
Dadansoddiad Diagnostig Semen / Dadansoddiad Ar ôl-fasectomi
Rheoli Ansawdd / Sicrwydd Ansawdd Labordy.
Paratoad adroddiadau.
Archwiliad.
I gyfranogi at redeg effeithlon y labordy.
Gweithio i'n sefydliad
Credwn mai staff yw ein hased gorau ac rydym am ichi fod yn hapus ac yn hyderus ynglŷn â dechrau eich gyrfa yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Fel un o'r grwpiau gofal iechyd mwyaf yn y DU, gallwn gynnig cyfoeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol mewn sefydliad arloesol, blaengar.
Efallai eich bod yn nyrs neu'n feddyg, efallai eich bod yn arbenigo mewn gwyddor iechyd / therapi neu'n gallu cynnig sgiliau yn un o'n gwasanaethau cymorth - mae gennym swydd i chi.
Mae yna hefyd brentisiaethau, lleoliadau gwaith a rolau gwirfoddoli ar gael.
Rydym yn gyflogwr cynhwysol ac yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u rhyw; crefydd neu gred; ras; oed; cyfeiriadedd rhywiol; hunaniaeth rhyw neu, p'un a ydynt yn feichiog neu wedi bod ar gyfnod mamolaeth yn ddiweddar, yn briod neu mewn partneriaeth sifil; neu, os ydyn nhw'n anabl.
Mae ein gwerthoedd – Gofalu am ein gilydd, Cydweithio a Yn gwella bob amser, yn dangos bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn.
Os ydych chi eisiau cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant rhagorol wrth fyw ar stepen drws rhai o olygfeydd mwyaf ysblennydd Ewrop, gyda holl fanteision dinas sy'n ffynnu a chosmopolitaidd - edrychwch ymhellach.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- BSc mewn pwnc gwyddonol priodol
Meini prawf dymunol
- BSc yn y Gwyddorau Biofeddygol
Experience
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn labordy
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn labordy androle
- Profiad o weithio mewn labordy'r GIG
Knowledge
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth weithredol o ddadansoddiad diagnostig semen
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Evans
- Teitl y swydd
- Andrology Laboratory Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921843558
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector