Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Dialysis arennol
Gradd
Gradd 5
Contract
Cyfnod Penodol: 8 mis (Cyfnod Mamolaeth hyd at 31 Ionawr 2026)
Oriau
Rhan-amser - 24 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-NMR250-0425
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Uned Ddialysis y Trallwng, Ysbyty Goffa Victoria
Tref
y Trallwng
Cyflog
£30,420 - £37,030 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
23/04/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Gofrestredig Hameodialysis

Gradd 5

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

 

 Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AIL AM 8 MIS HYD AT 31 AIN IONAWR 2026 AR GYFER CYFNOD MAMOLAETH. 

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.

Mae Uned Arennol Satellite Y Trallwng yn adran amrywiol, yn gofalu am gleifion â Methiant yr Arennau o adeg cyn-dialysis, i ddialysis cynhaliol, dulliau rheoli cadwrol, gofal diwedd oes a chefnogi cleifion yn ystod eu trawsblaniad. Mae'r adran hefyd yn rhoi cymorth i gleifion sy'n datblygu methiant llym yr arennau. Mae rôl y nyrs staff yn yr adran yn amrywiol a chewch y cyfle i ofalu am gleifion sy'n cael dialysis mewn tri phrif leoliad, ar yr uned ddialysis, ar ein ward arennol ac yn y lleoliad gofal critigol.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu dialysis i 24 o gleifion haemodialysis, bydd yr adran yn symud i wasanaeth 6 diwrnod i ddarparu lle ar agor o ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 06:30 tan 18:30 a bore Mawrth, dydd Iau a Sadwrn, bydd gofyn i chi gefnogi'r gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn. Bydd disgwyl i chi ofalu am y cleifion tra'n cael haemodialysis ac yn cefnogi gofal cyfannol y cleifion, byddwch hefyd yn cefnogi'r cyfarfod tîm amlddisgyblaethol ac yn gyfrifol am ofal hirdymor grŵp o gleifion.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r ymagwedd tuag at ofalu am gleifion sy'n cael dialysis yn wirioneddol amlddisgyblaethol, byddwch yn gweithio'n agos gyda meddygon, nyrsys arbenigol, deietegwyr, gweithiwr cymdeithasol, seicolegydd a'r adran fferyllol i ddarparu gofal parhaus o ansawdd uchel ar gyfer cleifion yn yr adran.

Ae deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio wedi'i seilio ar dystiolaeth, gan gydweithio ag eraill er mwyn bodloni anghenion cleifion haemodialysis â'u teuluoedd.

Bydd deilydd swydd yn cynorthwyo i reoli a threfnu ei faes clinigol a chymryd rhan yn addysg, aelodau eraill o staff, eu datblygiad a’u goruchwyliaeth.

Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd ddatblygu gwybodaeth a sgiliau mewn nyrsio arennol drwy weithio â nyrsys arbenigol arennol, a nyrsys ward arennol eraill.

DYLETSWYDDAU / CYFRIFOLDEBAU:

Mae dyletswyddau a chyfrifoldebau wedi cael eu dosbarthu fel a ganlyn:

  • Arfer Clinigol
  • Llywodraethu Clinigol
  • Rheoli ac Arwain
  • Addysg a Datblygiad
  • Datblygiad Proffesiynol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

CYMWYSTERAU A/NEU WYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Wedi cofrestru â’r NMC.
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ar ôl cofrestru e.e. POVA.
  • Cymhwyster sy'n gysylltiedig ag arennol.

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth cyn cofrestru mewn gofal nyrsio uniongyrchol.
  • Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd.
  • Diddordeb mewn datblygu sgiliau nyrsio sy'n gysylltiedig ag arennol.
Meini prawf dymunol
  • Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol.
  • Gallu i weithredu arfer yn seiliedig ar dystiolaeth.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Cerys Lewis
Teitl y swydd
Senior Renal Sister
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859729
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg