Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwyddorau Gwaed
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 33.75 awr yr wythnos (I gynnwys gorchudd penwythnosau a gorchudd shifft hwyr i fynu at 8pm, diwrnodau craidd hyd at 5.30 pm)
Cyfeirnod y swydd
050-ACS465-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£22,720 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cynorthwyydd Labordy Meddygol

Gradd 2

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Fel gweithiwr cymorth labordy mewn Gwyddorau Gwaed mae deiliad y swydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gwyddonwyr cymwysedig ar gyfer y tasgau dirprwyedig sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth labordy meddygol addas i'r diben, 24/7 sy'n dadansoddi ac yn adrodd ar waed, wrin, ysgarthion a deunyddiau eraill y corff i gyflawni amcanion gofal cleifion effeithlon ac effeithiol, a rheoli adnoddau'n effeithiol yn yr ysbyty

Prif ddyletswyddau'r swydd

Uwch Gymhorthwyr Gwyddorau Gofal Iechyd Gradd 2, Gwyddorau Gwaed, Ysbyty Wrexham Maelor,  Fel rhan o'n moderneiddiad parhaus i'r gwasanaeth, mae'r Adran Gwyddorau Gwaed yn Ysbyty Glan Clwyd, Rhuddlan . ( 33.75 Arw)


Mae hon yn swydd allweddol yn y sefydliad, i ategu at arbenigedd Gwyddonwyr a Chymhorthwyr Gwyddorau profiadol eraill, a byddwch yn rhan o wasanaeth diagnosis prysur.


A dangos y gallu i ddysgu a datblygu a'r gallu i ddarparu gwasanaeth ardderchog er budd y gymuned rydym yn ei gwasanaethu; bydd angen bod yn ymroddedig i sicrhau bod ein cleifion wrth wraidd popeth a wnawn.
Bydd gennych sgiliau gwaith tîm cryf, ac yn gallu arddangos y gwerthoedd sy'n bwysig i ni, cyfathrebu'n dda; gweithio i gefnogi cydweithwyr; canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd a thrin eraill â pharch ac urddas.


Credwn mewn atebolrwydd, ond credwn hefyd mewn cyd-gyfrifoldeb – felly byddwch yn cael digon o gefnogaeth gan eich cyfoedion.
Byddwch hefyd yn mwynhau bod yn rhan o dîm agos, cymdeithasol, gyda rhaglen preceptoriaeth a’r holl gefnogaeth a hyfforddiant byddwch ei angen i symud eich sgiliau ymlaen.


Gellwch newid ansawdd eich bywyd hefyd. Dychmygwch fyw mewn ardal lle bydd eraill yn mwynhau eu gwyliau, mae rhywbeth i bawb yng ngogledd Cymru

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol dd (TGAU) Tystiolaeth o rifedd a llythrennedd
  • Sgiliau bysellfwrdd da Medrusrwydd a llaw Sgiliau Cyfathrebu da
  • Gallu gweithio fel aelod o dim. Dibynadwy Rhifog Brwdfrydig Gallu gweithio ar ei liwt ei hun
  • Parodrwydd i weithio oriau Hyblyg.
Meini prawf dymunol
  • Addysg gyffredinol dd (TGAU)
  • Profiad blaenorol o weithio mewn labordy
  • Siaradwr Cymraeg Cyfweliad

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o amgylchedd Gwaith prysur
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac addasu i newid mewn dyletswyddau.
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn labordy

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lisa Jones
Teitl y swydd
BCU Pathology Reception Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01745 448790
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg