Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Tîm y Fron
Gradd
Gradd 4
Contract
Cyfnod Penodol: 11 mis (Gellir cynnig y swydd hon fel Secondiad i Ymgeiswyr Mewnol gyda Chymeradwyaeth Rheolwr cyfredol.)
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Dydd Llun- Gwener)
Cyfeirnod y swydd
050-AC432-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tŷ Derbyn, Ysbyty Wrecsam Maelor
Tref
Wrecsam
Cyflog
£25,524 - £28,010 pro rata y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
10/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Ysgrifennydd Meddygol - arweinydd gweinyddol

Gradd 4

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Adran y Fron yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ar gyfer Uwch Ysgrifennydd Meddygol / Arweinydd Gweinyddol. Mae'r swydd hon yn Gyfnod Penodol tan 31 Mai 2025.

Bydd ddeiliad y swydd profiad Ysgrifennydd Meddygol blaenorol, sgiliau rheoli amser rhagorol, bod yn drefnus a'r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith i gwrdd â therfynau amser caeth, tra'n gynhyrchu gwaith i’r safonau uchaf.

ydd deiliad y swydd yn sicrhau bod gwasanaeth ysgrifenyddol a gweinyddol meddygol cynhwysfawr o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i'r meddyg ymgynghorydd, meddyg a'r tîm meddygol cynradd a thimau nyrsio arbenigol, a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am arwain, goruchwylio a chyfarwyddo'r tîm gweinyddol sy'n delio â materion priodol o ddydd i ddydd i oruchwylio rhediad esmwyth yr adran a darparu cefnogaeth i'r rheolwr llinell.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rhaid i ddeiliad y swydd hefyd fod â'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan ddefnyddio disgresiwn, crebwyll a menter. Mae sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn hanfodol, ynghyd â llygad craff am fanylion, gyda'r gallu i brosesu a chynhyrchu gohebiaeth frys ac arferol. Rhaid i'r Ymgeiswyr allu cynnal cyfrinachedd cleifion, a sicrhau safon uchel o ofal cwsmer bob amser. Mae'n hanfodol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus agwedd hyblyg at waith, i gwrdd â gofynion y gwasanaeth. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon, mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes neu brofiad cyfwerth. Neu City & Guilds (AMSPAR) Diploma Lefel 3 mewn gweinyddiaeth feddygol neu brofiad cyfwerth fel ysgrifennydd meddygol
  • Lefel 3 RSA /OCR neu brofiad cyfwerth
  • ECDL neu brofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster rheoli neu'n gweithio tuag ato
  • NVQ 3 Gwasanaeth Cwsmeriaid

PROFIAD

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gydlynu gweithgareddau gweinyddol.
  • Profiad o weithio fel ysgrifennydd meddygol
  • Profiad o drefnu llwyth gwaith a phobl
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol yn y GIG

SGILIAU

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
  • Sgiliau teipio uwch
  • Gweithio heb oruchwyliaeth
  • Sgiliau ardderchog o ran gwasanaeth cwsmeriaid
  • Sgiliau trefnu ardderchog
  • Blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
  • Profiad o gymryd cofnodion

GWYBODAETH

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Gwybodaeth a'r gallu i ddefnyddio cymwysiadau Microsoft Office
Meini prawf dymunol
  • Hunanwasanaeth ESR (neu brofiad cyfwerth o'i ddefnyddio)
  • Gwybodaeth am broses Cyfeirio at Driniaeth (RTT)

RHINWEDDAU PERSONOL

Meini prawf hanfodol
  • Gwerthoedd da o ran gweithio mewn tîm.
  • Brwdfrydedd ac ymrwymiad
  • Yn rhagweithiol ac ag agwedd gadarnhaol.
  • Bod yn arloesol er mwyn ateb heriau sefydliad sy'n newid.
  • Ymagwedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

OTHER RELEVANT REQUIREMENTS

Meini prawf hanfodol
  • Teithio rhwng safleoedd os bydd angen ac os bydd yn berthnasol i alwadau'r swydd
Meini prawf dymunol
  • Yn siarad Cymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
June John
Teitl y swydd
Patient Pathway Co-Ordinator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 857913
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Cydlynydd Llwybr Cleifion   Ashleigh Gibney 03000 858593

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg