Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Rhiwmatoleg
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 19 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-AC345-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrecsam
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
08/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ysgrifennydd Meddygol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae swydd gyffrous wedi codi fel ysgrifennydd meddygol cynorthwyol i ymuno â'r Adran Gardioleg o fewn y Gyfarwyddiaeth Feddygol. Bydd yr ymgeisydd yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol. Y rôl fydd darparu ystod gynhwysfawr o ddyletswyddau ysgrifenyddol a gweinyddol i'r Ymgynghorwyr a'u timau cysylltiedig.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn aelod allweddol o'r tîm ysgrifenyddion meddygol yn darparu gwasanaeth gweinyddol cywir a chyfrinachol i'r Arbenigedd Clinigol a'i ffrydiau gwaith cysylltiedig. Bydd deilydd y swydd yn cefnogi meddygon ymgynghorol, staff meddygol iau a gweithwyr proffesiynol iechyd eraill i greu arferion a phrosesau gorau, cefnogi rheoli dyddiaduron, baich gwaith a chydlynu apwyntiadau a derbyniadau'n ymwneud â gwybodaeth i gleifion a gofalwyr. 

Bydd gan ddeilydd y swydd sgiliau teipio da a chywir a bydd yn sicrhau bod yr arbenigedd yn cadw system effeithiol i ffeilio a chofnodi gwybodaeth. Bydd yn cynllunio a threfnu ei amser ei hun, gan addasu apwyntiadau clinig i gleifion a sicrhau bod nodiadau'n barod ar gyfer clinigau fel bo angen. 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ Gweinyddu Busnes L3 neu brofiad cyfatebol
  • RSA /OCR lefel 2 neu brofiad cyfatebol (rhaid gallu defnyddio Microsoft Word)
Meini prawf dymunol
  • AMSPAR – City & Guilds L3
  • NVQ L3 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth o ystod o weithdrefnau gweinyddu
  • Profiad o weithio mewn swyddfa brysur
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio o fewn y GIG

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol â staff ar bob lefel, yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • Gallu defnyddio Microsoft Office
  • Profiadol mewn cynllunio a blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cymryd cofnodion

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Cyfrannu mewn tîm
  • Datblygu eich arferion eich hun drwy fyfyrio a dysgu

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Sian Cooper-Roberts
Teitl y swydd
Site Speciality Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 858395
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

01745 448740 x7070

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg