Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cymuned
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-ACS629-0924
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Tîm Cymunedol ac Adnoddau
Tref
Wrecsam
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
03/10/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd - Tîm Adnoddau Cymunedol

Gradd 3

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

 

Mae cyfle cyffrous wedi codi i recriwtio Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Generig Band 3 o fewn y Tîm Adnoddau Cymunedol amlddisgyblaethol yn Wrecsam.    Ethos y Tîm Cymunedol ac Adnoddau yw canolbwyntio ar gynorthwyo cleifion adref yn gynharach o'r ysbyty gyda phecyn gofal unigol i ddiwallu eu hanghenion.

Mae'r oriau gwaith yn amrywiol, gan gwmpasu rhwng 8am a 10pm a byddant yn cynnwys gweithio ar benwythnosau a Gwyliau Banc. Mae ardal ddaearyddol hyn gynnwys Sir y Fflint i gefnogi angenhenion y gwasanaeth.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag etheg waith gref i ddarparu gofal o safon ragorol gyda'r gwerthoedd cywir ar gyfer y rôl hon. Cefnogir ymsefydlu llawn i'r swydd ac mae cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa a'r cyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol fel venepuncture a chofnodi arsylwadau clinigol cleifion yn dilyn hyfforddiant a chymwyseddau. 

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd rôl y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Generig yn cynnwys cynorthwyo cleifion sydd angen gofal a chefnogaeth i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gyda gweithgareddau bywyd bob dydd fel golchi a gwisgo, paratoi prydau bwyd ac annog rhoi meddyginiaeth. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r tîm amlddisgyblaethol deinamig ac asiantaethau allanol i ddiwallu anghenion unigolion.

Bydd deilydd y swydd yn gweithio fel rhan o dîm Gofal Iechyd Cymunedol Amlddisgyblaethol Integredig. Bydd yn gyfrifol am wneud gwaith dynodedig, bydd llawer o hwn yn ofal cleifion uniongyrchol. Bydd y gofal hwn yn cael ei ddirprwyo gan staff hyfforddedig a bydd disgwyl i ddeilydd y swydd weithio dan oruchwyliaeth anuniongyrchol staff hyfforddedig. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Addysg gyffredinol dda
  • Fframwaith Credyd Cymhwyster Lefel III (mewn Gofal / Iechyd a Gofal Cymdeithasol) neu weithio tuag at
Meini prawf dymunol
  • Hylendid Bwyd (sylfaenol)
  • Tystiolaeth o QCF ar Lefel 2

- Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad sylweddol o weithio mewn amgylchedd gofalgar
  • Rôl flaenorol / gyfredol i ddangos gweithio gydag aelodau'r cyhoedd mewn lleoliad gofal iechyd
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn lleoliad gofal
  • Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i gadw cofnodion cywir clir
  • Y gallu i weithredu o fewn hinsawdd newid sefydliadol
  • Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu effeithiol
  • Y gallu i weithio'n annibynnol, ond yn rhan o dîm
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau TG e.e ECDL
  • Hyfforddiant Phlebotomy

Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bod â dealltwriaeth o weithio aml-asiantaeth a rolau tîm unigol
  • Gwybodaeth am ganiatâd a chyfrinachedd cleifion
Meini prawf dymunol
  • Bod â dealltwriaeth o rôl a swyddogaeth Gwasanaethau Iechyd / Gwasanaethau cymdeithasol
  • Dealltwriaeth o faterion rheoli risg ac iechyd a diogelwch
  • Gallu meddyliol / vulnerable adult procedures

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Rebecca Handley
Teitl y swydd
Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 859610
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg