Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Nyrsio Mewn Practis Cyffredinol
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
MAE'R SWYDD HON YN GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS I CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng Ngogledd Cymru yn sefydliad deinamig sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am reoli nifer o bractisau meddygon teulu yn uniongyrchol ac mae’n datblygu’r practisau hyn i fod yn esiamplau o safon aur, gan greu gwasanaethau sy’n gallu diwallu anghenion y boblogaeth leol yn well, yn haws eu cyrchu a’u llywio, ac sy’n lle gwerth chweil a boddhaol i weithio. Mae’r Bwrdd Iechyd yn chwilio am Ymarferydd Nyrsio sy’n credu mewn gweledigaeth ar gyfer gofal clinigol o ansawdd uchel a thosturi o fewn Gofal Sylfaenol, ac sydd am gymryd rhan mewn cyflawni hyn yng Nghanolfan Iechyd Pen y Maes, Wrecsam. Mae gan y Practis dîm estynedig sy'n cynnwys Meddyg Teulu Arweiniol Clinigol, meddygon teulu locwm, Uwch Ymarferwyr Nyrsio, Nyrsys Practis, Cynorthwywyr Gofal Iechyd, Fferyllwyr Practis, a Thechnegwyr Fferylliaeth. Rydym yn chwilio am Ymarferydd Nyrsio gyda phrofiad mewn Gofal Sylfaenol ac yn delio â Rheoli Clefydau Cronig. Bydd ymgeiswyr yn Nyrs lefel gyntaf gofrestredig gyda thystiolaeth o astudio ar lefel MSc.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni’r holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau arferol sy’n gysylltiedig ag Ymarferydd Nyrsio sy’n gweithio o fewn Gofal Cychwynnol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
· Datblygu a darparu gofal cleifion o safon uchel mewn meddygfeydd gofal cychwynnol
· Datblygu cyfleoedd ar gyfer ymarfer sy'n ehangu sgôp nyrsio traddodiadol
· Hyfforddi a chefnogi nyrsys, cleifion a thîm amlddisgyblaethol y practis i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, yn seiliedig ar dystiolaeth
· Asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso triniaeth/ ymyriadau a gofal i gleifion sydd â diagnosis heb wahaniaeth
· Asesu ac archwilio anghenion cleifion yn glinigol o safbwynt ffisiolegol a seicolegol a chynllunio gofal clinigol yn unol â hynny
· Asesu, gwneud diagnosis, cynllunio, gweithredu a gwerthuso triniaeth/ ymyriadau a gofal i gleifion ag anghenion cymhleth
· Dynodi, gwneud diagnosis a rheoli cynlluniau triniaeth yn rhagweithiol i gleifion sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr hir dymor (fel bo'n briodol)
· Dangos trwy weithredu o ddydd i ddydd agwedd gyfoes tuag at Ofal Cychwynnol sy'n canolbwyntio ar y claf, yn ddarbodus ac yn galluogi tîm.
Bydd y rôl hon yn gofyn am hyblygrwydd i fodloni gofynion y practis a bydd cynllun gwaith unigol yn cael ei gytuno ymlaen llaw gyda’r ymgeisydd llwyddiannus.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhwch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Manyleb y person
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Arfer clinigol uwch
- Rheoli cleifion â chyflyrau Tymor Hir
- Rheoli cleifion ag anghenion cymhleth
- Cwrs archwiliad clinigol
- Atebolrwydd am eich rôl ei hun a rolau eraill o fewn gwasanaeth o dan arweiniad nyrsys
- Polisi iechyd cenedlaethol a lleol economi iechyd ehangach
- Gwybodaeth am faterion rheolaeth
- glinigol o fewn gofal cychwynnol
- Gwybodaeth am gyfarwyddiadau grŵp cleifion a pholisi cysylltiol
Gwybodaeth & Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am faterion iechyd y cyhoedd
- Gwybodaeth am faterion iechyd y cyhoedd
- Gwybodaeth am faterion iechyd cyhoeddus yn yr ardal
Meini prawf dymunol
- Rheoli project
- Gweithio a mentrau datblygu cymuned
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs lefel gyntaf gofrestredig
- Tystiolaeth o astudio ar lefel MSc
- Gradd nyrsio/iechyd berthnasol
- Nyrs ragnodydd estynedig / annibynnol
Meini prawf dymunol
- cymhwyster arbenigol nyrsio cymunedol
- Cymhwyster mentor/addysgu
- Hyfforddiant a phrofiad goruchwyliaeth glinigol
- Y gallu i siarad Cymraeg
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd hynangyfeiriol
- cyfrannau mewn tim
- Gallu gweithio ar draws ffiniau
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Miv Smith
- Teitl y swydd
- Practice Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 367921
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Paula Smith
Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Meddygfeydd a Reolir
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector