Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Iechyd Meddwl
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos i gynnwys penwythnosau)
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR019-0824-B
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£37,338 - £44,962 y flyddwyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
28/11/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Uwch Nyrs - Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - CEM Berwyn

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer ymarferydd profiadol, llawn cymhelliant a blaengar i ddarparu gofal arbenigol yn y maes camddefnyddio sylweddau o fewn yr amgylchedd carchar, gan weithio fel rhan o wasanaeth iechyd amlddisgyblaethol integredig.

Bydd disgwyl i chi ddarparu ystod o ymyriadau arbenigol ar lefel gofal sylfaenol, a hynny i gynnwys rheoli cyfeiriadau, cynnal asesiadau sgrinio, yn ogystal ag ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddarparu sesiynau ar sail un i un a sesiynau sydd wedi'u hwyluso mewn grŵp tra’n rheoli llwyth achos cymysg a chymhleth.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd dyletswyddau’n cynnwys cynnal asesiadau, sgrinio ac ymyriadau cadarn i droseddwyr sydd â phryderon ynghylch camddefnyddio sylweddau a sicrhau bod yr holl amseroedd aros, asesiadau ac ymyriadau yn cael eu darparu’n brydlon, yn unol â Mesur Iechyd Meddwl Cymru.

Fel cydlynydd gofal penodol, bydd angen i chi fod yn rhagweithiol, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at ymyriadau clinigol, gweithgareddau hybu iechyd a rheoli cyflyrau acíwt a hirdymor gan ddefnyddio dull gofal fesul cam.

Byddwch yn sicrhau gweithio integredig a chydweithredol gyda gwasanaethau arbenigol eraill, gan gynnwys gofal parhaus, gan gysylltu â thimau iechyd meddwl cymunedol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n briodol. Yn ogystal, byddwch yn darparu adroddiadau cynhwysfawr ac amserol ac arbenigedd iechyd meddwl i baneli Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA), yr heddlu, gwasanaethau prawf, cyfreithwyr a thimau cyswllt llys yn ôl y cyfarwyddyd.

Gweithio i'n sefydliad

Rydym yn dymuno penodi ymarferwyr deinamig a brwdfrydig sydd â diddordeb gwirioneddol mewn iechyd meddwl fforensig a chamddefnyddio sylweddau ac er bod profiad mewn lleoliad fforensig yn ddymunol, nid yw’n hanfodol.

Ein nod yw recriwtio staff sydd â chred gref mewn adferiad ac sy’n gyfforddus yn gweithio’n agos gyda charcharorion fforensig. Bydd y math hwn o leoliad yn darparu heriau ac mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth dda o ofalu am gleifion sydd â chefndiroedd iechyd meddwl acíwt. Byddwch yn agos-atoch, yn egnïol ac yn wydn. Byddwch yn ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cleifion o dan ein gofal gan hefyd gefnogi eich datblygiad proffesiynol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ddatblygu eu sgiliau o fewn y maes iechyd troseddwyr a bydd yn gweithio’n agos o fewn tîm amlddisgyblaethol i wella ymarfer a phrofiad cyffredinol y defnyddwyr gwasanaeth.

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn unol â'r disgrifiad swydd/manyleb y person atodedig

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mikaila Letford
Teitl y swydd
Co-Occurring Integrated Team Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523769
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg