Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Nyrsio
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (37.5 awr yr wythnos yn cwmpasu gwasanaeth 7 diwrnod i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc)
Cyfeirnod y swydd
050-HMP-NMR001-0125-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
CEM Berwyn
Tref
Wrecsam
Cyflog
£37,898 - £45,637 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Nyrs Camddefnyddio Sylweddau - CEM Berwyn

Gradd 6

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Fel nyrs camddefnyddio sylweddau, byddwch yn rheoli llwyth achosion clinigol o ddynion sy'n camddefnyddio sylwadau, gan sicrhau y darperir ymyriadau priodol (asesiadau a thriniaethau) ac y cytunir ar nodau CAMPUS.

Byddwch yn:

·       Cynllunio, cyflawni a gwerthuso ymyriadau a/neu driniaethau pan fydd anawsterau cymhleth a/neu salwch difrifol. Trafod cynllun y driniaeth a'r anghenion cysylltiedig â defnyddiwr y gwasanaeth a'r tîm ehangach a byddwch yn deall eich rôl eich hun o ran cyflawni'r ymyriadau a/neu'r triniaethau yn y cynllun.

·         Nodi unrhyw ragofalon penodol neu unrhyw gyngor sy'n nodi na ddylid ymgymryd â'r ymyriadau/triniaethau arfaethedig ac yn gweithredu'n briodol.

·         Cynorthwyo a monitro cleifion trwy gydol eu triniaeth, a hysbysu'r rheolwr llinell yn ddi-oed pan fydd newidiadau annisgwyl o ran iechyd a lles unigolion neu lefel y risg.

·         Darparu gwybodaeth i dîm y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ynghylch unrhyw newidiadau yn anghenion unigolion a chynnig adborth ynghylch addasrwydd cynllun triniaeth yr unigolyn pan gyfyd unrhyw anawsterau.

·         Ymateb i unrhyw ddigwyddiad andwyol yn ymwneud â'r ymyriad/triniaeth a chofnodi a rhoi gwybod am hynny, gan sicrhau y gweithredir yn ddi-oed fel y bo'n briodol.

·         Paratoi at, cynnal a chofnodi ymyriadau/triniaethau yn briodol, ac yn unol â gofynion deddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau a/neu brotocolau sefydledig.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae sgiliau cyfathrebu da yn hollbwysig gan fod y rôl yn cynnwys rheoli defnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol ar eu llwybr triniaeth. Bydd angen i chi ddarparu gwasanaeth cyfannol a sicrhau bod cynlluniau rheoli yn benodol ar gyfer anghenion unigolion a’u bod yn cael eu cyflwyno mewn ffordd ddealladwy i’r claf.

Bydd disgwyl i chi fynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd amlddisgyblaethol a chysylltu â thimau cymunedol, felly bydd sefydlu partneriaethau gweithio da gyda’r carchar a gwasanaethau cymunedol yn hanfodol.

Ein nod yw dynodi staff sydd â chred gryf mewn adferiad, ac mae’n bwysig bod gennych ddealltwriaeth dda o ofalu am gleifion o bob cefndir gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i ddynodi ymddygiadau peryglus.

Byddwch yn ymuno â thîm sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles cleifion o dan ein gofal felly bydd angen i chi fod agos-atoch, yn egnïol, yn wydn ac yn gallu addasu i amgylchedd sy'n newid yn barhaus.

Yn ogystal, rydym yn awyddus i ddatblygu gweithwyr a chynnig dilyniant rhagorol drwy wahanol lwybrau gyrfa.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac

Sylwer bod unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar gael gwiriad DBS a chliriad charchar llwyddiannus. 

Sylwch os bydd eich cais yn llwyddiannus ac y cewch  eich gwahodd i gyfweliad, cânt eu cynnal ar y safle yn CEF Berwyn er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth am yr amgylchedd. Ni dderbynnir ceisiadau am gyfweliadau rhithiol.

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • RMN neu RGN, Cymhwyster Proffesiynol Cysylltiedig / GGN/RMN
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o gynllunio, darparu a gwerthuso cynlluniau gofal mewn ymateb i anghenion cymhleth.
  • Profiad o asesu iechyd a lles cleifion a goruchwylio staff a systemau eraill.
  • Profiad Camddefnyddio sylweddau
Meini prawf dymunol
  • Nyrsio mewn amgylchedd diogel.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jonathan Parry
Teitl y swydd
Substance Misuse Lead
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01978 523390
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg