Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch Fferyllydd - Gofal Sylfaenol a'r Gymuned
Gradd 8a
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi’n berson rhagweithiol sydd â sgiliau fferylliaeth clinigol da? Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyffrous sy’n datblygu o hyd? Eisiau gweithio i ddatblygu gwasanaeth rhagorol a dilyn taith y claf o’r ysbyty i’w cartref?
Rydym eisiau ehangu ein tîm presennol gyda’r cyfle cyffrous hwn i fferyllydd clinigol blaengar, sydd â diddordeb mewn datblygu ei yrfa yn gweithio ar draws sectorau yn ysbytai cymunedol a gofal cychwynnol, gan wella’r canlyniadau i gleifion sy’n ymwneud â meddyginiaethau a lleihau’r amrywiadau mewn rhagnodi, gan sicrhau diogelwch cleifion.
Byddwch yn awyddus, ac yn angerddol am ofal cleifion gyda sgiliau cyfathrebu arddechog er mwyn gweitio gyda’r tîm amlddisgyblaethol dynamig ar draws y ardal yn lleol a’r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn gwneud y gorau o feddyginaethau gyda dull canolbwyntio ar y claf. Byddwch wedi'ch lleoli'n bennaf yn ardal BIPBC y Dwyrain, gan weithio yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch ddarparu gwasanaethau fferylliaeth clinigol mewn ysbytai cymunedol, timau nyrsio’r cymuned a mewn meddygfeydd teuluol yn sicrhau ymroddiad i’r dull ymarfer ar sail tystiolaeth. Bydd y swydd angen i chi arwain ar goruwchwyliaeth meddyginaethau ar gyfer yr ardal lleol a gweithio gyda’r Arweinydd y Clwstwr ar llifau gwaith blaenorol.
Yn ddelfrydol, byddwch yn rhagnodwr gyda'r cyfle i ddatblygu clinigau rheoli clefydau a arweinir gan fferyllydd. Ein gweledigaeth fel tîm yw gallu cynnig gofal fferyllol yn nes at adref, gan ganolbwyntio'n benodol ar bobl sy'n byw gyda bregusrwydd.
Mae’r swydd ar gael i fferyllwyr sy’n gweithio ym mhob sector o’r proffesiwn, a gallai gynnwys y cyfle i weithio ar draws nifer o sectorau fferyllol.
Penodir i’r swydd hon ar fand 8a. Croesawyd ceisiadau am rannu'r swydd.
Fesul aches, gall costau adleoli fod ar gael fel yr amlinellir ym mholisi BCUHB a gellir eu trafod mewn cyfweliad
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr mewn fferylliaeth neu gyfwerth
- Wedi cofrestru â'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- MSc/Diploma Ôl-radd mewn Fferylliaeth Glinigol neu brofiad a/neu gymwysterau cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a chofrestru â'r Gyfadran
- Wedi'ch achredu neu'n gymwys i gael eich achredu fel diploma Fferylliaeth Glinigol/tiwtor MSc y Sefydliad Addysg Uwch
- Cymhwyster hyfforddi, cymhwyster arwain a/neu reoli
- Cymhwyster rhagnodi anfeddygol (neu'n gweithio tuag at ei ennill)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Mae'n rhaid i chi allu dangos lefel addas o brofiad yn gweithio yn y sector a reolir a/neu mewn fferylliaeth gymunedol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ardal glinigol berthnasol
- Profiad o arwain a rheoli
Tueddfryd a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Dangos gallu i ddylanwadu a thrafod mewn lleoliad tîm amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o roi newid ar waith
- Yn cyfathrebu'n dda, yn llawn cymhelliant, gallu arwain a gweithio fel rhan o dîm
- Gallu pennu terfynau amser a'u bodloni
- Yn gallu blaenoriaethu a dirprwyo
- Datblygu protocolau a gweithdrefnau
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o reoli pobl yn llwyddiannus
- Sgiliau addysgu a chyflwyno
- Tystiolaeth o oruchwylio neu o fentora staff fferylliaeth
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jaime Valentim
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Pharmacy, Primary Care & Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 857 596
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Vicky Allum – Pennaeth Fferylliaeth, Gofal Sylfaenol a'r Gymuned (Dwyrain)
Ffôn: 03000 857 598 (opsiwn Voicemail ar gael)
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector