Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
- Cyfeirnod y swydd
- 050-PST021-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Technegydd Fferylliaeth Arweiniol – Caffael Fferylliaeth
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y tîm technegwyr fferylliaeth, mae gennym 3 swydd newydd gyffrous.
Ydych chi'n dechnegydd fferylliaeth cofrestredig brwdfrydig a blaengar sy'n chwilio am gyfle unigryw? Yna ymunwch â'r adran fferylliaeth gyfeillgar, Ysbyty Maelor Wrecsam yn Nwyrain BIPBC, yn y rôl o Dechnegydd Fferylliaeth Arweiniol - Caffael
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal cyflenwad diogel o feddyginiaethau, ddatblygu'r gwasanaeth fferylliaeth a'r gweithlu fferyllol yn unol â'n gweledigaeth strategol i sicrhau ein bod yn gallu darparu'r gofal gorau posibl i gleifion Gogledd Dwyrain Cymru. Byddwch yn rhan o'r uwch dîm rheoli fferyllfa a byddwch yn gyfrifol am adolygu prosesau presennol a gweithredu newid lle bo angen, er mwyn sicrhau bod yr adran fferyllfa'n rhedeg yn llyfn.
Yn y sefyllfa arloesol hon, byddwch yn cydweithio â thimau amrywiol ar brosiectau blaengar sy'n cynnwys systemau fel chefnogi gweithredu rhagnodi electronig a Optimeiddio Gwasanaeth Caffael Fferylliaeth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ysgogi i gyflwyno datblygiadau technoleg newydd i wneud y gorau o weithrediadau fferylliaeth, gwella diogelwch meddyginiaethau, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoleiddwyr gofal iechyd mewn safle cyflawn trwyddedig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24.03.2025
Prif ddyletswyddau'r swydd
-
Rheoli cydymffurfiaeth â'r drwydded Deliwr Cyfanwerthol a sicrhau cydymffurfiaeth â thrwydded Cyffuriau a Reolir gan y Swyddfa Gartref
-
Sicrhau bod system gyfrifiadurol fferyllfeydd yn cael ei huchafu i gynnal a rheoli lefelau stoc i ateb y galw
-
Cyrchu cynhyrchion meddyginiaethol amgen o'r ansawdd gofynnol yn ystod prinder meddyginiaethau
-
Caffael meddyginiaethau gan gyflenwyr cymeradwy yn dilyn gwiriadau diwydrwydd dyladwy a chwrdd a chyfarwyddiadau ariannol y bwrdd iechyd
-
Mynychu cyfarfodydd allanol gan gynnwys grŵp defnyddwyr robot, grŵp defnyddwyr Wellsky Cymru Gyfan
-
Sicrhau bod y contractau meddyginiaethau yn cael eu diweddaru ac ati wrth weithio ar y cyd â'r Fferyllydd Arweiniol Caffael
-
Rheoli asesiadau risg iechyd a diogelwch ac ymholiadau iechyd a diogelwch sy'n ymwneud â chaffael meddyginiaethau
-
Cwblhau a chynnal risgiau ar y gofrestr risg sy'n gysylltiedig â chaffael meddyginiaethau
-
Rheoli llinell y tîm caffael
-
Dirprwyo ar gyfer Prif Dechnegydd Fferylliaeth a Thechnegydd Fferylliaeth Arweiniol – Gweithrediadau Ysbyty
-
Cynnal trosolwg o wyliau blynyddol ar gyfer holl staff caffael y fferyllfa
-
Sicrhau bod yr holl gynhyrchion a gaffaelir sy'n cael eu gor-labelu neu eu pecynnu ymlaen llaw yn bodloni'r trefniadau llywodraethu gofynnol
-
Rheoli DPA ar gyfer gwasanaethau caffael
-
Sicrhau bod y gwasanaethau caffael fferylliaeth yn bodloni'r fframweithiau llywodraethu gofynnol
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person o fewn dogfennau ategol neu cliciwch "Apply Now" i'w weld yn Trac
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- NVQ/QCF lefel III mewn Gwasanaethau Fferylliaeth neu gymhwyster cyfatebol
- Technegydd Gwirio Fferylliaeth Achrededig
- Cymhwyster ILM Rheolaeth lefel 4 neu lefel o brofiad rheoli cyfatebol
- Technegydd fferylliaeth cofrestredig
Meini prawf dymunol
- Aseswr QCF yn y gwaith
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Lefel sylweddol o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwasanaethau fferylliaeth
- Profiad o reoli tîm/timau fferylliaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ystod eang o wasanaethau fferylliaeth.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau arwain
- Sgiliau rheoli amser da
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau trafod
- Profiad o reoli gwrthdaro
- Y gallu i flaenoriaethu a dirprwyo
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o gyflwyno a rheoli newid yn llwyddiannus
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Dalrymple
- Teitl y swydd
- Chief Pharmacy Technician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000857299
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector