Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r wefan hon yn annibynnol ar y GIG a'r Adran Iechyd.

Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwasanaethau Technegol Fferylliaeth
Gradd
Gradd 7
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (Cymryd rhan mewn darparu gwasanaethau Fferyllol oriau estynedig, ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus.)
Cyfeirnod y swydd
050-PST022-0225
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Maelor Wrecsam
Tref
Wrexham
Cyflog
£46,840 - £53,602 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/03/2025 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Technegydd Fferylliaeth Arweiniol – Gweithrediadau Ysbyty

Gradd 7

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Trosolwg o'r swydd

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y tîm technegwyr fferylliaeth, mae gennym 3 swydd newydd gyffrous. 

Ydych chi'n dechnegydd fferylliaeth cofrestredig brwdfrydig a blaengar sy'n chwilio am gyfle unigryw? Yna ymunwch â'r adran fferylliaeth gyfeillgar, Ysbyty Maelor Wrecsam yn Nwyrain BIPBC, yn y rôl o Dechnegydd Fferylliaeth Arweiniol Gweithrediadau yr Ysbyty. 

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu’r gwasanaeth fferylliaeth a’r gweithlu fferyllol yn unol â’n gweledigaeth strategol i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gofal gorau posibl i gleifion Gogledd Dwyrain Cymru. Byddwch yn rhan o’r uwch dîm rheoli fferyllfa a byddwch yn gyfrirol am adolygu prosesau presennol a gweithredu newid lle bo angen, er mwyn sicrhau bod yr adran fferyllfa’n rhedeg yn llyfn. 

Yn y sefyllfa arloesol hon, byddwch yn cydweithio â thimau amrywiol ar brosiectau blaengar sy'n cynnwys systemau fel chefnogi gweithredu rhagnodi electronig a loceri casglu presgripsiwn fferylliaeth 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ysgogi i gyflwyno datblygiadau technoleg newydd i wneud y gorau o weithrediadau fferylliaeth, gwella diogelwch meddyginiaethau, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoleiddwyr gofal iechyd. 

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 24 Mawrth 2025

Prif ddyletswyddau'r swydd

  • Rheoli cydymffurfiaeth â thrwydded Cyffuriau a Reolir gan y Swyddfa Gartref a sicrhau cydymffurfiaeth â'r drwydded Delio Gyfanwerthol  

  • Sicrhau bod yr holl rotas gweithredol yn cael eu cwblhau 

  • Mynychu cyfarfodydd allanol gan gynnwys grŵp defnyddwyr y robot, grŵp defnyddwyr Wellsky Cymru Gyfan  

  • Rheoli ymchwiliadau digwyddiadau dosbarthu neu gyflenwi 

  • Sicrhau bod holl gontractau cynnal a chadw yn cael eu hadolygu a'u diweddaru wrth weithio ar y cyd â'r Rheolwr Busnes Fferylliaeth  

  1. Robot
  2.  Larwm tresmaswyr
  3. Locer casglu presgripsiwn
  4. Offer trin gwrthrychau
  5. Offer nitrogen hylifol  
  • Rheoli asesiadau ac ymholiadau risg iechyd a diogelwch   

  • Cwblhau a chynnal risgiau ar gofrestr risg y bwrdd iechyd sy'n gysylltiedig â gweithrediadau ysbyty. 

  • Rheoli llinell Uwch-Dechnegwyr y fferyllfa a’r Prif Dechnegydd Fferyllfa - Caffael    

  • Dirprwyo ar gyfer y Prif Dechnegydd Fferylliaeth a'r Technegydd Fferylliaeth ArweiniolCaffael. 

  • Rheoli'r broses gwirio stoc dyddiol ac ymchwiliadau. 

  • Cynnal trosolwg o wyliau blynyddol i holl staff cymorthol y fferyllfa  

  • Sicrhau bod yr holl gynhyrchion a ddarperir sydd wedi eu gor-labelu neu eu pecynnu ymlaen llaw yn bodloni'r trefniadau llywodraethu gofynnol a goruchwylio cynhyrchu mewnol  

  • Rheoli KPI ar gyfer gwasanaethau gweithrediadau ysbyty

  • Yn rhoi sicrwydd bod gwasanaethau gweithrediadau ysbytai yn bodloni'r fframweithiau llywodraethu gofynnol 

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

 

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

 

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

 

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • NVQ/QCF lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferylliaeth neu gyfwerth
  • Technegydd Gwirio Fferylliaeth Achrededig
  • Cymhwyster Rheolaeth ILM Lefel 4 neu gyfwerth
  • Technegydd Fferylliaeth Cofrestredig
Meini prawf dymunol
  • Aseswr QCF yn y gwaith

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Lefel sylweddol o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwasanaethau fferylliaeth
  • Profiad o reoli tîm(au) fferylliaeth
Meini prawf dymunol
  • Profiad mewn ystod eang o wasanaethau fferyllol

Sgiliau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau arwain
  • Sgiliau rheoli amser da
  • Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Sgiliau trafod
  • Profiad o reoli gwrthdaro
  • Y gallu i flaenoriaethu a dirprwyo
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o gyflwyno a rheoli newid yn llwyddiannus

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Helen Dalrymple
Teitl y swydd
Chief Pharmacy Technician
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000857299
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am ragor o fanylion / ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:

Karen Herbert

feryllydd Arweiniol, Gwasanaethau Cynhyrchu Fferylliaeth [email protected]

01745 448788 estyniad 2769

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg