Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Prostheteg
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP098-0425
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Gwasanaeth Ystum a Symudedd – Adran Prosthetig, Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £30,420 - £37,030 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 23/04/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Prosthetydd Iau
Gradd 5
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rôl y Prosthetydd Iau yw asesu, rhagnodi a thrin trychedigion a'r rhai sydd heb goesau neu freichiau drwy ddarparu dyfeisiau meddygol a wnaed yn arbennig i ddiwallu anghenion prostheteg cymhleth cleientiaid sydd ag anabledd difrifol, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu gan gynnwys systemau TG. Mae'r rôl yn cynnwys dylunio, creu lluniadau gweithio ar gyfer y tîm technegol a dealltwriaeth o fanyleb a pherfformiad deunyddiau er mwyn rhagnodi mewn ffordd briodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Prosthetydd Iau yn helpu gyda'r gwaith cynnal a chadw, canfod beiau ac atgyweirio parhaus ar gyfer y dyfeisiau arbenigol iawn hyn.
Bydd y Prosthetydd Iau yn cymryd rhan mewn clinigau amlddisgyblaethol gyda chyd-aelodau o'r tîm a'r rhai o wasanaethau atgyfeirio yn BIPBC a thu hwnt.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei gynnwys mewn darpariaeth a thriniaeth ar gyfer breichiau a choesau gan roi cymorth angenrheidiol ar gyfer yr achosion cymhleth iawn. Caiff triniaeth ar gyfer cyn-filwyr, yn ogystal â darpariaeth Myodrydanol ar gyfer breichiau a Microbrosesydd eu goruchwylio gan uwch-glinigydd.
Gall y Prosthetydd Iau ymgymryd ag ymweliadau â chartrefi cleientiaid ac ymweliadau ag ysbytai, ysgolion a sefydliadau eraill yng nghwmni aelod arall o'r tîm.
Asesu, adeiladu, addasu, dangos a rhoi cyfarwyddiadau o ran defnyddio cyfarpar; bydd gwaith gweinyddol arferol, blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a chyfrannu at waith cynllunio llwyth gwaith grŵp yn angenrheidiol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae cyfrifoldebau craidd yn cynnwys: Gofal cleifion gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gywiro plastr a dylunio ac adolygu presgripsiynau, mewnbwn MDT, cyfathrebu, ymchwil ac archwilio, datblygu gwasanaethau a DPP, a thasgau gweinyddol.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Phrofiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddangos cyflawniad cymwysterau - cyfeiriad at brofiad clinigol
- Os nad yw'n gymwys yn mynegi canlyniadau hyd yma
- Dangos sgiliau gweithio tîm o fewn sefydliad
- Cofrestru proffesiynol - HCPC
Meini prawf dymunol
- Cyfeiriad at bortffolio profiad
- Diddordeb/set sgiliau arbenigol
- Cyrsiau hyfforddi / DPP - e.e. MPK ac ati
- Profiad o gyfranogiad neu wybodaeth o ddatblygu gwasanaeth
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- • Y gallu i weithio dan bwysau
- Tystiolaeth o sgiliau cyfathrebu a diplomyddiaeth dda
Meini prawf dymunol
- Yn gallu dylanwadu a negodi.
- Profiad o gyflwyno i grŵp
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Hyblyg, hyderus, gofalgar a thrugarog, yn ymrwymedig i ddysgu a datblygu'n barhaus
- Yn gallu dangos gwerthoedd BIPBC
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Katie Davis
- Teitl y swydd
- Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000850055
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os ydych chi'n ffonio'r gwasanaeth, gofynnwch am Katie Davis ddydd Mercher - dydd Gwener, dydd Llun - dydd Mawrth gofynnwch am Rachel Malcolm. Mae croeso i chi drefnu ymweliad â'r adran os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector