Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Therapi Iaith a Lleferydd
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-AHP163-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Maelor Wrecsam
- Tref
- Wrecsam
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 17/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Therapydd Iaith a Lleferydd – Uwch Arbenigwr
Gradd 7
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym swydd wag newydd gyffrous yn nhîm oedolion Therapi Iaith a Lleferydd Dwyrain BIPBC yn gweithio 3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr). Byddwch yn arwain ein gwasanaeth llais ac yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth i gleifion ag FND. Mae cyfleoedd i gyfrannu at feysydd gwasanaeth eraill fel dysfluency oedolion yn unol â'ch sgiliau clinigol a diddordebau.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae hwn yn gyfle i Therapydd Iaith a Lleferydd profiadol, deinamig a llawn cymhelliant. Rydym yn chwilio am arbenigwr clinigol a all gefnogi a datblygu Therapyddion Iaith a Lleferydd a HT, cynrychioli ThIaLl o fewn y tîm amlddisgyblaethol a helpu i lywio datblygiad ein gwasanaethau llais ac FND yn y dyfodol. Mae gennym berthnasoedd gwaith rhagorol gyda'n hadran CTG, gan gynnwys Clinig Llais ar y Cyd ddwywaith y mis. Ar gyfer y rôl glinigol allweddol hon, rydym yn chwilio am ThiaLl angerddol hefo sgiliau mewn arweinyddiaeth glinigol gan gynnwys datblygu sgiliau a gwybodaeth pobl eraill. Mae cyfleoedd i gyflawni rhai agweddau ar y rôl hon o bell.
Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a chefnogol Therapi Iaith a Lleferydd Oedolion Dwyrain BIPBC lle mae ystod eang o arbenigedd a phrofiad. Byddwch yn ymuno â thîm cynyddol o Therapyddion Iaith a Lleferydd a hyfforddwyr technegol. Ceir cefnogaeth ardderchog gan gymheiriaid a goruchwyliaeth glinigol reolaidd.
Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm rheolaidd ac mae gennym gysylltiadau cryf â gwasanaethau arbenigol eraill. Mae DPP traws-dîm a chyfleoedd hyfforddi rheolaidd wrth i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau clinigol. Mae mynediad i glinigau rheolaidd dan arweiniad therapyddion a thîm amlddisgyblaethol gan gynnwys Fideofflworosgopeg a FEES. Byddwch yn arwain ystod o welliannau gwasanaeth ac anogir mentrau tîm amlddisgyblaethol.
Rydym yn hapus iawn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rôl hon ac rydym yn croesawu ymweliadau anffurfiol.
Gweithio i'n sefydliad
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- • Gradd gydnabyddedig / cymhwyster cydnabyddedig cyfwerth mewn Therapi Iaith a Lleferydd
- • HCPC Cofrestredig
- • Astudio ôl-radd sy'n berthnasol i faes clinigol ar lefel Gradd Meistr neu brofiad amlwg cyfwerth ar y lefel hon
- • Gallu dangos datblygiad proffesiynol parhaus e.e. portffolio datblygiad proffesiynol parhaus cyfredol, perthnasol.
- • Hyfforddiant sgiliau clinigol goruchwyliol
Meini prawf dymunol
- • Aelodaeth â grŵp rhwydwaith clinigol priodol
- • Cymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sy'n ymwneud ag arfer clinigol
- • Tystysgrif Addysgwr Lleoliad Ymarfer wedi'i Achredu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Profiad clinigol sylweddol mewn maes arbenigol
- • Profiad o arweinyddiaeth glinigol
- • Dirprwyo i staff cymwys a staff nad ydynt wedi cofrestru
- • Profiad o ddarparu addysg glinigol yn y maes arbenigol
- • Profiad sylweddol o arwain timau amlddisgyblaethol / amlbroffesiynol
- •• Profiad o ddatblygu/gwella gwasanaeth.
- • Profiad o arwain archwiliad clinigol
- • Profiad o ddarparu/cefnogi arfer/newid gwasanaeth
- • Darparu Goruchwyliaeth Arfer
- • Cyfrannu at hyfforddiant myfyrwyr
Meini prawf dymunol
- • Darpariaeth therapi Cymraeg / Saesneg
- • Profiad o ddarlithio’n allanol
- • Profiad o reoli prosiect
- • Profiad clinigol ychwanegol neu sy'n gysylltiedig â phrofiad
- • Profiad mewn ymchwil
Profiad
Meini prawf hanfodol
- • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
- • Yn gallu datrys problemau
- • Sgiliau trafod
- • Sgiliau blaenoriaethu
- • Gallu i weithio fel aelod o dîm
- • Profiad a gwybodaeth clinigol arbenigol helaeth o ran yr arbenigedd
- • Tystiolaeth o astudio diweddar mewn maes clinigol perthnasol
- • Ymwybyddiaeth o rolau gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â gofalu am ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n rhan o lwyth achosion cytunedig
- • Darparu Goruchwyliaeth Arfer
Meini prawf dymunol
- • Darpariaeth therapi Cymraeg / Saesneg
- • Gwybodaeth a sgiliau Cyfathrebu Amgen a Chryfhaol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jan Jenkins
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Speech and Language Therapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07824 475524
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rydym yn croesawu ymholiadau ac ymweliadau anffurfiol.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector